Mesurau arbennig (lefel 5) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: adroddiad cynnydd blwyddyn 3
Trosolwg o’r bwrdd iechyd a’r cynnydd a wnaed o dan mesurau arbennig (lefel 5) rhwng Chwefror 2023 a Chwefror 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Ar 27 Chwefror 2026, roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod o dan fesurau arbennig (lefel 5) ers tair blynedd. Roedd y penderfyniad i uwchgyfeirio, a wnaed yn 2023, mewn ymateb i bryderon sylweddol am lywodraethiant, arweinyddiaeth, a pherfformiad.
Dros y 12 mis diwethaf, mae'r bwrdd wedi cryfhau newidiadau i lywodraethiant ac arweinyddiaeth, ac wedi datblygu ei systemau ansawdd a diogelwch. Fodd bynnag, mae heriau sylweddol a pharhaus o ran darparu gofal diogel, amserol ac effeithiol, yn enwedig mewn perthynas â chanser, gofal wedi'i gynllunio, a gofal brys ac argyfwng.
Ym mis Tachwedd 2025, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ystod o fesurau pellach i roi cymorth i'r bwrdd iechyd i wella gofal a phrofiadau cleifion fel rhan o'r ymyrraeth o dan lefel 5 y mesurau arbennig. Mae hyn yn cynnwys capasiti ac arbenigedd newydd ar lefel uchel o fewn y bwrdd iechyd, gyda chymorth ychwanegol gan Perfformiad a Gwella'r GIG. Mae'r tîm o arbenigwyr yn cynnwys cynghorydd gwella, a gefnogir gan arweinwyr gweithredol profiadol, sy'n gweithio ochr yn ochr â phrif weithredwr a bwrdd y bwrdd iechyd i fwrw ymlaen â gwelliannau cyflym.
Er bod heriau sylweddol yn parhau, mae'n bwysig cydnabod graddfa'r gwaith a wneir gan y sefydliad:
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r bwrdd iechyd mwyaf yng Nghymru. Mae'n gwasanaethu tua 697,000 o bobl ac yn cyflogi tua 21,600 o bobl.
- mae'r bwrdd iechyd yn cydgysylltu gwaith 96 o feddygfeydd, a gwasanaethau'r GIG sy'n cael eu darparu gan 78 o bractisau deintyddol ac orthodontig, 70 o bractisau optometreg ac optegwyr a 144 o fferyllfeydd ar draws y Gogledd
- bob mis, cynhelir 313,000 o apwyntiadau ar gyfartaledd mewn meddygfeydd yn y Gogledd; maent yn atgyfeirio tua 34,300 o bobl i ysbytai neu i wasanaethau eraill y GIG, ac yn cyhoeddi 10,800 o nodiadau ffitrwydd bob mis
- bob mis, mae deintyddion y GIG yn gweld 13,800 o gleifion ar gyfartaledd; darperir 19,400 o brofion golwg a thriniaethau clinigol a ariennir gan y GIG gan optometryddion, ac mae 11,000 o bobl yn cael mynediad at ystod eang o wasanaethau fferylliaeth
- bob mis, defnyddir adrannau achosion brys gan tua 20,000 o bobl a chynhelir tua 66,860 o apwyntiadau cleifion allanol
Mae enghreifftiau o'r gwelliannau a wnaed ers mis Chwefror 2023 yn cynnwys:
Amseroedd aros gwell
Bu gostyngiad o 66% yn nifer y llwybrau sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth. Mae'n werth nodi bod 84% o ostyngiad mewn arosiadau dwy flynedd am driniaeth orthopedig; 57% o ostyngiad ar gyfer llawdriniaeth gyffredinol a 65% o ostyngiad yn yr adrannau Clust, Trwyn a Gwddf (ENT). Mae hyn wedi'i sbarduno gan gynhyrchiant wedi'i dargedu mewn theatrau; rhestrau gwarchodedig ar gyfer triniaethau a gynhelir yn rheolaidd; a defnydd effeithiol o gontractau mewnoli ac allanoli, lle bo hynny'n briodol yn glinigol.
Mae nifer yr asesiadau iechyd meddwl ar blant a'r glasoed a gwblhawyd o fewn 28 diwrnod o'r atgyfeiriad wedi gwella o 57.8% ym mis Chwefror 2023 i 90% ym mis Rhagfyr 2025. Mae cydymffurfiaeth yn erbyn y safon o 80% wedi'i chynnal dros y deunaw mis diwethaf.
