Neidio i'r prif gynnwy

Ein hymateb i argymhellion rheithgor dinasyddion i beth sy’n bwysig yng ngofal cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ('y Ddeddf') i rym yn Ebrill 2016. Diben y Ddeddf yw gwella'r ffordd y mae Awdurdodau Lleol yn darparu gofal cymdeithasol ledled Cymru. Bydd hyn yn gwella'r canlyniadau llesiant ar gyfer:

  • pobl sydd angen gofal a chymorth
  • gofalwyr sydd angen cymorth

Roeddem ni, sef Llywodraeth Cymru, yn awyddus i glywed am brofiadau pobl fel rhan o broses werthuso'r Ddeddf. Dechreuodd prosiect Mesur y Mynydd yn Ionawr 2018. Defnyddiodd y prosiect yr offeryn arolwg SenseMaker a Rheithgor Dinasyddion i wneud argymhellion. Mae SenseMaker yn cyfuno data a straeon dynol i ddeall profiadau pobl. Darparodd Llywodraeth Cymru ymateb ffurfiol i'r argymhellion. Yn 2020 cytunwyd ar estyniad o 18 mis i’r prosiect.

Defnyddiodd y prosiect yr un dulliau i ddeall profiadau pobl o ddarpariaeth Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Cafwyd argymhellion pellach gan yr 16 oedd ar y Rheithgor ar gyfer y pedwar maes craidd:

  • polisi
  • ymarfer
  • pobl
  • proses

Rydym yn croesawu gwaith tîm Mesur y Mynydd. Darparwyd ymateb ffurfiol i'r argymhellion. Mae'n egluro sut y byddwn yn gweithio gyda'r sector gofal cymdeithasol i gyflawni'r argymhellion hyn.

Ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru

Mae ein hymateb ffurfiol yn mynd i'r afael â’r 16 argymhelliad yn Adroddiad Mesur y Mynydd.

Polisi

Argymhelliad 1

Rydym yn argymell i Lywodraeth Cymru eu bod yn penodi Comisiynydd Pobl Anabl yn 2021.

Cafwyd argymhelliad tebyg yn yr adroddiad Drws ar Glo. Cytunodd y Prif Weinidog i sefydlu Tasglu Hawliau Anabledd dan arweiniad y Gweinidog. Bydd aelodau'r Tasglu’n cynnwys rhanddeiliaid o wahanol sectorau. Bydd y Tasglu’n cynnwys cynrychiolwyr a ddewiswyd gan y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl hefyd. Bydd pobl anabl yn cael lle blaenllaw yn y gwaith hwn.

Bydd y tasglu’n mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a amlygwyd gan yr adroddiad Drws ar Glo. Byddwn yn gweithio ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gyflawni'r camau hyn. Bydd y Tasglu’n:

  • datblygu Cynllun Gweithredu Hawliau Anabledd i Gymru
  • ystyried yr argymhelliad ar gyfer Comisiynydd Anabledd ar ddiwedd y rhaglen waith hon

Argymhelliad 2

Rydym yn argymell i Lywodraeth Cymru eu bod yn sefydlu Tasglu i archwilio ffyrdd o ddarparu Incwm Sylfaenol Cyffredinol i ddinasyddion Cymru, a'i fod yn adrodd yn ôl i Senedd Cymru a phobl Cymru ar ei ganfyddiadau yn 2021.

Rydym yn cefnogi pobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru. Ein nod yw sicrhau bod pobl yn cael digon o gymorth ariannol i fod yn hapus ac yn iach yng Nghymru.

Ym mis Ebrill 2022, dechreuwyd Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol ar gyfer pobl ifanc sy'n gadael gofal yng Nghymru. Gall pob person ifanc sy'n gadael gofal sy'n troi'n 18 oed eleni, ledled Cymru, gymryd rhan yn y cynllun peilot hwn. Rydym yn disgwyl i dros 500 o bobl ifanc fod yn gymwys i ymuno â'r cynllun. Nid yw’n orfodol cymryd rhan. Felly, ni fydd yr union niferoedd yn hysbys tan y bydd y cynllun peilot ar waith.

Ein gobaith yw y bydd y cynllun peilot yn dangos a yw'r dull hwn yn lleihau heriau i'r rhai sy'n gadael gofal. Bydd y cynllun peilot yn rhoi manteision Incwm Sylfaenol Cyffredinol ar brawf i weld a yw’n:

  • mynd i'r afael â thlodi
  • lleihau diweithdra
  • gwella iechyd a llesiant ariannol yng Nghymru

Rydym wedi sefydlu grŵp cynghori i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cynllun peilot. Byddwn yn asesu'r cynllun peilot i weld beth sy'n gweithio, neu ddim yn gweithio, i'r cyfranogwyr. Byddwn yn archwilio'r manteision ehangach hefyd, megis gwell iechyd a llesiant. Bydd ymchwilwyr yn gwneud argymhellion ar gyfer y cynllun Incwm Sylfaenol Cyffredinol.

Rydym hefyd yn gobeithio y bydd y peilot yn cynnig syniadau yn y byd go iawn ar gyfer cefnogi:

  • llesiant ariannol,
  • llesiant emosiynol,
  • llwybrau at addysg a chyflogaeth

Argymhelliad 3

Rydym yn argymell bod ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus genedlaethol ynghylch yr hawliau sydd gan bobl yng Nghymru i ofal cymdeithasol. Ochr yn ochr â hyn, dylai pob awdurdod lleol gynnal ymgyrch leol, sy'n briodol i'w hardal sy'n defnyddio iaith glir a syml i wneud pobl yn ymwybodol o'u hawliau a'r cymorth sydd ar gael iddynt yn eu hardal.

