Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ar 27 Chwefror 2023, penderfynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol alw Trefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd GIG Cymru (2014) i rym, sy'n amlinellu'r broses ar gyfer cymryd camau gweithredu mewn perthynas â phryderon difrifol, a chododd lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i fesurau arbennig. Penderfynodd wneud hyn o ganlyniad i bryderon difrifol am effeithiolrwydd y bwrdd, diwylliant y sefydliad, ansawdd gwasanaethau a chamau i ad-drefnu gwasanaethau, trefniadau llywodraethiant, diogelwch cleifion, trefniadau cyflawni gweithredol, arweinyddiaeth a rheolaeth ariannol.

Dyma'r pedwerydd adroddiad cynnydd ers i'r bwrdd iechyd gael ei roi o dan fesurau arbennig. Mae'r tri adroddiad cyntaf yn amlinellu'r cynnydd a wnaed yn ystod pob chwarter o'r trefniadau mesurau arbennig presennol.

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar y daith mesurau arbennig dros y 12 mis diwethaf, gan dynnu sylw at y gwersi a ddysgwyd, y gwelliannau a’r heriau a nodwyd.

Cefndir

Pan wnaeth y Gweinidog ei phenderfyniad ym mis Chwefror 2023, mesurau arbennig oedd y lefel uwchgyfeirio uchaf yn Nhrefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd GIG Cymru (2014). Cafodd Fframwaith Goruchwylio ac Uwchgyfeirio GIG Cymru (2024) ei gyhoeddi yn gynharach eleni ac mae'n disodli'r canllawiau hyn. Fodd bynnag, mesurau arbennig (lefel 5) yw'r lefel uwchgyfeirio uchaf o hyd ar gyfer sefydliadau GIG Cymru.

Mae'r fframwaith mesurau arbennig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn amlinellu wyth maes ar gyfer gwella, sy'n ymdrin â'r pryderon a arweiniodd at uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd a'i roi o dan fesurau arbennig.

Goruchwylio mesurau arbennig

Gwnaed gwaith sylweddol i oruchwylio'r mesurau arbennig dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys:

  • fforwm gwella mesurau arbennig deufisol gyda'r bwrdd, a gaiff ei gadeirio gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yn bresennol hefyd; mae hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddwyn y bwrdd i gyfrif am gyflawni'r camau priodol mewn ymateb i'r penderfyniad i uwchgyfeirio i fesurau arbennig
  • cyfarfodydd misol rhwng y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a chadeirydd y bwrdd iechyd; defnyddir y cyfarfodydd hyn i asesu cynnydd yn erbyn amcanion y cadeirydd, gan gynnwys cynnydd yn erbyn cynllun cytûn y bwrdd iechyd ar gyfer ymateb i'r mesurau arbennig
  • cyfarfodydd chwarterol o dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i geisio sicrwydd ynghylch iechyd meddwl
  • bwrdd sicrwydd mesurau arbennig chwarterol o dan gadeiryddiaeth Prif Weithredwr GIG Cymru, er mwyn adolygu cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau ar gyfer pob cylch 90 diwrnod
  • cyfarfodydd rhwng y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru i olrhain cynnydd gan gynnwys, ymhlith eraill, gyfarfodydd misol ynghylch canser a gofal llygaid; cyfarfodydd ansawdd, cynllunio a chyflawni integredig misol; cyfarfodydd tîm gweithredol ar y cyd a gynhelir ddwywaith y flwyddyn; a chyfarfodydd cyswllt rheolaidd ynghylch cyllid, ansawdd, gofal a gynlluniwyd a gofal heb ei drefnu
  • mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant a'r Prif Weinidog wedi ymweld â safleoedd y bwrdd iechyd droeon dros y 12 mis diwethaf

Beth sydd wedi newid ers i'r mesurau arbennig gael eu cyhoeddi?

Cafodd nifer bach o gynghorwyr annibynnol eu contractio i ddarparu cymorth mewn perthynas â chyllid, trefniadau llywodraethiant y bwrdd, cynllunio, ansawdd a diogelwch, ymgysylltu a chyfathrebu, ac iechyd meddwl. Cynhaliwyd cyfres o adolygiadau sy'n cynnwys:

Mae'r bwrdd iechyd wedi datblygu ei ymatebion rheoli ei hun i lawer o'r adolygiadau hyn o dan gyfres o themâu. Mae'r adroddiadau cyhoeddedig a'r ymatebion rheoli cysylltiedig ar gael ar wefan y bwrdd iechyd.

