Neidio i'r prif gynnwy

Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)

O dan 18 oed

  • Cafodd 1,225 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mawrth 2026.
  • Ym mis Mawrth 2026, roedd 91.6% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
  • Cafodd 87.8% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mawrth 2026.

18 oed a throsodd

  • Cafodd 6,343 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mawrth 2026.
  • Ym mis Mawrth 2026, roedd 83.0% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
  • Cafodd 94.4% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mawrth 2026.

Pob oedran

  • Cafodd 7,568 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mawrth 2026.
  • Ym mis Mawrth 2026, roedd 84.9% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
  • Cafodd 92.7% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mawrth 2026.

Rhan 2: Cynlluniau Gofal a Thriniaeth

O dan 18 oed

Roedd 726 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mawrth 2026; o'r rhain, roedd gan 681 (93.8%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.

18 oed a throsodd

Roedd 16,772 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mawrth 2026; o'r rhain, roedd gan 14,230 (84.8%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.

Pob oedran

Roedd 17,498 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mawrth 2026; o'r rhain, roedd gan 14,911 (85.2%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.

Rhan 3: Asesiadau ar Ddefnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd

Yn ystod mis Mawrth 2026, roedd 92.3% o adroddiadau ar ganlyniadau asesiadau yn cael eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i asesiad Rhan 3 gael ei gynnal.

Manylion cyswllt

Ystadegau Perfformiad GIG Cymru 
E-bost: hss.performance@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099