Gwybodaeth i Ofalwyr

Mae ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi bod yn allweddol wrth inni symud at greu system iechyd a gofal cymdeithasol integredig, a chyflwyno hawliau newydd i ofalwyr di-dâl.

Cynhaliwyd ein hymgyrch ddiweddaraf ar gyfer hawliau gofalwyr rhwng Hydref a Thachwedd 2021. Roedd yr ymgyrch mewn partneriaeth â Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Nod yr ymgyrch oedd:

  • cyflwyno ymgyrch integredig i annog gofalwyr di-dâl i ddangos eu hunain
  • rhoi gwybod i ofalwyr am eu hawl i gael gwybodaeth, cyngor ac Asesiad o Anghenion Gofalwyr
  • annog gofalwyr i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael gan eu hawdurdod lleol

Cyflwynwyd yr ymgyrch yn Gymraeg a Saesneg. Defnyddiodd yr ymgyrch becyn cymorth a ddatblygwyd gan Gofalwyr Cymru. Fe’i dosbarthwyd i awdurdodau lleol (ALlau) a byrddau iechyd lleol.

Cafodd yr ymgyrch 8,860 o gliciau ar y wefan yn ystod yr ymgyrch. O ganlyniad, mae mwy o ofalwyr yn cael gafael ar gymorth.

Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl

Nod y Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yw helpu gofalwyr i gydnabod eu rôl a manteisio ar y cymorth y mae ganddynt hawl i’w gael. Lansiwyd ein Cynllun Cyflawni i gefnogi'r Strategaeth yn Nhachwedd 2021. Byddwn yn rhoi llawer o flaenoriaethau'r Cynllun Cyflawni ar waith yn ystod tymor cyfredol y Senedd.

Ymwybyddiaeth Pobl Hŷn

Rydym yn gweithio gydag Age Cymru i godi ymwybyddiaeth pobl hŷn o'u hawliau. Mae Age Cymru yn gweithio gyda grwpiau pobl hŷn gan ddefnyddio’r cyhoeddiad a gynhyrchwyd gennym ar y cyd. Gyda'n gilydd, rydym yn hyrwyddo dull sy'n seiliedig ar hawliau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Age Cymru yn cynhyrchu pecyn cymorth a fideo hefyd. Byddwn yn cynnal ail ymgyrch hawliau pobl hŷn yn ddiweddarach eleni gan adeiladu ar ymgyrch 2019.

Gwasanaethau Awtistiaeth

Gwnaethom weithredu'r Cod Ymarfer ar ddarparu Gwasanaethau Awtistiaeth ym Medi 2021. Dyma'r nodau:

  • gwella bywydau pobl awtistig a'u teuluoedd yng Nghymru,
  • hyrwyddo'r dyletswyddau allweddol o dan y cod i ALlau, BILLau ac Ymddiriedolaethau'r GIG,
  • cefnogi hawliau oedolion awtistig a rhieni/gofalwyr plant awtistig. Byddwn yn gwneud hyn drwy roi gwybod am eu hawliau i gael mynediad i rai gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o dan y Cod

Rydym yn gweithio gyda'r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol a'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol. Rydym yn cynnal ymgyrch ddigidol wedi'i thargedu. Mae'r ymgyrch yn gweithredu mewn dau gam:

  • Cam 1 - cyfathrebu â rhanddeiliaid, o Fedi 2021 i Ionawr 2022
  • Cam 2 - cyfathrebu â phobl, o Fawrth 2022 ymlaen

Mae gweithgareddau ymgysylltu wedi digwydd. Rydym wedi cyhoeddi fersiynau hygyrch o'r Cod a'i ganllawiau. Er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth rydym wedi cynhyrchu:

  • fideos animeiddiedig byr,
  • dwy daflen un dudalen "Beth mae'r Cod yn ei olygu i chi?" ar gyfer rhanddeiliaid a'r cyhoedd.

Rydym hefyd yn bwriadu:

  • hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol drwy Facebook a Twitter. Bydd hyn yn hyrwyddo negeseuon allweddol yn y Cod ac yn cynnwys dolenni i gael rhagor o wybodaeth
  • hyrwyddo'r wybodaeth drwy ein sianeli ein hunain
  • rhoi pecyn cymorth i sefydliadau partner allweddol i'w cynorthwyo i wneud yr un peth.

Mae'r gwerthusiad hyd yma wedi bod yn gadarnhaol ac yn awgrymu bod yr ymgyrchoedd wedi arwain at fwy o ymwybyddiaeth o'r Cod.

Ymarfer

Argymhelliad 4

Rydym yn argymell y dylid ailddiffinio a chyd-gynhyrchu gofal seibiant, fel bod yr arfer o ddarparu seibiant yn cael ei normaleiddio a'i fod yn ymwneud â darparu cyfleoedd hyblyg teilwredig ar gyfer gofalwyr a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt.

Rydym wrthi’n ailddiffinio, gwella ac amrywio seibiant i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Rydym wedi cyhoeddi'r Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl ym mis Mawrth 2021, ac yn gweithio gydag aelodau Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr a phartneriaid allweddol. 

Y drydedd flaenoriaeth o'n pedair blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr di-dâl yw:

"Cefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu - rhaid i bob gofalwr di-dâl gael cyfle i gymryd seibiannau o'u rôl ofalu i'w galluogi i gynnal eu hiechyd a'u llesiant eu hunain a chael byw yn ogystal â gofalu".