Mae'r dull thematig a ddefnyddir gan y bwrdd iechyd yn ei alluogi i ymdrin â'r problemau i gyd a mynd i'r afael â gwir achosion y problemau. Nodwyd saith thema:

  • data, gwybodaeth a mewnwelediad
  • diwylliant
  • rheoli risg
  • cyfranogiad cleifion, teuluoedd a gofalwyr
  • model gweithredu
  • llywodraethiant a chydymffurfiaeth sefydliadol
  • a chynllunio integredig

Mae'r bwrdd iechyd wedi sefydlu grwpiau cyflawni o dan arweiniad staff gweithredol i sicrhau cysylltedd rhwng pob thema. Bydd angen i'r bwrdd iechyd ddangos tystiolaeth o gynnydd yn erbyn pob argymhelliad ym mhob adolygiad.

Llywodraethiant, effeithiolrwydd y bwrdd ac archwilio

Dros y 12 mis diwethaf, rhoddwyd pwyslais ar ailadeiladu a sefydlogi'r bwrdd. Yn y gorffennol, mae'r bwrdd wedi gwneud nifer sylweddol o benodiadau interim ond, bellach, mae ganddo gadeirydd, prif weithredwr a dirprwy gadeirydd parhaol, a bydd ganddo'r nifer gofynnol o aelodau annibynnol o fis Mawrth 2024. Bydd hyn yn rhoi'r sefydlogrwydd a'r ffocws sydd eu hangen ar y sefydliad i wella.

Yn dilyn yr adolygiad o swyddfa ysgrifennydd y bwrdd, mae'r gwaith sy'n ymwneud â threfniadau llywodraethiant y bwrdd wedi datblygu. Mae hyn yn cynnwys:

  • mae cylch gorchwyl pob pwyllgor wedi cael ei ddiweddaru a bydd pob pwyllgor yn weithredol o fis Mawrth 2024; mae mesurau arbennig wedi'u hymgorffori ym mhob pwyllgor ac mae gan aelodau annibynnol rôl hollbwysig i'w chwarae i sicrhau bod gofynion y mesurau arbennig yn cael eu bodloni
  • mae rhaglen sefydlu newydd wedi cael ei datblygu ar gyfer y bwrdd a chaiff pob aelod annibynnol newydd ei sefydlu drwy'r broses hon
  • mae rhaglen datblygu'r bwrdd ar waith, sy'n cynnwys ffocws ar wasanaethau clinigol, ymweliadau â safleoedd, meysydd allweddol fel cynllunio cydnerthedd yn ystod y gaeaf a gafael a chydnerthedd ariannol
  • cytunodd y bwrdd ar fframwaith rheoli risg yn ystod ei gyfarfod ym mis Medi 2023, a ategir gan Fframwaith sicrwydd y bwrdd; mae hwn wedi cael ei roi ar waith a chyflwynir adroddiadau i'r pwyllgor archwilio

Mae Archwilio Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad dilynol ar effeithiolrwydd y bwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ddiweddar. Mae'n disgrifio'r heriau dros y 12 mis diwethaf, yn nodi rhai o'r gwelliannau a wnaed ac yn amlinellu'r gwaith y mae angen ei wneud o hyd. Mae'n nodi:

[mae'r] bwrdd, yn dilyn cyfnod o darfu a chorddi sylweddol yn ystod 2023, mewn sefyllfa fwy sefydlog bellach. Mae Prif Weithredwr parhaol newydd yn y swydd, nid yw’r camweithrediad yn y bwrdd a ddisgrifiwyd yn ein hadroddiad blaenorol i’w weld mwyach ac mae’r berthynas waith ymhlith arweinwyr uwch yn fwy cadarnhaol yn gyffredinol.

A bod:

trefniadau’r bwrdd a’r pwyllgorau, o sefyllfa anodd ym mis Chwefror, wedi gwella’n gyson er bod llawer mwy i’w wneud sy’n cynnwys ailsefydlu cyfres lawn o bwyllgorau islaw’r bwrdd a gwella ansawdd sicrwydd a ddarperir ym mhapurau’r bwrdd a’r pwyllgorau.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cadarnhau bod cynlluniau ar waith i recriwtio i weddill y swyddi parhaol er mwyn sicrhau bod gan y bwrdd gapasiti llawn.

Mae dealltwriaeth glir o'r heriau ac mae rhai o'r sylfeini ar gyfer dod yn sefydliad effeithiol ar waith erbyn hyn.

Llywodraethu clinigol, profiad a diogelwch cleifion

Gwelwyd dull newydd y bwrdd o gynyddu ei welededd ac ymgysylltu mwy â'r cyhoedd yn y Gogledd pan gynhaliodd ei gyfarfod cyffredinol blynyddol mewn canolfan gymunedol yn Llandudno. Mae cyfres o sioeau teithiol wedi’u cynnal i sgwrsio â'r cyhoedd er mwyn galluogi pobl leol i alw heibio a rhoi eu barn ar wasanaethau iechyd lleol. Gallai pobl siarad â staff rheng flaen er mwyn dysgu am eu gwaith bob dydd a chyfarfod ag aelodau o'r bwrdd i siarad am gynlluniau'r bwrdd iechyd ar gyfer y dyfodol.

