Neidio i'r prif gynnwy

Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)

O dan 18 oed

Cafodd 1,041 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Medi 2025.

Ym mis Medi 2025, roedd 96.2% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.

Cafodd 72.4% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Medi 2025.

18 oed a throsodd

Cafodd 6,133 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Medi 2025.

Ym mis Medi 2025, roedd 91.0% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.

Cafodd 89.8% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Medi 2025.

Pob oedran

Cafodd 7,174 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Medi 2025.

Ym mis Medi 2025, roedd 91.8% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.

Cafodd 86.0% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Medi 2025.

Rhan 2: Cynlluniau Gofal a Thriniaeth

O dan 18 oed

Roedd 787 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Medi 2025. O'r rhain, roedd gan 735 (93.4%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.

18 oed a throsodd

Roedd 16,761 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Medi 2025. O'r rhain, roedd gan 13,656 (81.5%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.

Pob oedran

Roedd 17,548 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Medi 2025. O'r rhain, roedd gan 14,391 (82.0%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.

Rhan 3: Asesiadau ar Ddefnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd

Yn ystod mis Medi 2025, roedd 93.2% o adroddiadau ar ganlyniadau asesiadau yn cael eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i asesiad Rhan 3 gael ei gynnal.

Manylion cyswllt

Ystadegau Perfformiad GIG Cymru 
E-bost: hss.performance@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099