Comisiynwyd ymchwil gennym er mwyn deall seibiant a seibiannau byr yn well. Comisiynwyd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Phrifysgolion Abertawe a Bangor i gyd-gynhyrchu’r gwaith hwn. Mae’r adroddiad Gweledigaeth newydd ar gyfer seibiannau a gwyliau byr yng Nghymru - Carers Trust:

  • yn nodi gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer seibiannau byr creadigol. Byddant yn adlewyrchu'r canlyniadau personol y mae pobl am eu cyflawni
  • yn llywio dyfodol seibiant yng Nghymru
  • wedi ei ddosbarthu i ALlau. Gobeithiwn y bydd yn llywio eu gwaith ac yn annog dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Rydym wedi rhoi £3 miliwn i ALlau yn 2020-21 i ddarparu seibiant brys yn ystod y pandemig. Mae'r arian hwn i annog dulliau arloesol o seibiant hefyd. Mae ALlau yn defnyddio'r gronfa mewn amrywiol ffyrdd, er enghraifft:

  • Mae Cyngor Gwynedd yn sefydlu cynllun 'seibiantgarwch'. Bydd y cynllun yn cynnig gwyliau rhatach i ofalwyr di-dâl. Mae'r cynllun yn uwchraddio bwthyn seibiant.
  • Yn Nhorfaen, mae'r cyllid yn cefnogi clwb bowlio a theithiau dydd i ofalwyr di-dâl.
  • Mae gwasanaeth seibiant yn y cartref wedi'i sefydlu yn Abertawe. Mae hyn yn caniatáu i ofalwyr di-dâl fynychu apwyntiadau iechyd neu gymryd seibiant. Gall y gwasanaeth hwn ddarparu sesiynau blasu hefyd. Er enghraifft, i ofalwyr sy'n ystyried cael cymorth gan eu ALl.
  • Yng Nghonwy, mae gofalwyr di-dâl sy'n profi straen a phryder yn cael cynnig cwnsela. Mae sesiynau cwnsela'n cael eu cynnig dros gyfnod o chwe wythnos. Mae'r ALl yn prynu eitemau ar gyfer gofalwyr hefyd. Er enghraifft, dodrefn awyr agored, cyfrifiaduron llechen, offer ymarfer corff neu aelodaeth mewn campfa.
  • Mae 1,400 o ofalwyr di-dâl a gofalwyr ifanc yn Sir Fynwy wedi gwneud cais am gynllun talebau gwerth £10. Mae talebau ar gyfer canolfannau garddio, siopau teganau, siopau tecawê pizza a the prynhawn ar gael.
  • Yn Ynys Môn, gall gofalwyr ifanc fanteisio ar ddarpariaeth seibiant amrywiol. Er enghraifft, mae llawer wedi rhoi cynnig ar weithgareddau newydd.

Rydym yn ariannu Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS) hefyd. Diben hyn yw hyrwyddo ledled Cymru y model arobryn sydd ganddyn nhw o ddarparu cronfa ar gyfer seibiannau byr .

Yng nghyllideb ddrafft 2022-23, cyhoeddwyd £3 miliwn o gyllid parhaus ar gyfer seibiant.

Argymhelliad 5

Rydym yn argymell bod gwasanaethau eiriolaeth yn derbyn mwy o arian i sicrhau bod safonau cyflenwi uchel yn cael eu cyrraedd, bod mwy o bobl yn cael eu cefnogi ac y darperir ystod fwy o wasanaethau mewn modd annibynnol, a ddylai hefyd gynnwys eiriolaeth gyfreithiol a thechnegol.

Rydym yn cydnabod bod angen datblygu capasiti ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth. Ein bwriad yw comisiynu ymchwil am eiriolaeth mewn cartrefi gofal. Bydd yr ymchwil:

  • yn ystyried sut mae eiriolaeth yn gweithio'n ymarferol
  • yn ystyried sut yr effeithiodd eiriolaeth ar fywydau trigolion yn ystod pandemig COVID-19
  • yn llywio gwaith polisi yn y dyfodol

Ar hyn o bryd rydym yn ariannu prosiectau sy'n cefnogi eiriolaeth a chyngor:

  • Mae Age Cymru yn darparu Prosiect HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu). Mae’r prosiect yn hyrwyddo’r cyfle i gael cymorth yn gynnar yn y gymuned. Mae HOPE yn defnyddio amrywiaeth o fodelau eiriolaeth ar gyfer pobl hŷn a gofalwyr ledled Cymru
  • Llinell gymorth ddwyieithog gyfrinachol, ddienw sy’n rhad ac am ddim yw MEIC. Mae'r gwasanaeth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru ac mae’n darparu gwybodaeth, cyngor defnyddiol a chefnogaeth. Mae MEIC ar agor o 8 y bore tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos, dros y ffôn, testun SMS a negeseuon gwib. Darparwyd cyllid gwerth £535,989 ar gyfer y gwasanaeth tan Fehefin 2022. Mae’r broses o gaffael contract newydd ar waith, a bydd ar waith o 1 Mehefin 2022 tan 31 Mawrth 2026.
  • Race Equality First – y cyntaf i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth cysylltiedig ag iechyd. Mae'r prosiect yn cynorthwyo aelodau o gymunedau amrywiol i dderbyn gofal iechyd priodol. Mae’n gwella dealltwriaeth darparwyr gofal iechyd hefyd. Er enghraifft, anghenion diwylliannol a chrefyddol pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae hyn yn bwysig ar gyfer cynllunio darpariaeth gofal iechyd.

Argymhelliad 6

Rydym yn argymell datblygu dull cyson, canolog ar gyfer asesiadau ledled Cymru. Dylai asesiadau gael eu safoni ond dylid canolbwyntio ar ddulliau lleol o ddiwallu angen, ac ystyried anghenion penodol ac unigryw nifer o ardaloedd gwledig ac ynysig gwledig.

