Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: Hydref i Ragfyr 2025
Data ar atgyfeiriadau ac amserau aros ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol (asesiadau ac ymyriadau therapiwtig) ay gyfer Hydref i Ragfyr 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)
O dan 18 oed
- Cafodd 1,030 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Rhagfyr 2025.
- Ym mis Rhagfyr 2025, roedd 94.3% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 87.6% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Rhagfyr 2025.
18 oed a throsodd
- Cafodd 5,494 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Rhagyr 2025.
- Ym mis Rhagfyr 2025, roedd 83.9% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 93.7% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Ragfyr 2025.
Pob oedran
- Cafodd 6,524 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Rhagyr 2025.
- Ym mis Rhagyr 2025, roedd 86.1% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 92.4% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Rhagyr 2025.
Rhan 2: Cynlluniau Gofal a Thriniaeth
O dan 18 oed
Roedd 693 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Rahgfyr 2025; o'r rhain, roedd gan 654 (94.4%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.
18 oed a throsodd
Roedd 16,944 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Rhagfyr 2025; o'r rhain, roedd gan 14,047 (82.9%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.
Pob oedran
Roedd 17,637 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Rhagfyr 2025; o'r rhain, roedd gan 14,701 (83.4%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.
Rhan 3: Asesiadau ar Ddefnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd
Yn ystod mis Rhagfyr 2025, roedd 93.1% o adroddiadau ar ganlyniadau asesiadau yn cael eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i asesiad Rhan 3 gael ei gynnal.
Manylion cyswllt
Ystadegau Perfformiad GIG Cymru
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
