Neidio i'r prif gynnwy

Cyfnod sefydlogi - cylch 2

Ail gam y mesurau arbennig yw sefydlogi, a fydd yn para tua 9 mis. Bydd hyn yn cynnwys tri chylch. Dechreuodd y cylch cyntaf ar 1 Mehefin 2023 a daeth i ben ar 31 Awst 2023. Cynhelir yr ail gylch rhwng 1 Medi 2023 a 30 Tachwedd 2023.  

Mae'r papur hwn yn nodi disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ail gylch.

Mae'r Fframwaith Mesurau Arbennig yn nodi'r rhesymau pam y cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei roi mewn mesurau arbennig ar 27 Chwefror 2023. Roedd y rhesymau'n ymwneud â phryderon difrifol ynghylch effeithiolrwydd y bwrdd, diwylliant sefydliadol, ansawdd gwasanaethau ac ad-drefnu, llywodraethiant, diogelwch cleifion, cyflawni gweithredol, arweinyddiaeth a rheoli ariannol. 

Mae'r fframwaith yn nodi'n fanwl y gwelliannau a ddisgwylir rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr 2023 o dan yr wyth maes pryder canlynol:

  • Llywodraethu, effeithiolrwydd y bwrdd ac archwilio
  • Y gweithlu a datblygu sefydliadol 
  • Rheolaeth a llywodraethu ariannol
  • Arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol
  • Llywodraethu clinigol, profiad cleifion a diogelwch
  • Cyflawni gweithredol 
  • Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau
  • Gwasanaethau agored i niwed yn glinigol

Mae hefyd yn nodi pum canlyniad clir ar gyfer cyfnod sefydlogi mesurau arbennig:

  • Bwrdd sy'n gweithio'n dda
  • Cynllun clir, y gellir ei gyflawni ar gyfer 2024 i 2025
  • Arweinyddiaeth ac ymgysylltiad cryfach
  • Gwella mynediad, canlyniadau a phrofiad i ddinasyddion
  • Sefydliad sy'n dysgu ac yn hunan-wella

Cynhaliwyd adolygiad o gylch 1, gan gynnwys aelodau’r bwrdd, cynghorwyr annibynnol a swyddogion Llywodraeth Cymru ar 9 Awst. Mae peth cynnydd da wedi'i wneud ar alluogi camau gweithredu yn ystod y cylch cyntaf hwn. Mae'n dal yn rhy gynnar i ystyried eu heffeithiolrwydd a'u heffaith. Mae'r bwrdd iechyd yn canolbwyntio ar adeiladu ar y rhain i sicrhau eu bod yn cael eu hymgorffori gan arwain at welliannau cynaliadwy. 

Mae’r adolygiadau allanol canlynol wedi’u cwblhau, ac adroddiadau wedi’u rhannu â’r bwrdd iechyd i’w hystyried gan y bwrdd drwy ei strwythurau llywodraethu priodol:

  • Adolygiad o'r pryderon a godwyd yn ymwneud â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n gysylltiedig â diogelwch cleifion.
  • Adolygiad diogelwch o unedau cleifion mewnol iechyd meddwl ac anableddau dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
  • Adolygiad Cyflym o benodiadau dros dro i swyddi gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 
  • Adolygiad cyflym o swyddfa ysgrifennydd y bwrdd. 

Yn ogystal, mae asesiad o feysydd allweddol portffolio’r gweithlu (‘adolygiad arbenigwyr adnoddau dynol’) wedi’i gwblhau.

Mae'r adolygiadau canlynol ar y gweill a byddant yn llywio blaenoriaethau a chamau gweithredu ar gyfer cylchoedd yn y dyfodol ar ôl eu cwblhau a'u hystyried gan y bwrdd drwy eu strwythurau llywodraethu priodol: 

  • Asesiad sicrwydd gwasanaethau fasgwlaidd. 
  • Adolygiad portffolio tîm gweithredol.
  • Asesiad annibynnol o ddulliau a phrosesau cynllunio integredig.
  • Caffael a Rheoli Contractau (dan arweiniad y bwrdd iechyd).

Mae rhaglen waith y pum cynghorydd annibynnol wedi dod i ben ac mae eu hargymhellion wedi llywio cylch 2.