Bu ffocws da ar waith partneriaeth gydag awdurdodau lleol, y trydydd sector a phrifysgolion, ac mae gwaith ymgysylltu â'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi gwella hefyd. Mae hyn i'w weld drwy'r gwaith a wneir ar Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ac Ysbyty Brenhinol Alexandria yn y Rhyl.

Am y tro cyntaf, cafodd adroddiad (t 28) ar brofiad dinasyddion ei gynnwys yng nghyfarfod y bwrdd ym mis Ionawr. Roedd yn cynnwys y themâu allweddol a gododd o'r trafodaethau a'r sgyrsiau hynny, er mwyn galluogi'r bwrdd iechyd i ddysgu ohonynt a gweithredu ar unrhyw faterion a oedd yn dod i'r amlwg.

Mae adolygiad cyflym o drefniadau ymgysylltu clinigol wedi cael ei gwblhau a'i rannu â'r bwrdd fel rhan o'r ymyriad mesurau arbennig. Bydd y Pwyllgor Pobl a Diwylliant newydd yn arwain y ffrwd waith hon.

Datblygu'r gweithlu a'r sefydliad

Mae angen gwneud mwy o hyd i sicrhau bod tîm gweithredol parhaol ar waith. Mae cyfarwyddwr llywodraethu corfforaethol wedi cael ei recriwtio ac mae disgwyl iddo ddechrau ar 1 Ebrill 2024. Cynhaliwyd adolygiad o bortffolios gweithredol ac mae'r bwrdd iechyd wrthi'n recriwtio i lenwi rhai swyddi allweddol.

Ystyriodd y bwrdd yr argymhellion a wnaed yn yr adolygiad o benodiadau interim i swyddi gweithredol yn ystod sesiwn ddatblygu ym mis Medi 2023 a rhannodd ei ymateb rheoli yng nghyfarfod y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol a Thelerau Gwasanaeth ym mis Tachwedd 2023. Mae rheolaethau ynghylch defnyddio penodiadau interim ar lefel uwch wedi cael eu cryfhau. Ym mis Rhagfyr 2022, roedd 41 o staff interim ar lefel uwch ac erbyn mis Ionawr 2024, roedd hyn wedi gostwng i un, sydd wedi arwain at arbed £2.35m ers mis Rhagfyr 2022.

Mae Archwilio Cymru wedi nodi bod “tystiolaeth o well llywodraethu o reolaeth y sefydliad ac asesiadau effaith gwirioneddol ar gyfer pob cais i ymestyn deiliadaeth swyddi interim uwch”.

Arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael cyfres o brif weithredwyr dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi cyfrannu at ansicrwydd i staff a datblygiad ymddygiadau sefydliadol a diwylliannol gwahanol rhwng ac o fewn arbenigeddau clinigol a safleoedd.

Mae'r bwrdd wedi gweithio i ddeall maint a graddau'r heriau diwylliannol a chafodd adroddiad ar adolygiad cyflym o drefniadau ymgysylltu ei gwblhau ym mis Medi 2023. Mae adroddiad gwrando ar gleifion, teuluoedd a chymunedau wedi cael ei gwblhau hefyd. Caiff y ddau adroddiad eu hystyried gan y Pwyllgor Pobl a Diwylliant newydd.

Mae'r bwrdd iechyd wedi gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), Academi Wales, prifysgolion lleol, a sefydliadau eraill GIG Cymru i lansio rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar gyfer staff presennol, ynghyd â rhaglenni hyfforddiant wedi'u teilwra ar gyfer staff ar lefelau gwahanol yn y bwrdd iechyd:

  • rhaglen datblygu staff gweithredol: rhaglen wedi'i theilwra ar gyfer cyfarwyddwyr gweithredol y bwrdd iechyd sy'n rhoi pwyslais ar arwain systemau strategol a gweithio fel tîm/bwrdd effeithiol
  • rhaglen arweinyddiaeth lefel uwch: rhaglen wedi'i theilwra ar gyfer y rhai ar haenau 3 a 5, cyfarwyddwyr y cymunedau iechyd integredig a'r rhai sy'n uniongyrchol atebol iddynt
  • trosi i swyddi arwain lefel uwch: ar gyfer y rhai sy'n trosi o rolau gweithredol i rolau uwch-reolwyr fel arweinwyr clinigol, penaethiaid adrannau, metrons, penaethiaid nyrsio, rheolwyr safleoedd clinigol
  • rhaglen arwain a rheoli lefel ganolig: ar gyfer rheolwyr lefel ganolig gweithredol sefydledig sy'n awyddus i arwain timau drwy gyfnod o newid ac ansicrwydd
  • rhaglen sylfeini arwain a rheoli: rhaglen orfodol ar gyfer pob aelod o staff sy'n newydd i rolau rheoli
  • darpar reolwyr pobl

Cymeradwyodd y bwrdd gynnig i lansio a llunio bwriad strategol y sefydliad ar sail diwylliant, arweinyddiaeth ac ymgysylltiad yn ei gyfarfod ym mis Medi 2023. Caiff y gwaith hwn ei gefnogi gan Michael West a Henry Engelhardt mewn cyfres o weithdai bwrdd ac mae cynlluniau i gynnal cynadleddau arwain â 250 o uwch-arweinwyr.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i gwblhau fframwaith gwerthoedd ac ymddygiadau a chynllun newid diwylliant ategol.