Mae Deddf 2014 yn darparu dull clir o asesu ledled Cymru. Mae hyn yn sicrhau bod asesiadau:

  • yn cael eu cyd-gynhyrchu. Mae unigolion ac ymarferwyr yn rhannu'r pŵer i gynllunio a darparu cymorth gyda'i gilydd. Felly, mae gan bob partner ran bwysig i'w chwarae yn y broses.
  • yn rhoi cyfle i unigolyn gael sgyrsiau am “y pethau pwysig"
  • yn nodi cryfderau pobl
  • yn nodi'r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni canlyniadau personol pobl
  • yn defnyddio'r asesiad i greu cynllun i gyflawni canlyniadau personol pobl

Mae hyn yn golygu bod dull cyson o asesu, sy'n galluogi i anghenion yr unigolion gael eu hystyried.

Mae'r meini prawf cymhwysedd cenedlaethol statudol yn darparu hawliau cyson ar gyfer gofal a chymorth. Mae deunyddiau hyfforddi Cymru gyfan yn cefnogi staff i gynnal asesiadau. Mae deunyddiau hyfforddi’n hygyrch ac yn rhad ac am ddim ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. Cafodd yr holl ddeunyddiau hyfforddi eu cynhyrchu ar y cyd â phobl sydd angen gofal a chymorth.

Mae metrigau'r Fframwaith Perfformiad a Gwella’n olrhain dulliau a gweithgarwch awdurdodau lleol. Fel rhan o hyn, mae awdurdodau lleol yn adrodd:

  • ar nifer yr asesiadau y maent wedi'u gwneud
  • ar a yw asesiadau'n bodloni amserlenni a gytunwyd
  • ar ganlyniadau'r asesiadau.

Rydym yn cyhoeddi'r adroddiadau hyn bob blwyddyn fel rhan o'n dull o ddysgu a gwella.

Argymhelliad 7

Rydym yn argymell bod yr holl hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda gofalwyr di-dâl a'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau a bod tystiolaeth o hyn yn flynyddol gan y rhai sy'n cyflogi staff o'r fath.

Rydym wedi nodi camau gweithredu i wella gwasanaethau a phrofiadau gofalwyr di-dâl. Gwnaed hyn drwy weithio gyda gofalwyr di-dâl a rhanddeiliaid eraill a chyhoeddwyd y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a'r Cynllun Cyflawni ategol.

Dros y pedair blynedd nesaf, byddwn yn parhau i weithio gyda gofalwyr a rhanddeiliaid di-dâl:

  • i adolygu'r opsiynau hyfforddi a gynigir ar hyn o bryd ledled Cymru
  • i nodi bylchau ac archwilio opsiynau
  • i ddatblygu a rhannu arfer gorau er mwyn cefnogi gweithwyr proffesiynol i gefnogi gofalwyr di-dâl

Fel rhan o'r adolygiad, byddwn yn ystyried:

  • cynnwys modiwlau ar y Gymraeg
  • sut i adnabod a diwallu anghenion:
    • grwpiau sydd wedi'u hymyleiddio a grwpiau nas clywir yn aml
    • gofalwyr ifanc
  • y Datblygiad Proffesiynol Parhaus presennol ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd yn canolbwyntio ar hyfforddiant i'w helpu i nodi a diwallu anghenion gofalwyr di-dâl
  • cyflwyno hyfforddiant cyn ac ar ôl cymhwyso gorfodol ar gyfer proffesiynau gwaith cymdeithasol
  • y modiwlau perthnasol sydd ar gael mewn addysg uwch. Bydd yn ystyried a ydynt yn diwallu anghenion gweithwyr proffesiynol yn y dyfodol a fydd o bosibl yn gweithio gyda gofalwyr di-dâl

Rydym wedi ariannu Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i gyflawni'r prosiect "Ymwybyddiaeth o Ofalwyr". Prosiect wedi'i gyd-gynhyrchu yw hwn, a ddatblygwyd ar y cyd â gofalwyr di-dâl. Mae'n gweithio gyda staff ar bob lefel o ofal cymdeithasol, ac ym maes iechyd. Nodau'r prosiect yw:

  • codi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr
  • rhannu arferion da
  • annog cydweithio agosach

Mae'r prosiect yn cynnwys canllaw 'arfer da' newydd a chyfres o egwyddorion ar gyfer gweithwyr cymdeithasol.

Argymhelliad 8

Rydym yn argymell bod awdurdodau lleol yn dangos yn flynyddol bod eu gwybodaeth yn hawdd ei deall, yn dryloyw, yn hygyrch, ac yn hyrwyddo prosiectau enghreifftiol yn eu hardal.

Mae angen i bobl allu cymryd rhan mewn sgyrsiau am eu hanghenion gofal a chymorth. Mae angen i bobl sydd angen cymorth ddeall y gwahanol opsiynau sydd ar gael hefyd.