Cylch 2 - Disgwyliadau Llywodraeth Cymru 

Llywodraethu, effeithiolrwydd y bwrdd ac archwilio

1.    Ystyried argymhellion adolygiad swyddfa ysgrifennydd y bwrdd. Datblygu a dechrau gweithredu cynllun gweithredu clir i alluogi a chefnogi prosesau llywodraethu effeithiol ar draws y sefydliad. Cytuno ar flaengynllun clir a thryloyw ar gyfer busnes pwyllgorau a gefnogir gan weithdrefnau gweithredu safonol sy'n hygyrch i bawb.

2.    Mentora a chefnogi'r bwrdd i sicrhau y gall herio a chefnogi'r sefydliad yn adeiladol yn unol â'r gofynion mesurau arbennig.

3.    Parhau i recriwtio bwrdd parhaol.

4.    Comisiynu a dechrau cyflwyno rhaglen datblygu bwrdd. 

5.    Cytuno ar gynllun dirprwyo effeithiol, sy'n nodi'r fframwaith ar gyfer dirprwyo, penderfyniadau ac atebolrwydd.

Llywodraethu clinigol, profiad cleifion a diogelwch

6.    Datblygu, cytuno a dechrau gweithredu gweithdrefn/proses effeithiol ar gyfer dysgu o ddigwyddiadau, adborth cleifion a staff, adolygiadau ac archwiliadau mewnol, a dechrau ymgorffori'r hyn a ddysgwyd ar draws y sefydliad.

7.    Ystyried argymhellion yr adolygiad o bryderon diogelwch cleifion, gan weithio gyda Gweithrediaeth y GIG i ddatblygu'r prosesau llywodraethu clinigol gofynnol, a datblygu a dechrau gweithredu cynllun gweithredu clir mewn ymateb i'r argymhellion hyn.

8.    Datblygu ac ymgorffori dull a gweithdrefn gadarn i gefnogi gweithrediad y Ddyletswydd Ansawdd gan ddefnyddio'r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal i ysgogi gwelliant parhaus i ddiwallu anghenion y boblogaeth.

Y gweithlu a datblygu sefydliadol

9.    Ystyried argymhellion yr adolygiad o benodiadau dros dro, yr adolygiad portffolio tîm gweithredol a'r adroddiad prosesau adnoddau dynol. Datblygu a dechrau gweithredu cynllun gweithredu clir mewn ymateb i'r argymhellion hyn – gan ganolbwyntio'n gynnar ar feithrin capasiti digonol yn nhîm y gweithlu i gyflawni'r cynlluniau. 

10.    Gweithredu'r fframwaith dysgu a datblygu.

11.    Parhau i ddatrys yr achosion parch a datrys sy'n weddill gan gynnwys prosesau tebyg sy'n gysylltiedig ag uwch arweinyddiaeth. 

Arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol

12.     Cytuno a dechrau gweithredu rhaglen waith sy'n canolbwyntio ar ddiwylliant, arweinyddiaeth dosturiol, gwerthoedd ac ymddygiadau gyda ffocws ymarferol ar gymell newid. 

13.    Gweithredu rhaglen i sefydlogi a chefnogi'r tîm gweithredol a grymuso'r uwch dîm arweinyddiaeth.

14.    Parhau ac ymgorffori'r dull cytunedig o feithrin ymddiriedaeth a hyder o fewn y sefydliad a chyda rhanddeiliaid, gan gynnwys grwpiau cymunedol â blaenoriaeth.

Gwasanaethau agored i niwed yn glinigol 

15.    Cytuno ar strategaeth iechyd meddwl, cytuno a dechrau gweithredu cynllun gweithredu CAMHS a niwroddatblygu i wella perfformiad.

16.    Adolygu, diwygio a gweithredu cynlluniau gwella clir gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gynlluniau fasgwlaidd (gan gynnwys galluogi cam 2 yr adolygiad fasgwlaidd), wroleg, offthalmoleg, oncoleg, orthodonteg, dermatoleg a phlastig.

17.    Cytuno ar y trefniadau arweinyddiaeth glinigol ar gyfer gwasanaethau ar draws y sefydliad a dechrau gweithredu'r cynnig ymgysylltu clinigol.