Gwasanaethau clinigol

Tynnodd y fframwaith mesurau arbennig sylw at nifer o wasanaethau clinigol a oedd mewn sefyllfa fregus o ganlyniad i ansawdd gwael a phrofiadau gwael i gleifion; lefelau staffio a chanlyniadau a pherfformiad o safon isel. Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio i wella'r gwasanaethau hyn er mwyn sicrhau y gallant ddarparu yn unol â safonau clinigol a bydd y ffocws hwn yn parhau wrth inni symud i gam nesaf y mesurau arbennig.

Gwasanaethau fasgwlaidd

Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ei hadroddiad dilynol ar wasanaethau fasgwlaidd yn y bwrdd iechyd yn dilyn arolygiad dirybudd. O ganlyniad, cafodd y gwasanaeth ei isgyfeirio o ‘wasanaeth sydd angen ei wella'n sylweddol’.

Cynhaliodd Rhwydwaith Clinigol Fasgwlaidd Gweithredol y GIG asesiad annibynnol yn erbyn y cynllun fasgwlaidd. Cafodd yr asesiad hwn ei ystyried wedyn gan Bwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad y bwrdd iechyd a'r bwrdd ac mae ymateb rheoli wedi cael ei gwblhau. Daeth yr asesiad i'r casgliad fod y gwasanaeth fasgwlaidd wedi gwella ers yr adolygiadau blaenorol a'i fod bellach, ym marn yr adolygwyr, yn darparu gwasanaeth llawer mwy diogel. Nododd hefyd fod y llawfeddygon fasgwlaidd yn cydweithio llawer mwy a bod gwaith rheoli cleifion yn cael ei ysgogi gan y tîm amlddisgyblaethol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu asesiad o nodiadau achos fasgwlaidd, sydd wedi adolygu 40 o lwybrau cleifion a gafodd driniaeth rhwng mis Awst 2022 a mis Awst 2023. Disgwylir i'r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2024.

Gwelir gwelliannau o hyd yn y gwasanaeth fasgwlaidd, sy'n adeilad ar yr adolygiadau a gynhaliwyd yn ddiweddar. Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu â theuluoedd ar ôl i ganfyddiadau'r Panel Ansawdd Fasgwlaidd gael eu cyhoeddi. Mae'r cynllun gwella gwasanaethau fasgwlaidd yn gynhwysfawr, a chaiff ei adolygu a'i ddiweddaru'n rheolaidd.

Orthopedeg

Ym mis Chwefror 2023, roedd amseroedd aros hir am driniaethau orthopedig ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyda 2,472 o lwybrau cleifion orthopedig yn aros dros 104 o wythnosau.

Rhoddwyd cynllun gwella ar waith a chafodd agweddau allweddol ar y cynllun hwn eu profi drwy'r ‘mis perffaith’ orthopedig yn Wrecsam ym mis Mehefin 2023. Cafodd y gwelliannau a nodwyd eu hymestyn i'r safleoedd eraill a phenderfynwyd cynnal mwy o weithgarwch yn Ysbyty Abergele. Mae'r safle hwn wedi arwain y ffordd o ran gweithredu arferion gorau clinigol ac mae bellach yn cynnal nifer cynyddol o driniaethau orthopedig ar yr un diwrnod.

Mae’r amseroedd aros ar gyfer llwybrau orthopedig wedi gwella, gyda 1,172 o lwybrau cleifion yn aros dros 104 wythnos ym mis Rhagfyr 2023, sef gwelliant o 52.5% ers mis Chwefror 2023, y lefel isaf ers Ebrill 2021.

Mae llawer o waith wedi cael ei wneud i ddatblygu'r model ar gyfer orthopedeg yn y dyfodol a chafodd achos busnes i greu canolfan orthopedig yn Llandudno ei gymeradwyo gan y bwrdd yn ei gyfarfod ym mis Medi 2023 a'i gymeradwyo'n ddiweddarach gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 23 Tachwedd 2023. Mae gwaith wedi dechrau ar y ganolfan newydd, a'r dyddiad cwblhau fydd mis Rhagfyr 2024.

