Trosolwg o Ddeddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Cyflwynodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) fframwaith cyfreithiol sy’n gosod dyletswyddau statudol yn ymwneud â defnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r Mesur yn cynnwys darpariaeth sy’n rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg ac yn sefydlu Comisiynydd y Gymraeg.
Prif nod y Comisiynydd yw hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ac, ymysg pethau eraill, ymroi i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae gan y Comisiynydd hefyd y grym i ymchwilio i achosion o ymyrryd honedig â rhyddid yr unigolyn i ddefnyddio’r Gymraeg mewn amgylchiadau penodol. Mae Gweinidogion Cymru yn penodi Panel Cynghori sy’n cefnogi’r Comisiynydd wrth weithredu swyddogaethau penodol.
Mae’r Mesur yn darparu ar gyfer datblygu safonau ymddygiad mewn perthynas â defnyddio’r Gymraeg i ddisodli’r system o gynlluniau iaith Gymraeg a ddaeth i fodolaeth yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 (“Deddf 1993”). Dim ond ar y cyrff a enwir neu sydd wedi eu cynnwys o fewn categori a restrir yn y Mesur y gellir gosod gofyniad i gydymffurfio â safonau. Gweinidogion Cymru sy’n paratoi rheoliadau i bennu pa safonau sy’n benodol gymwys i gyrff neu i gategori o gyrff. Comisiynydd y Gymraeg sy’n dyroddi hysbysiad cydymffurfio i gyrff unigol i nodi pa safonau o fewn rheoliadau mae rhaid iddynt gydymffurfio â hwy. Mae’r hysbysiad cydymffurfio hefyd yn nodi erbyn pryd y mae’n rhaid i’r corff gydymffurfio.
Pan fo gan gorff Gynllun Iaith Gymraeg ar waith o dan Ddeddf 1993, rhaid iddo barhau i gydymffurfio â'r cynllun hwnnw tan y dyddiad a bennir yn hysbysiad cydymffurfio'r Comisiynydd ar gyfer dechrau cydymffurfio â safonau.
Mae gan y Comisiynydd bwerau i ymchwilio i achosion o dorri safonau a chyflwyno mesurau gorfodi. Mae gan unrhyw gorff sydd o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau, neu unrhyw unigolyn sydd wedi ei effeithio gan fethiant i gydymffurfio â’r safonau, yr hawl i apelio yn erbyn rhai o benderfyniadau’r Comisiynydd. Mae gan y cyrff sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau yr hawl hefyd i herio gorfodaeth y dyletswyddau hynny. Gellir herio penderfyniadau’r Comisiynydd yn y pen draw yn Nhribiwnlys y Gymraeg a grëwyd dan y Mesur.
Mae’r Mesur hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer sefydlu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg er mwyn rhoi cyngor a sylwadau i Weinidogion Cymru ynglŷn â’u strategaeth iaith Gymraeg.
Gwnaed y Mesur o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (‘Deddf 2006’). Mae hyn yn golygu bod rhaid iddo ymwneud â’r materion penodol (ac na all ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r eithriadau) a nodir yn Atodlen 5 i’r Ddeddf honno. Mae Senedd Cymru bellach yn creu Deddfau o dan Ran 4 o Ddeddf 2006, a’r cyfyngiadau ar gymhwysedd Senedd Cymru erbyn hyn yw’r rheiny a nodir yn Atodlen 7A a 7B. Fodd bynnag, mae’r Mesur ac unrhyw orchmynion neu reoliadau (gan gynnwys rheoliadau sy’n dynodi’r safonau) a wneir o dan y Mesur yn gorfod cydymffurfio â’r cyfyngiadau yn Atodlen 5, gan fod y Mesur wedi ei wneud o dan Ran 3 o Ddeddf 2006.
Dod i rym
Daeth Rhan 1 ac adran 156 o’r Mesur i rym ar 9 Chwefror 2011, sef y diwrnod y cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol.
Daw gweddill darpariaethau’r Mesur i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
Gweler adran 156 o’r Mesur ar legislation.gov.uk
Mae'r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:
- Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 10) 2015 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 9) 2015 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 8) 2015 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 7) 2013 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 6) 2012 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 5) 2012 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 4) 2012 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 3) 2012 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012 ar legislation.gov.uk
- Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 1) 2011 ar legislation.gov.uk
Is-deddfwriaeth sydd wedi ei gwneud o dan y Ddeddf
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Mesur ar 4 Mawrth 2010 gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog Treftadaeth ar y pryd. Pasiwyd y Mesur gan Senedd Cymru (a elwid bryd hynny yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru) ar 7 Rhagfyr 2010.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y’i diwygiwyd yn dilyn trafodion Cyfnod 2):
Cafodd y Mesur y Gymeradwyaeth Frenhinol ar 9 Chwefror 2011.