Rheolaeth a llywodraethu ariannol

18.    Parhau i sefydlogi'r tîm cyllid a mynd i'r afael â phryderon am gapasiti.

19.    Parhau i weithredu'r cynllun gweithredu llywodraethu ariannol mewn ymateb i ganfyddiadau'r adroddiad E&Y a phryderon eraill. Mae hyn yn cynnwys cwblhau a chadarnhau'r cyfrifon diwedd blwyddyn ar gyfer 2022 i 2023, a chryfhau'r amgylchedd rheoli ariannol.

20.    Darparu cynllun arbedion effeithlonrwydd y cytunwyd arno sy'n lleihau'r diffyg ariannol yn 2023/24, deall y cymhellion y tu ôl i'r diffyg ariannol.

21.    Cynnal asesiad o'r rhagolygon ariannol ar gyfer 2024 i 2025 gan gynnwys cymhellion a chyfleoedd cost allweddol.

22.    Cynnal yr adolygiad caffael a rheoli contractau.

Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau

23.    Gwneud cynnydd cynaliadwy o ran cyflawni'r cynllun blynyddol y cytunwyd arno gan y bwrdd, a sicrhau bod cynllun gweithlu effeithiol ar waith sy'n caniatáu i'r bwrdd iechyd gyflawni'r cynllun mewn ffordd hyblyg ac effeithiol. Canolbwyntio gweithgarwch trawsnewid a gwella ar y meysydd o fewn mesurau arbennig i sicrhau newid cynaliadwy ac effeithiol.

24.    Cynnwys canolfannau gofal sylfaenol brys fel strategaeth graidd ar gyfer cynllunio ar gyfer y gaeaf gan gynnwys cynigion ar unwaith ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd a chymryd camau parhaus i sicrhau gwelliannau ar draws y tair adran gofal brys gyda ffocws clir ar Ysbyty Glan Clwyd.

25.    Cymryd rhan yn yr Adolygiad Cynllunio Integredig a dechrau'r broses ar gyfer cynllun blynyddol 2024/25. Datblygu a dechrau proses gydag amserlenni y cytunwyd arnynt ar gyfer datblygu cynllun gwasanaethau clinigol.

26.    Cytuno ar fodel gweithredol ar gyfer gwasanaethau orthopedig yn y dyfodol.

Cyflawni gweithredol

27.    Gwella mynediad a phrofiad, a fesurir trwy ddileu arosiadau 52 wythnos yn y cam cyntaf i gleifion allanol, sicrhau nad oes unrhyw gleifion yn aros mwy na 156 wythnos am driniaeth, dim trosglwyddiadau ambiwlans 4-awr a gwella perfformiad amseroedd aros adrannau brys 4- a 12-awr.

28.    Cynllunio fframwaith perfformiad integredig a seiliedig ar risg sy'n seiliedig ar ddata clir a chywir a dangosfyrddau gweladwy ar gyfer perfformiad, diogelwch cleifion, ansawdd a phrofiad.

Monitro mesurau arbennig

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyfarfodydd canlynol i fonitro perfformiad yn erbyn y fframwaith mesurau arbennig.

Cyfarfodydd IQPD

  • Mae cyfarfodydd IQPD yn cael eu trefnu bob mis (ar wahân i pan fydd cyfarfod JET). Fe'u cadeirir gan Ddirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru neu ddirprwy enwebedig.
  • Fe'u defnyddir i asesu perfformiad yn erbyn llwybrau y cytunwyd arnynt, i ystyried ansawdd a diogelwch cyffredinol gwasanaethau ac i archwilio pynciau penodol yn fanylach.
  • Mae cyfarfodydd misol ychwanegol yn ymwneud â gofal a gynlluniwyd yn cael eu cynnal gyda phob bwrdd iechyd.
  • Bydd agendâu yn cael eu dosbarthu o leiaf bythefnos cyn y cyfarfodydd. Gofynnir i fyrddau iechyd ddarparu sleidiau dridiau cyn y cyfarfodydd.
  • Mae'r cyfarfodydd hyn wedi'u hymestyn ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn sicrhau bod y mesurau arbennig yn cael eu gwirio'n fisol. Er y bydd hyn yn canolbwyntio'n bennaf ar weithrediadau a pherfformiad, a bydd materion eraill yn cael eu hadolygu fel y bo'n briodol.
  • Mae hwn yn gyfle i'r bwrdd iechyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Lywodraeth Cymru ac i sicrhau nad oes unrhyw beth annisgwyl yn codi.