Iechyd meddwl

Mae arweinyddiaeth a rheolaeth y gwasanaeth iechyd meddwl (gan gynnwys gwasanaethau plant a'r glasoed) yn fregus o hyd, ond cafwyd nifer o arolygiadau AGIC mwy cadarnhaol dros y 12 mis diwethaf, sy'n awgrymu bod y gwasanaeth yn sefydlogi.

Ystyriodd y bwrdd yr argymhellion a wnaed yn yr adolygiad annibynnol o ddiogelwch yng ngwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu BIPBC i gleifion mewnol yn ystod sesiwn ddatblygu ym mis Medi a rhannodd ei ymateb rheoli yng nghyfarfod y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad ym mis Hydref 2023. Cynhaliwyd asesiad allanol arall ym mis Ionawr 2024 i asesu i ba raddau y rhoddwyd yr argymhellion ar waith. Disgwylir i'r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2024.

Mae’r cynlluniau gwella ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a niwroddatblygiad wedi cael eu datblygu a’u cytuno gan y tîm Gweithredol. Fel rhan o'r broses, cynhaliwyd digwyddiad cynllunio bord gron a gefnogwyd gan arweinwyr cenedlaethol y GIG.

Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi cwblhau adolygiad o adolygiadau iechyd meddwl blaenorol er mwyn pennu i ba raddau y mae argymhellion yr adolygiadau hyn wedi cael eu rhoi ar waith a'u cwblhau. Disgwylir i'r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2024.

Mae perfformiad yn erbyn y gwahanol fesurau iechyd meddwl i oedolion wedi gwella, gyda 85.3% o oedolion wedi cael asesiad o fewn 28 diwrnod ym mis Rhagfyr 2023 o'i gymharu â 73.8% ym mis Chwefror 2023, ac 87.6% o oedolion wedi cael ymyriad o fewn 28 diwrnod o'i gymharu ag 84.6% ym mis Chwefror 2023. I bobl o dan 18 oed, mae’r perfformiad yn erbyn rhannau 1a ac 1b o'r mesur iechyd meddwl yn dal yn is na'r targed, ond gwelwyd gwelliannau o'i gymharu â mis Chwefror 2023.

Plediodd y bwrdd iechyd yn euog i erlyniad gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch mewn perthynas â marwolaeth claf ar ward iechyd meddwl i gleifion mewnol (North Wales health board fined after failings resulted in woman’s death | HSE Media Centre). Cafodd ddirwy sylweddol. Mae'n hanfodol bod y bwrdd iechyd yn sicrhau bod y gwersi sydd i'w dysgu o'r erlyniad hwn yn cael eu hymgorffori ym mhob safle.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y cynlluniau gwella ar gyfer gwasanaethau clinigol bregus eraill, ond nid yw'r fersiynau terfynol wedi cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru eto. Rydym yn poeni nad yw'r bwrdd iechyd yn ymateb mor gyflym ag y gallai i rai o'r problemau sy'n wynebu'r gwasanaethau hyn. Un maes sy'n peri pryder penodol yw'r gwasanaeth dermatoleg, sydd wedi dod o dan bwysau sylweddol ers yr haf o ganlyniad i nifer cynyddol o swyddi gwag a heriau recriwtio, yn enwedig yn ardal orllewinol y bwrdd iechyd. Mae anawsterau recriwtio staff parhaol yn golygu bod yn rhaid dibynnu ar staff interim a staff locwm.

Rhoddwyd ateb ymadfer ar waith ar unwaith i leihau'r effaith ar gleifion canser brys i'r eithaf. Fodd bynnag, mae hyn yn ddibynnol ar fentrau amseroedd aros ychwanegol ac nid yw'n gynaliadwy. Mae'n rhaid trawsnewid y gwasanaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £200,000 ychwanegol i'r bwrdd iechyd er mwyn sefydlu model tele-dermosgopi a fydd yn helpu i frysbennu cleifion yn gyflymach.

Trefniadau llywodraethiant a rheolaeth ariannol

Mae'r bwrdd iechyd wedi cytuno ar gynllun gweithredu cyllid mesurau arbennig a chynllun gweithredu amgylchedd rheolaeth ariannol â Llywodraeth Cymru a Gweithrediaeth y GIG. Caiff y rhain eu hadolygu a'u herio er mwyn cefnogi cynnydd a sicrwydd y caiff y cynllun a'r cerrig milltir allweddol eu cyflawni. Mae ymchwiliadau yn mynd rhagddynt i nifer bach o staff sydd wedi'u hatal dros dro.

Cymerwyd camau i sefydlogi'r tîm cyllid, ac mae adnoddau ychwanegol wedi cael eu nodi a'u hailgyfeirio i gefnogi canlyniadau allweddol, gwaith cyfrifyddu technegol, gwaith monitro parhaus ac adroddiadau ar berfformiad. Mae gwaith meincnodi ar swyddogaeth gyllid y bwrdd iechyd wedi cael ei gwblhau a bydd yn llywio'r model gweithredu ariannol yn y dyfodol. Mae camau ar waith i gryfhau capasiti'r uwch dîm arwain cyllid. Mae rhaglen wedi'i diweddaru o hyfforddiant caffael gydag amrywiaeth o weithgareddau yn cael ei chyflwyno yn y bwrdd iechyd.