Rydym yn cefnogi'r argymhelliad hwn. Mae'n ailadrodd egwyddorion allweddol Deddf 2014 a'r Codau Ymarfer. Mae'r Cod Rhan 2 yn nodi:

  • disgwyliadau clir ar y dyletswyddau cyffredinol o ran parch ac urddas
  • y dyletswyddau ehangach o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb
  • dyletswyddau o dan Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig a chonfensiynau perthnasol sy'n ymwneud â:
    • phobl hŷn
    • plant
    • pobl anabl
  • rôl ymarferwyr a sefydliadau o ran helpu pobl i ddeall eu hawliau

Mae'r Cod Rhan 2 yn egluro rôl y Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth( IAA) hefyd. Mae gwasanaethau IAA awdurdodau lleol yn rhannu gwybodaeth am:

  • sut mae'r systemau gofal a chymorth yn gweithredu yn yr ardal
  • y mathau o ofal a chymorth sydd ar gael
  • sut i gael gafael ar y gofal a'r cymorth sydd ar gael
  • sut i leisio pryderon am les unigolyn y credir bod ganddo anghenion gofal a chymorth

Mae angen i awdurdodau lleol ddangos eu dull o ddarparu gwybodaeth a chyngor. Maent yn gwneud hyn drwy Adroddiadau Blynyddol Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r adroddiadau hyn yn darparu mecanwaith cyffredin ledled Cymru i ddangos tystiolaeth o gynnydd. Mae'r adroddiadau’n dangos tystiolaeth o weithio mewn partneriaeth ac arloesi hefyd. Mae'r adroddiadau'n defnyddio’r rhaglen hyfforddi barhaus a ddarperir drwy Gofal Cymdeithasol Cymru.

Rydym wedi comisiynu adolygiad o'r canllawiau a'r templedi ar gyfer yr Adroddiadau Blynyddol hyn. Mae Awdurdodau Lleol a rhanddeiliaid eraill yn cymryd rhan yn y broses hon. Y nod yw cysoni'r adroddiadau â'r Fframwaith Perfformiad a Gwella. Mae'r Fframwaith yn nodi pa ddata y dylai awdurdodau lleol fod yn eu hadrodd bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys data ar wasanaethau IAA.

Mae ein hymateb i Argymhelliad 3 yn berthnasol yma hefyd.

Pobl

Argymhelliad 9

Rydym yn argymell y dylid ceisio a gwerthfawrogi barn gofalwyr di-dâl ar draws gofal cymdeithasol a'r GIG, a bod sefydliadau sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn dangos sut mae'r rhain yn cael eu dwyn i mewn i brosesau gwneud penderfyniadau.

Pobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau cymdeithasol ddylai lywio penderfyniadau am y gwasanaethau hynny. 

Mae’r ddogfen Y disgwyliadau a'r profiadau: safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ar Adroddiad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn rhan o'r gwerthusiad o'r Ddeddf. Roedd yr ymchwil yn cynnwys casglu barn amrywiaeth eang o ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr. Disgrifiodd y cyfranogwyr eu profiadau yn sgil y Ddeddf dros y flwyddyn ddiwethaf. Byddwn yn defnyddio canfyddiadau'r adroddiad i lywio gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae ein Grŵp Cynghori’r Gweinidog i Ofalwyr yn cyfarfod bob chwarter ac mae'n cynnwys rhanddeiliaid amrywiol. Maent yn cynnwys sefydliadau gofalwyr allweddol o'r trydydd sector. Bu’r grŵp yn helpu i ddatblygu'r Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a'r Cynllun Cyflawni. Bydd y grŵp yn bwysig iawn yn y gwaith o gyflawni camau gweithredu’r cynllun cyflawni.

Rydym yn ariannu Grŵp Ymgysylltu â Gofalwyr. Mae hyn yn caniatáu i ofalwyr di-dâl roi eu barn ac adrodd eu hanes. Mae'r grŵp yn cysylltu â rhwydweithiau o ofalwyr mewn cymunedau lleol o bob rhan o Gymru. Mae'r grŵp wedi chwarae rhan allweddol wrth ein helpu i ddatblygu'r Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl.

Yn ddiweddar, mae aelodau'r grŵp wedi helpu i lunio'r Siarter Gofalwyr a'r cynllun cyflawni newydd. Mae'r cynllun yn egluro sut y byddwn yn bwrw ymlaen â gwaith i gefnogi gofalwyr di-dâl dros y pum mlynedd nesaf.

Mae'r Grŵp Ymgysylltu wrthi'n cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd hyn yn sicrhau bod y grŵp yn gallu cyrraedd mwy o ofalwyr di-dâl. Yn unol â’n nodau gofal cymdeithasol, byddwn yn cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant. Byddwn yn cynnwys mwy o ofalwyr ifanc hefyd.

O dan Ddeddf 2014, sefydlwyd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Rhaid i aelodaeth y Byrddau gynnwys rhywun sy’n cynrychioli gofalwyr. Rhaid i'r Byrddau:

  • sicrhau bod yr aelodau sy’n ofalwyr yn cael llais cynrychioliadol ar y bwrdd. Nid dim ond cynrychioli holl ofalwyr y rhanbarth yw eu hunig rôl
  • sefydlu ymgysylltiad ehangach â gofalwyr, fel bod y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn gwrando ar farn gofalwyr
  • cynnwys gofalwyr yn y gwaith o gynllunio a datblygu strategaeth
  • ymgysylltu â gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc, wrth ddatblygu:
    • eu hasesiadau o anghenion y boblogaeth
    • adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad
    •  cynlluniau ardal ar y cyd

Rydym wedi sefydlu Bwrdd Goruchwylio hefyd i gefnogi gweledigaeth newydd ar gyfer gofal cymdeithasol plant yng Nghymru. Bydd y Bwrdd yn cynnwys:

  • dau berson ifanc â phrofiad o ofal
  • amrywiaeth o bartneriaid mewnol ac allanol
  • Anthony Douglas, cyn Brif Weithredwr Cafcass, fel Cadeirydd
  • cynrychiolwyr o:
    • Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan (AWHOCS)
    • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru)
    • Gofal Cymdeithasol Cymru
    • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
    • Comisiynydd Plant Cymru (CCFW)
    • Swyddogion Llywodraeth Cymru

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol (ALlau) i gasglu rhagor o wybodaeth am ofalwyr. Byddwn yn gwneud hyn drwy'r Fframwaith Gwella Perfformiad. Mae'r Fframwaith yn cynnwys data, yn ogystal â phrofiadau gofalwyr ac eraill sydd angen gofal a chymorth. Mae'r Fframwaith yn annog ALlau i ddefnyddio'r profiadau hyn i lunio a gwella gwasanaethau.