Cyfarfodydd JET

  • Mae'r cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn, dan gadeiryddiaeth Prif Weithredwr GIG Cymru ac mae disgwyl i'r rhai sy'n bresennol fod yn rhan o'r uwch dîm gweithredol.
  • Byddant yn cael eu defnyddio i graffu ar ansawdd, cynllunio, cyflenwi a pherfformiad gan gynnwys asesu perfformiad cyffredinol y sefydliad yn erbyn gofynion cenedlaethol, ei gynllun IMTP/blynyddol ac unrhyw amodau atebolrwydd.
  • Bydd agendâu yn cael eu dosbarthu o leiaf 3 wythnos cyn y cyfarfod.
  • Y cyfarfod JET sy'n dod o fewn cylch 2 fydd yr adolygiad canol blwyddyn. 
  • Gofynnir i fyrddau iechyd ddarparu sleidiau ddeg diwrnod cyn y cyfarfod.

Cyfarfodydd eraill 

  • Mae gwasanaethau sydd wedi'u herio ar draws GIG Cymru yn destun cyfarfod adolygu misol. Ar hyn o bryd mae'r rhain yn canolbwyntio ar ganser, offthalmoleg a gofal a gynlluniwyd ac maent wedi'u trefnu gyda phob bwrdd iechyd.
  • Bydd cyfarfodydd adolygu eraill yn cael eu cynnal, yn ymwneud â gwasanaethau sy'n peri pryder. Ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae pedwar gwasanaeth clinigol ar hyn o bryd a fydd yn cael cyfarfodydd ychwanegol. Y rhain yw Iechyd Meddwl, sy'n cael cyfarfod chwarterol gyda'r Dirprwy Weinidog, gwasanaethau fasgwlaidd, plastigau ac offthalmoleg. 
  • Byddant yn cael eu defnyddio i graffu ar ansawdd, cynllunio, cyflenwi a pherfformiad gan gynnwys cynlluniau adfer, taflwybrau a digwyddiadau difrifol.

Cyfarfodydd mesurau arbennig

  • Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadeirio fforwm gwella mesurau arbennig deufisol. Cyfarfod gweinidogol ar y cyd yw hwn, sydd hefyd yn cael ei fynychu gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles.
  • Bydd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles yn cynnal cyfarfodydd chwarterol gyda'r bwrdd iechyd i geisio sicrwydd ar iechyd meddwl.
  • Bydd Prif Weithredwr y GIG yn cadeirio bwrdd sicrwydd mesurau arbennig chwarterol.

Amserlen cyfarfodydd

Cyfarfod Ansawdd, Cynllunio a Chyflenwi Integredig (IQPD) - 8 Medi 2023

Fforwm Gwella Mesurau Arbennig Gweinidogol ar y Cyd - 13 Medi 2023

Cyfarfod sicrwydd perfformiad canser - 19 Medi 2023

Cyfarfod cyswllt misol gofal a gynlluniwyd - 22 Medi 2023

Cyfarfod Ansawdd, Cynllunio a Chyflenwi Integredig (IQPD) - 9 Hydref 2023

Cyfarfod gweinidogol chwarterol ar iechyd meddwl (Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant) - 10 Hydref 2023

Cyfarfod sicrwydd perfformiad canser - 16 Hydref 2023

Cyfarfod Tîm Gweithredol ar y Cyd (JET) - 26 Hydref 2023

Cyfarfod cyswllt misol gofal a gynlluniwyd - I'w drefnu

Bwrdd Sicrwydd Mesurau Arbennig - 10 Tachwedd 2023

Fforwm Gwella Mesurau Arbennig Gweinidogol ar y Cyd - 20 Tachwedd 2023

Cyfarfod sicrwydd perfformiad canser - 24 Tachwedd 2023

Cyfarfod cyswllt misol gofal a gynlluniwyd - I'w gadarnhau

Cyfarfod Ansawdd, Cynllunio a Chyflenwi Integredig (IQPD) - Tachwedd i'w drefnu

Cyfarfodydd cyswllt fasgwlaidd - Dwy-wythnosol

Cyfarfodydd cyswllt plastigau - Dwy-wythnosol

Cyfarfodydd sicrwydd offthalmoleg - I'w gadarnhau