Mae cynnydd yn cael ei wneud i nodi a gweithredu cynllun arbedion, gyda chynnydd sylweddol yn nifer yr arbedion a ragwelir gyda hyder, ym mis Rhagfyr 2023.

Mae'r gwasanaeth archwilio mewnol wedi cynnal adolygiad o drefniadau caffael a rheoli contractau. Mae'r adroddiad, a nododd 24 o gamau gweithredu, wedi cael ei adolygu a'i gymeradwyo gan Bwyllgor Archwilio'r bwrdd iechyd a cheir ymateb rheoli i bob argymhelliad. Rhoddwyd pwyslais ar dri maes allweddol:

  • amgylchedd rheoli: diwygiadau i'r rheolau sefydlog, y cynllun dirprwyo a'r cyfarwyddiadau ariannol sefydlog wedi cael eu cwblhau a'u cymeradwyo drwy'r weithrediaeth, y Pwyllgor Archwilio a'r bwrdd
  • hyfforddiant, cyhoeddi ac ymwybyddiaeth o'r prosesau ar gyfer caffael a chontractau: gofynnwyd i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru lunio a chyflwyno pecynnau hyfforddi i bob swyddog sy'n ymwneud â chaffael, a chynhaliwyd sesiynau â'r holl staff rheng flaen ac aelodau gweithredol
  • adrodd ar berfformiad i'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethiant: lluniwyd adroddiad manwl ar gydymffurfiaeth ar gyfer y Pwyllgor Archwilio er mwyn dangos effaith yr amgylchedd rheoli gwell

Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau

Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd ar alluogi camau gweithredu ers iddo gael ei uwchgyfeirio i fesurau arbennig, fel y dangosir gan y fframwaith cynllunio integredig, y fframwaith perfformiad integredig a'r fframwaith rheoli risg y cytunwyd arnynt i gyd gan y bwrdd yn ei gyfarfod ym mis Medi 2023.

Mae fframwaith sefydliad sy'n dysgu wedi cael ei ddatblygu ac wedi cael ei gytuno gan y tîm Gweithredol. Mae adolygiad cynhwysfawr o drefniadau gweithio i wella wedi cael ei gwblhau gan gynnwys digwyddiadau, hawliadau, ymchwiliadau, cwynion a gwersi a ddysgwyd. Mae'r bwrdd iechyd wrthi'n datblygu system rheoli ansawdd, gan adeiladu ar brofiadau sefydliadau sy'n batrwm i eraill, a disgwylir y fersiwn gyntaf ym mis Mai 2024.

Mae'r tîm gweithredol yn mabwysiadu dull gweithredu cryfach mewn perthynas â pherfformiad, yn unol â'r fframwaith perfformiad integredig a gymeradwywyd gan y bwrdd.

Cyflawni gweithredol

Mae nifer yr amseroedd aros hir i gleifion wedi lleihau, ar y cam cleifion allanol ac ar y cam trin, ers mis Chwefror 2023. Mae nifer y llwybrau sy'n aros mwy na 52 wythnos am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf wedi gostwng 8.9% rhwng Chwefror 2023 a Rhagfyr 2023. Mae nifer y llwybrau sydd â chyfanswm arosiadau dros 104 wythnos wedi gostwng 23.8% ac mae gostyngiad o 27% wedi bod yn nifer y llwybrau sy'n aros dros wyth wythnos am eu profion diagnostig dros yr un cyfnod.

Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Gweithrediaeth y GIG i leddfu pwysau gofal brys ac i wella profiad cleifion. Fodd bynnag, mae’r perfformiad ar gyfer gofal brys ac argyfwng yn parhau i fod yn her sylweddol.

Gwelliannau i wasanaethau

Mae llawer o enghreifftiau o welliannau i wasanaethau ac arloesedd a gyflwynwyd gan y bwrdd iechyd dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys:

  • Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio triniaeth newydd, sef laser arloesol, i gael gwared ar ardaloedd amheus neu diwmorau ar y bledren; mae'r driniaeth yn defnyddio Ablediad Laser Traws Wrethrol (TULA), sef ffordd o archwilio'r bledren gan ddefnyddio camera ar bibell hyblyg denau sy'n defnyddio laser i drin y bledren; bydd hyn yn gwella canlyniadau a phrofiadau pobl
  • mae'r bwrdd iechyd wedi cwblhau estyniad Adran Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam, sydd wedi creu mwy o ystafelloedd ymgynghori a thrin ar gyfer cleifion y mae angen gofal brys arnynt;
  • mae'r lolfa ryddhau yn Ysbyty Glan Clwyd wedi cael ei gwella ac mae bellach yn gweithio fel canolfan ryddhau lle gall pobl aros am hyd at 24 awr, gan helpu i reoli llif cleifion drwy'r ysbyty a lleihau unrhyw oedi diangen i'r rhai sy'n barod i fynd adref
  • dengys canlyniadau arolwg hyfforddiant cenedlaethol diweddar gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol fod mwy na 90% o feddygon dan hyfforddiant yn fodlon ar ansawdd yr oruchwyliaeth glinigol, y profiad a'r addysg y maent yn eu cael yn adran achosion brys Ysbyty Gwynedd; yn yr un arolwg, dyfarnodd meddygon iau mai dyma'r lle gorau i hyfforddi yn y DU hefyd
  • y bwrdd iechyd yw'r cyntaf yn y DU i ddefnyddio meddalwedd deallusrwydd artiffisial, sef platfform Galen, er mwyn helpu i ddiagnosio canser y fron
  • mae uned cymorth anadlol newydd ag wyth gwely wedi agor yn Ysbyty Glan Clwyd i gefnogi cleifion â phroblemau anadlol y mae angen arsylwadau manylach rheolaidd arnynt, ond nad ydynt yn ddigon sâl i fod angen gofal dibyniaeth uchel; dyma'r uned cymorth anadlol bwrpasol gyntaf a ddyluniwyd ac a adeiladwyd yng Nghymru yn y cyfnod ar ôl y pandemig ac fe'i dyluniwyd gan ddefnyddio'r gwersi a ddysgwyd o'r pandemig
  • mae'r bwrdd iechyd wedi sefydlu Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru i fynd i'r afael â'r gwaith o recriwtio, cadw ac uwchsgilio gweithwyr deintyddol proffesiynol
  • agorwyd canolfan ymadfer ar ôl strôc newydd yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael y siawns orau bosibl o ymadfer ar ôl cael strôc; dyma'r ail o dair canolfan adsefydlu gymunedol arbenigol newydd i gleifion mewnol sydd wedi agor yn y gogledd; mae'r rhain yn trin cleifion nad oes angen triniaeth strôc arbenigol arnynt mwyach mewn ysbyty acíwt ond y mae angen gofal adsefydlu arnynt na ellir ei ddarparu yn y cartref; agorwyd y ganolfan gyntaf yn Ysbyty Eryri, Gwynedd
  • mae dull peilot “profi yn syth” wedi cael ei gyflwyno fel y gall cleifion gael prawf mpMRI yn gynt ar ôl cael eu hatgyfeirio am brofion diagnostig ynghylch amheuaeth o ganser; caiff pobl eu gweld yn gyflymach, ac maent yn cael sgan MRI tua 18 diwrnod ar ôl cael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu
  • ers lansio gwasanaeth 111 pwyso 2 y llynedd, mae'r bwrdd iechyd wedi derbyn mwy nag 8,000 o alwadau gan bobl y mae angen cymorth iechyd meddwl brys arnynt; dengys adborth fod 99.3% o alwyr wedi nodi lleihad yn eu sgoriau trallod ar ôl cyswllt ag ymarferwyr llesiant penodedig; mae atgyfeiriadau at wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol wedi gostwng 8%

Beth sydd angen ei wneud o hyd?

Yn ei adroddiad diwethaf, mae Archwilio Cymru wedi nodi'n glir iawn bod llawer o waith i'w wneud o hyd:

…mae rhai heriau sylfaenol yn parhau yng nghyd-destun sefydliad sy’n destun mesurau arbennig. Mae angen gwneud penodiadau parhaol i’r bwrdd cyn gynted â phosibl i sicrhau bod y bwrdd yn cyrraedd ei gapasiti llawn. Mae’n rhaid i waith barhau i ffurfio Tîm Gweithredol unedig ac effeithiol, i ddatrys y problemau personél parhaus yn yr Adran Gyllid, ac i gryfhau trefniadau arweinyddiaeth llywodraethu corfforaethol o fewn y sefydliad. Mae angen i’r gweithgareddau hyn gael eu cefnogi gan gynnydd parhaus â rhaglen datblygu’r bwrdd sy’n ffurfio bwrdd cydlynol ac unedig sy’n cefnogi diwylliant sefydliadol cadarnhaol trwy osod yr “esiampl iawn o’r brig.

Mae Llywodraeth Cymru, drwy ei swyddogaeth oruchwylio a sicrwydd, yn glir bod angen i'r gwelliannau mewn perthynas â chanlyniadau, perfformiad, gwasanaethau clinigol bregus ac ansawdd a diogelwch gael eu cyflawni'n gyflymach. Er bod rhai gwelliannau i'w gweld yn y meysydd hyn, nid ydynt yn ddigon ac nid ydynt bob amser yn gynaliadwy.