Argymhelliad 10

Rydym yn argymell bod pobl sydd â phrofiad byw o ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth yn rhannu'r profiad hwnnw ar baneli, trwy hyfforddiant ar y cyd a thrwy waith swyddfa’r Comisiynydd Pobl Anabl newydd.

Mae deall profiadau bywyd unigolion yn hanfodol wrth ddatblygu gwasanaethau ar gyfer y dyfodol. Gofynnwyd i ADSS Cymru gynnal adolygiad. Roedd yr adolygiad yn holi beth oedd effaith y pandemig ar bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, sef gwasanaethau dydd, gofal seibiant a lleoliadau tymor byr. Mae'r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer gwella. Wrth ymateb i'r adroddiad, byddwn yn gofyn i ADSS Cymru ymgymryd â rhaglen waith fer. Bydd y gwaith yn cynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau i gefnogi adferiad ac ail-adeiladu. Bydd pwyslais ar y canlynol:

  • llais a rheolaeth unigol
  • gwell cyfathrebu
  • arloesi, heb golli gwasanaethau gwerthfawr. Er enghraifft, y rhai sy'n galluogi cynhwysiant, darparu cyfleoedd i gymdeithasu a meithrin cyfeillgarwch

Argymhelliad 11

Rydym yn argymell i Lywodraeth Cymru eu bod yn darparu cymorth parhaus i sefydliadau trydydd sector i greu a chynnal rhwydweithiau cymorth lleol i bobl, yn enwedig y rhai sy'n galluogi cymorth cymheiriaid ac eiriolaeth, gan roi sylw arbennig i ardaloedd gwledig ac ynysig.

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw cymorth cyfeillion a swyddogaeth hynny ym mywydau pobl. Mae'r adroddiad diweddaraf o'r gwerthusiad cenedlaethol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) yn nodi:

“… peer support that carers receive from others, alongside the support of key voluntary sector organisations, has improved their quality of life and feeling of well-being just for knowing that there is someone to talk to if it is needed. This was also the case for young carers who found the opportunity to spend time with their peers – albeit in a different form during the pandemic – enhanced their sense of well-being, and was both valuable and sustaining.”

Rydym wedi ariannu amrywiaeth o brosiectau sy'n cynnal cymorth lleol i bobl. Rydym yn darparu'r cyllid hwn:

  • yn uniongyrchol i sefydliadau unigol
  • yn anuniongyrchol drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a Chynghorau Iechyd Cymuned

Mae enghreifftiau'n cynnwys prosiectau a ariennir i'w cyflawni gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol (NYAS). Mae NYAS Cymru yn derbyn cyllid ar gyfer prosiect eiriolaeth. Mae'r prosiect yn cynorthwyo rhieni i ymgysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol gan ddefnyddio eiriolaeth broffesiynol annibynnol. Mae eiriolaeth broffesiynol annibynnol yn cynorthwyo rhieni drwy:

  • eu helpu i lywio’u ffordd drwy systemau
  • eu cynnwys mewn prosesau gwneud penderfyniadau

Mae NYAS Cymru yn derbyn cyllid ar gyfer Project Unity hefyd. Nod y prosiect yw torri'r cylch lle gwelir plant i famau a fu’n derbyn gofal yn gorfod derbyn gofal. Nod arall y prosiect yw ceisio rhwystro sefyllfa lle bydd plant yn dod yn rhan o brosesau amddiffyn plant. Mae'r prosiect yn gwneud hyn drwy:

  • ddarparu gwasanaethau cofleidiol dwys
  • adeiladu rhwydweithiau cymorth gan gyfeillion

Argymhelliad 12

Rydym yn argymell y dylid gorfodi cynrychiolaeth sy'n fwy amrywiol o fewn gofal cymdeithasol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Rhaid i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol gynnwys o leiaf un aelod o'r Bwrdd sydd:

  • yn cynrychioli buddiannau pobl sydd angen gofal a chymorth,
  • yn cynrychioli buddiannau gofalwyr sydd angen cymorth

Rhaid i Fyrddau gynnwys aelodau i gynrychioli'r trydydd sector a darparwyr hefyd.

Ar hyn o bryd rydym yn ymgysylltu ag aelodau gofalwyr ar Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Dyma Gam 1 o brosiect ehangach Ymgysylltu a Llais. Bydd y grŵp yn datblygu dull safonol o gefnogi aelodau'r Byrddau, gan gynnwys:

  • gofalwyr
  • defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • aelodau'r trydydd sector
  • aelodau sy’n ddarparwyr

Nodau Cam 2 fydd:

  • cynyddu ymgysylltiad Byrddau â defnyddwyr a gofalwyr
  • ymgorffori cyd-gynhyrchu yn eu holl waith cynllunio a datblygu polisi

Bydd hyn yn ein helpu i adolygu Canllawiau Statudol Rhan 9 ar weithio mewn partneriaeth hefyd. Bydd hyn yn arwain at ffocws cryfach ar gyd-gynhyrchu, ymgysylltu a llais. Bydd y canllawiau diwygiedig hyn yn destun ymgynghoriad yn gynnar yn 2023.

