Neidio i'r prif gynnwy

Am y tro cyntaf, bydd yr amser aros i bob claf canser yng Nghymru yn cael ei fesur o'r dyddiad y ceir amheuaeth bod ganddo ganser, yn hytrach na'r dyddiad pan fydd yr ysbyty yn derbyn ei atgyfeiriad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y mesur newydd, sydd y cyntaf o'i fath yn y DU, yw cyflymu diagnosis a chyflymu'r broses o drin pobl sydd â chanser. Cafodd ei gynllunio a'i ddatblygu gan glinigwyr, ac mae wedi cael cymeradwyaeth gan elusennau canser. 

Yn y pen draw, bydd yn disodli'r model a ddefnyddir ar hyn o bryd i fesur amseroedd aros i gael triniaeth am ganser, sy'n seiliedig ar nodweddion y canser sydd gan unigolyn, gan ei roi naill ai ar lwybr 31 diwrnod neu lwybr 62 diwrnod; sef model sydd wedi cael ei ddefnyddio ledled y DU ers blynyddoedd.

Bellach defnyddir un dull cyson i fesur amseroedd aros yr holl gleifion sydd â chanser, waeth pa fath o ganser sydd ganddynt.  Bellach mae pob claf yn cael ei fesur yn erbyn llwybr 62 diwrnod, ac mae'n bwysig nodi bod y llwybr hwn yn dechrau o bwynt cynharach, sef o'r dyddiad y ceir amheuaeth bod ganddo ganser.

Cafodd y set gyntaf o ystadegau ar gyfer y mesur newydd ei chyhoeddi heddiw, ac mae'n dangos bod 74.4% o bobl wedi cael eu trin o fewn 62 diwrnod i'r dyddiad y cafwyd amheuaeth bod ganddynt ganser.

Mae cyflwyno'r mesur newydd hwn yn gam cyntaf mewn rhaglen i wella amseroldeb, cysondeb ac ansawdd gofal canser yng Nghymru. 

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £3m ychwanegol bob blwyddyn i helpu byrddau iechyd yng Nghymru i weithredu'r mesur newydd. Bydd yr arian newydd yn canolbwyntio ar wella elfen ddiagnostig y llwybr, er mwyn i bobl wybod yn gynt a oes ganddynt ganser ai peidio, ac os felly symud ymlaen at gael triniaeth amserol.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd:

Canser yw’r afiechyd sy’n achosi’r rhan fwyaf o farwolaethau cyn pryd yng Nghymru â’r DU. Mae'r debygol iawn y bydd canser yn cyffwrdd â bywydau pob un ohonom rywbryd neu'i gilydd.

Dw i'n falch bod Cymru yn arwain y ffordd yn y DU drwy fabwysiadu Un Llwybr Canser, sy'n cael cefnogaeth helaeth gan glinigwyr ac elusennau. 

Rydym yn gweithio i helpu byrddau iechyd i wella perfformiad yn erbyn y mesur newydd, a dw i'n hyderus y bydd hynny'n arwain at ddarparu gwasanaethau gwell i'r claf. Mae hyn yn gam hanfodol ymlaen yn yr ymgyrch i wella canlyniadau i gleifion canser yng Nghymru.

Dywedodd Richard Pugh, Pennaeth Gwasanaethau (Cymru) Cymorth Canser Macmillan:

Mae Macmillan yn croesawu'r cam dewr hwn sydd wedi ei gymryd gan Lywodraeth Cymru i fesur amseroedd aros am driniaeth canser o'r dyddiad pryd mae amheuaeth bod gan glaf ganser. Hefyd rydyn ni’n yn ymfalchïo yn y ffaith mai Cymru yw'r wlad gyntaf, ac yn wir yr unig wlad, yn y DU i wneud hyn. 
 
“Rydyn ni'n credu y bydd y dull gweithredu hwn, sy'n fwy tryloyw, yn amlygu unrhyw oedi a'r hyn sydd wedi ei achosi. Wedyn bydd yn bosibl gwella'r broses i sicrhau bod pawb sy'n cael diagnosis o ganser yng Nghymru yn cael y driniaeth gywir yn brydlon.