Mae'r achosion a amlygwyd gan Grwneriaid EF a'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn peri pryder penodol, gan gynnwys methiannau i weithredu'n brydlon gyda'r broses gwyno; gwaith cefnogi a chynllunio strategol annigonol ac aneffeithiol; amseroldeb ymchwiliadau'r bwrdd iechyd a'r ddibyniaeth barhaus ar gofnodion cleifion papur.

Mae crwneriaid y gogledd wedi cyflwyno 25 o adroddiadau Atal Marwolaethau yn y Dyfodol (Rheoliad 28) i'r bwrdd iechyd ers mis Ionawr 2023, ac mae llawer ohonynt yn amlygu themâu cyson, y mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd fynd i'r afael â nhw. Y themâu yw:

  • diffyg cofnod iechyd electronig integredig yn effeithio ar barhad gofal ac ansawdd cynlluniau triniaeth
  • oedi yn y system iechyd a gofal cymdeithasol yn effeithio ar allu gwasanaeth ambiwlans Cymru i ymateb yn amserol
  • ansawdd ymchwiliadau ac effeithiolrwydd camau gweithredu

Mae'r bwrdd iechyd wedi sefydlu rhaglen ymchwiliadau a dysgu, a'r cyfarwyddwr meddygol yw'r uwch-berchennog cyfrifol enwebedig. Caiff y rhaglen ei goruchwylio'n uniongyrchol gan y prif weithredwr a'r tîm gweithredol ehangach ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i'r Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad. Mae proses uwchgyfeirio glir ar waith er mwyn adolygu a, lle bo angen, wella:

  • ansawdd pob ymchwiliad
  • ansawdd y gwaith cynllunio camau gweithredu sy'n deillio o ymchwiliad, gan gynnwys trefniadau i dracio camau gweithredu
  • tystiolaeth o wersi i'w dysgu yn cael eu hadrodd / eu rhannu / eu rhoi ar waith yn eang

Mae'r bwrdd wedi ystyried yr argymhellion a wnaed yn yr asesiad mewn perthynas â phryderon a godwyd ynghylch diogelwch cleifion cysylltiedig yn y bwrdd iechyd yn ystod sesiwn ddatblygu ym mis Medi 2023 a rhannodd ei ymateb rheoli yng nghyfarfod y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad ym mis Tachwedd 2023.

Nid oes gan y bwrdd iechyd system rheoli ansawdd gadarn ar waith ac mae angen cyflymu gwaith yn hyn o beth.

Er y gwelwyd gwelliannau ym maes llywodraethiant corfforaethol, rhaid gwneud yr un peth ym maes llywodraethu ansawdd a chyflawni gweithredol. Rhaid canolbwyntio ar welliannau yn y ddau faes hyn dros y 12 mis nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl gweld cynnydd mewn perthynas â'r canlynol:

  • system rheoli ansawdd
  • mwy o ymwybyddiaeth ac ystyriaeth ar lefel bwrdd o ansawdd a diogelwch gwasanaethau
  • gweithrediad effeithiol pwyllgorau'r bwrdd
  • data gwell ar lwybrau clinigol, canlyniadau clinigol a phrofiadau cleifion yn cael eu defnyddio i nodi methiannau mewn gwasanaethau ac ysgogi gwelliannau i ansawdd
  • cynllunio ansawdd ar gyfer gwasanaethau clinigol
  • cynllunio galw a chapasiti
  • cyflawni cynlluniau gweithredu
  • gwella ansawdd ymchwiliadau i ddigwyddiadau
  • ffocws ar gynllunio swyddi meddygon ymgynghorol
  • ymgysylltiad clinigol ac arwain gwelliannau
  • diwylliant clinigol gwell
  • amseroedd aros byrrach yn y gwasanaethau hynny lle nad yw safonau'n cael eu cyflawni

Casgliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi sefydlogi ac wedi dechrau gosod y sylfeini i ddod yn sefydliad cynaliadwy dros y 12 mis diwethaf o dan y trefniadau mesurau arbennig presennol.

Mae'r adolygiadau a gynhaliwyd wedi amlygu gwendidau ac wedi tynnu sylw at feysydd lle mae angen gwneud gwelliannau pellach. Bydd angen i'r bwrdd iechyd barhau i ganolbwyntio ar y rhain. Mae'r camau a'r prosesau a roddwyd ar waith gan y cadeirydd, yr aelodau annibynnol, y prif weithredwr a'r cyfarwyddwyr gweithredol yn cael effaith a bydd angen gwaith tîm ac arweinyddiaeth effeithiol er mwyn adeiladu ar y rhain dros y 12 mis nesaf.

Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn heriol a bydd yn cymryd cryn amser i ailadeiladu'r bwrdd iechyd yn llawn. Fodd bynnag, mae cynnydd wedi cael ei wneud.