Bydd hyn yn ein helpu i adolygu Canllawiau Statudol Rhan 9 ar weithio mewn partneriaeth hefyd. Bydd hyn yn canolbwyntio'n llawer cryfach ar gyd-gynhyrchu, ymgysylltu a llais. Bydd y canllawiau diwygiedig hyn yn destun ymgynghoriad yn gynnar yn 2023.

Proses

Argymhelliad 13

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu cyllid ar gyfer ymyrraeth gynnar, yn enwedig ar gyfer arfer da ac arfer sefydledig sy'n cefnogi canlyniadau gwell, ac yn dangos sut y bydd y cyllid hwn yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Bydd ymyrryd yn gynnar a gwasanaethau ataliol yn lleihau'r cynnydd mewn angen difrifol drwy:

  • wella llesiant pobl
  • gwneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy cynaliadwy

Mae'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gronfa 5 mlynedd. Ei nod yw creu newid cynaliadwy drwy integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal. Bydd ar waith o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2027.

Mae nodweddion a gwerthoedd allweddol y Gronfa’n cynnwys:

  • ffocws cryf ar atal ac ymyrryd yn gynnar
  • rhaid i weithgareddau a ariennir ganddi gefnogi'r gwaith o ddatblygu a darparu gofal integredig
  • mae chwe model cenedlaethol i'w dilyn. Maent yn cynnwys Gofal yn y Gymuned, Atal a Chydgysylltu Cymunedol
  • rhaid i'r broses o gyflwyno'r modelau hyn ddilyn egwyddorion Deddf 2014. Maent yn cynnwys atal ac ymyrryd yn gynnar.

Mae'r ddogfen ganllawiau yn amlinellu'r Fframwaith Canlyniadau lefel uchel ar gyfer y Gronfa. Bydd y fframwaith yn darparu gwybodaeth ymarferol i'r Byrddau a'u partneriaid. Bydd yn cynnwys canllawiau ar gasglu data, cyflwyno tystiolaeth ac adrodd.

Rydym wedi comisiynu'r Sefydliad Gofal Cyhoeddus i sefydlu a chynnal amrywiaeth o gymunedau ymarfer. Byddant yn canolbwyntio ar rannu arfer da o brosiectau a ariennir drwy'r Gronfa.

Argymhelliad 14

Rydym yn argymell bod gwasanaethau cymdeithasol yn dangos sut maen nhw'n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill a pha fuddion a gynigir, drwy’r cydweithredu hwnnw, i'r bobl maen nhw'n eu cefnogi.

Datblygwyd canllawiau ar gyfer y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol mewn partneriaeth â'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Cyd-gynhyrchwyd y paramedrau ar gyfer defnyddio'r gronfa, yn ogystal â'r canllawiau. Rydym wedi gwneud hyn drwy ddysgu gan ein gilydd a darparu lle diogel ar gyfer herio a thrafod.

Bydd y Gronfa’n defnyddio ffyrdd o weithio sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae cydweithredu’n nodwedd allweddol o'r Ddeddf. Rydym yn disgwyl i Fyrddau sicrhau canlyniadau cadarnhaol i unigolion a chymunedau:

  • drwy fuddsoddi mewn gwerth cymdeithasol
  • drwy hyrwyddo cydweithio ac ymdrechion ar y cyd

Rydym yn parhau i geisio integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn well. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau gwasanaethau di-dor i bobl sydd angen gofal a chymorth. Mae’r Byrddau’n hanfodol ar gyfer yr uchelgais hon drwy ysgogi cymorth strategol a thrwy annog cydweithrediad.

Mae’r Byrddau’n datblygu asesiadau o anghenion y boblogaeth, adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad a chynlluniau ardal ar y cyd. Er mwyn gwneud hyn, maent yn ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys:

  • dinasyddion
  • sefydliadau trydydd sector a gwerth cymdeithasol ehangach
  • darparwyr gofal a chymorth

Mae’n ofynnol iddynt adrodd ar natur, lefel ac effaith yr ymgysylltu hwn hefyd.

Mae gweithio mewn partneriaeth ac integreiddio yn rhan allweddol o'r Rhaglen Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth. Nod y Rhaglen yw:

  • sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth
  • ail-gydbwyso'r farchnad gofal cymdeithasol, i ganolbwyntio ar ansawdd a chanlyniadau, yn hytrach na phris
  • cynyddu gweithio integredig rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector
  • sicrhau mwy o ymgysylltu a llais, llywodraethu a chraffu, cynllunio a pherfformiad

Argymhelliad 15

Rydym yn argymell a bod yr holl brosesau cwynion yr un mor hawdd eu deall, yn dryloyw ac yn hygyrch.

Dylai Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru wrando ar bobl sy'n mynegi pryderon. Mae’n bwysig bod awdurdodau lleol yn:

  • gwrando ar bryderon
  • datrys cwynion cyn gynted â phosibl
  • dysgu o'r pryderon hyn
  • defnyddio'r profiad i wella gwasanaethau

Mae manylion prosesau cwyno'r gwasanaethau cymdeithasol ar wefannau awdurdodau lleol. Gall pobl wneud cwynion am y gwasanaethau y maent yn eu derbyn neu y dylent fod wedi’u derbyn. Gall pobl gyflwyno cwyn i Gofal Cymdeithasol Cymru am weithwyr gofal cymdeithasol unigol hefyd.

