Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, ei daith drwy'r Senedd a deddfwriaeth israddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (‘y Mesur’) yn gwneud darpariaeth ynghylch teithio i’r rhai sy’n derbyn addysg gynradd, addysg uwchradd neu addysg bellach neu hyfforddiant yn ôl a blaen i ysgolion neu fannau eraill lle maent yn ei dderbyn.

Prif amcanion Llywodraeth Cymru wrth weithredu’r Mesur yw:

  • cynyddu’r hawl i gludiant am ddim i’r ysgol ar gyfer plant ysgol gynradd os ydynt yn byw ddwy filltir neu fwy o’r ysgol;
  • ailddeddfu’r hawl i gludiant am ddim i blant ysgol uwchradd os ydynt yn byw dair milltir neu fwy o’r ysgol addas agosaf;
  • darparu hawl i gludiant am ddim i’r ysgol os yw’r rhieni am i’w plentyn gael ei addysgu mewn ysgol o natur grefyddol, yn amodol ar feini prawf o ran oedran/pellter, os nad yw’r ysgol addas agosaf o natur felly;
  • cyflwyno gofyniad penodol i asesu a darparu ar gyfer anghenion plant sy’n derbyn gofal ac egluro’r trefniadau talu cysylltiedig rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru;
  • ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru, wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Mesur, hyrwyddo mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg;
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud cod ymddygiad (y Cod Ymddygiad wrth Deithio ar gyfer Cymru-gyfan) mewn perthynas â theithio yn ôl a blaen i fannau dysgu a mynnu bod hyn yn dod yn rhan o bolisi ymddygiad ysgol; a
  • rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol newid amseroedd sesiynau ysgol os gall hynny wella trefniadau cludiant neu gynaliadwyedd amgylcheddol.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Mesur yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y gwahanol ddarpariaethau.

Read the full Measure:

Dod i rym

Daeth adran 27 i 29 i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dilyn y Gymeradwyaeth Frenhinol (mewn geiriau eraill ar 10 Chwefror 2009), yn unol ag adran 28(1).

Daw gweddill darpariaethau’r Mesur i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn, yn unol ag adran 28(2).

Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Mesur

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Mesur ar 15 Ebrill 2008 gan Ieuan Wyn Jones AC, y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd.

Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 30 Medi 2008:

a’r Memorandwm Esboniadol a baratowyd gan Lywodraeth Cymru (i adlewyrchu’r Mesur fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 o’r ystyriaeth):

Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 10 Rhagfyr 2008.

Diwygiwyd Mesur 2008 gan Fesur Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) 2011.

Erthyglau neu ddeunydd cysylltiedig