Dylai awdurdodau lleol ystyried pa gymorth a chefnogaeth sydd ganddynt i’w cynnig i achwynwyr. Bydd angen cyngor a chymorth cyfrinachol ar rai pobl er mwyn:

  • cyflwyno’r gŵyn
  • mynd ymlaen â’r gŵyn
  • ymdrin â'r broses gwyno
  • ymdopi â'r canlyniad

Rhaid i awdurdodau lleol gynnig trafod y gŵyn gyda'r achwynydd. Gall hyn fod wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Y nod yw datrys materion drwy sicrhau boddhad y defnyddwyr gwasanaeth. Ni ddylid ceisio datrys materion er mwyn osgoi ymchwiliad ffurfiol. Dylai'r dull hwn olygu y gellir datrys y rhan fwyaf o gwynion yn gyflym ac yn llwyddiannus.

Os cynhelir ymchwiliad ffurfiol, dylai Ymchwilydd Annibynnol:

  • sicrhau bod yr achwynydd yn teimlo bod rhywun yn gwrando arno ac yn ei ddeall
  • sicrhau tegwch a bod mor agored â phosibl ynghylch ei ddulliau a'r rhesymau am unrhyw benderfyniadau

Dylai'r ymateb i'r gŵyn fod:

  • yn ysgrifenedig, oni bai bod yr achwynydd wedi gofyn am ddull arall o gyfathrebu. Er enghraifft, ymateb mewn Braille neu ar dâp sain
  • yn ysgrifenedig mewn ffordd sy'n hawdd ei deall

Rhaid i awdurdodau lleol adrodd ar y cwynion a dderbynnir. Maen nhw'n gwneud hyn trwy gyfrwng Adroddiadau Blynyddol y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd yr adroddiadau hyn yn rhoi crynodeb o'r cwynion a dderbyniwyd a'r camau a gymerwyd o ganlyniad i hynny.

Argymhelliad 16

Rydym yn argymell bod awdurdodau lleol yn darparu data ar nifer y bobl sy'n gymwys i dderbyn taliadau uniongyrchol yn eu hardal a gwybodaeth am pam nad ydyn nhw'n cyhoeddi pecynnau taliadau uniongyrchol ar gyfer pobl gymwys sydd angen cymorth.

Mae Deddf 2014 wedi llywio ymarfer i hyrwyddo hawliau pobl a'r dewisiadau sydd ar gael iddynt. Mae cynllunio, llais a rheolaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ganolog i Ddeddf 2014. O dan y Ddeddf, rydym yn cyd-gynhyrchu gofal, yn hytrach na darparu neu ddylanwadu ar atebion. Mae’r egwyddor hon yn berthnasol i daliadau uniongyrchol hefyd.

Mae taliadau uniongyrchol yn ddewis personol i unigolyn neu deulu. Gall unigolion ddefnyddio taliadau uniongyrchol i ddiwallu unrhyw angen cymwys a aseswyd. Gall pobl ddewis cymysgedd o daliadau uniongyrchol a gwasanaethau a gomisiynir gan awdurdodau lleol. Mae hyn yn galluogi pobl i gyflawni'r canlyniadau a nodwyd ganddynt gan ddefnyddio gofal a chymorth priodol.

Mae adnodd a gynhyrchwyd ar y cyd sy'n rhoi cyngor i ymarferwyr a derbynwyr taliadau uniongyrchol ar gael. Mae ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Archwilio Cymru ei adroddiad Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Byddwn yn ystyried sut y gall eu canfyddiadau gefnogi'r argymhelliad hwn ymhellach.

Mae casglu, archwilio a deall data yn bwysig er mwyn gwella gwasanaethau. Mae'r Fframwaith Perfformiad a Gwella newydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud hyn. Mae'r Fframwaith yn cynnwys nifer yr oedolion a phlant sy'n defnyddio taliadau uniongyrchol i ddiwallu eu hanghenion. O ganlyniad, mae awdurdodau lleol yn gallu:

  • deall y dewis y mae unigolion yn ei wneud
  • deall sut mae pobl yn defnyddio llais a rheolaeth dros eu hanghenion gofal a chymorth eu hunain
  • deall y canlyniadau y mae pobl am eu cyflawni

Mae'r Fframwaith yn cynnwys canllawiau i helpu i ddeall profiadau a chanlyniadau. Mae'r canllawiau'n cynnwys syniadau ar sut i ymgysylltu â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol. Bydd ymgysylltu’n helpu awdurdodau lleol i ddeall sut mae pobl sy'n derbyn gofal a chymorth:

  • yn teimlo am eu profiad o ymgysylltu â gwasanaethau cymdeithasol
  • yn teimlo ynghylch unrhyw newidiadau yn eu canlyniadau gofal cymdeithasol
  • yn teimlo am eu lles cyffredinol

Sylwadau Clo

Yn olaf, ar y cyd â'r argymhellion hyn, daeth y Rheithgor i'r casgliad, er bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cynnwys yr holl elfennau i hwyluso system gofal cymdeithasol wych, nid yw'n hawdd i bobl gyffredin ddeall Egwyddorion y Ddeddf. Felly, dylid 'ail-frandio’r' Egwyddorion, a fynegir fel gwerthoedd craidd sy'n sail i’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol ac iechyd, fel eu bod yn cael eu datgan yn glir a’u deall ar draws y naill sector a’r llall.

Rydym yn cydnabod ei bod yn bwysig i bobl Cymru ddeall Deddf 2014. Ein gobaith yw y bydd pobl Cymru yn deall egwyddorion Deddf 2014 yn well yn sgil:

  • ymgysylltiad â phobl sydd angen gofal a chymorth
  • ymdrech barhaus i hyrwyddo'r Ddeddf a'i hegwyddorion
  • y camau a gymerwyd eisoes, neu'r rhai y byddwn yn eu cymryd o ganlyniad i'r argymhellion uchod
  • gwaith partneriaeth â chydweithwyr, megis y GIG, awdurdodau lleol a darparwyr gofal cymdeithasol preifat