Mae nifer yr ymyriadau iechyd meddwl therapiwtig ar gyfer plant a'r glasoed a ddechreuwyd o fewn 28 diwrnod ar ôl asesiad wedi gwella o 26.8% ym mis Chwefror 2023 i 70% ym mis Rhagfyr 2025. Fodd bynnag, mae hyn yn dal i fod yn is na'r safon o 80%.
Llywodraethiant cryfach
Mae pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad y bwrdd iechyd, camau gweithredu wedi'u targedu ar gyfer y gweithlu, a llwybrau uwchgyfeirio cliriach wedi cyfrannu at gydymffurfio'n well â safonau mynediad allweddol i oedolion a phobl ifanc. Yr her nawr yw cynnal y buddion a lleihau amrywiadau rhwng ardaloedd a gwasanaethau.
Mae'r Asesiad Strwythuredig diweddaraf gan Archwilio Cymru wedi tynnu sylw at systemau sicrwydd corfforaethol cryfach, fframweithiau risg a pherfformiad cliriach, a chraffu mwy cydlynol gan y bwrdd drwy'r pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad a'r pwyllgor Perfformiad, Cyllid a Llywodraethu Gwybodaeth.
Uned Hergest
Nododd arolygiad dirybudd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ym mis Medi 2025 welliannau o ran gwelededd arweinwyr, protocolau diogelwch, rheoli heintiau a phrofiad cleifion. Arsylwyd bod staff yn trin cleifion gydag urddas a pharch. Mae'r camau angenrheidiol yn sgil yr arolygiad hwn yn ymwneud â chydymffurfiaeth â hyfforddiant gorfodol, amserlenni gweithgareddau therapiwtig a diogelwch wardiau.
Gwasanaeth fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol
Mae'r bwrdd iechyd wedi darparu'r nifer uchaf o ymgyngoriadau gan fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol yng Nghymru. Mae hyn yn ehangu mynediad yr un diwrnod ar gyfer mân gyflyrau ac yn optimeiddio meddyginiaethau, gan leihau'r pwysau ar feddygon teulu ac adrannau achosion brys.
Buddsoddi yng nghapasiti deintyddol y GIG: Mae gwerth mwy na £6.5m o gontractau deintyddol newydd y GIG wedi'u sicrhau, gan gynyddu mynediad at ofal deintyddol arferol a brys.
Cyflwyno gwasanaethau a thechnolegau clinigol arloesol
Mae agor Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn cryfhau'r nifer o glinigwyr lleol; bydd rhaglen fferylliaeth newydd ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi hwb i sgiliau lleol; mae fan awdioleg gymunedol, y trefniant cyntaf o'i fath, yn dod â diagnosteg yn agosach at gartrefi pobl; ac mae treialon ar gyfer cynnal llawdriniaeth ar y pen-glin gyda chymorth realiti estynedig yn cefnogi manwl gywirdeb ac effeithlonrwydd mewn gofal orthopedig.
Cydnabyddiaeth i'r adran achosion brys
Mae'r adran achosion brys yn Ysbyty Gwynedd wedi cael ei chydnabod fel y lle gorau i hyfforddi yng Nghymru am ddwy flynedd yn olynol, yn 2023 a 2024,gan adlewyrchu gwelliannau o ran goruchwyliaeth glinigol, diwylliant a llywodraethiant addysgol, a chefnogi'r gwaith o gadw'r gweithlu mewn arbenigedd dan bwysau.
Barn archwilio ddiamod
Mae'r cyfrifon blynyddol wedi cael barn archwilio 'wir a theg' ddiamod gan Archwilio Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan ddangos rheolaeth ariannol gryfach a dysgu o faterion cyfrifyddu hanesyddol.
Technoleg arennol a phrosesau monitro cleifion gwell: Mae gwasanaethau arennol yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alltwen wedi defnyddio offer asesu cyfansoddiad a statws hylif y corff, gan wella manwl gywirdeb mewn gofal a chanlyniadau hirdymor.
Gwasanaeth twnnel y carpws dan arweiniad uwchsain
Mae Ysbyty Maelor Wrecsam yn darparu gwasanaeth rhyddhau twnnel y carpws dan arweiniad uwchsain cyntaf Cymru, gan alluogi triniaeth effeithlon fel claf dydd gydag adferiad cyflymach a phrofiad gwell i gleifion, wrth leihau'r pwysau ar theatrau traddodiadol.
Gweithredu system radioleg newydd
Mae'r system radioleg newydd wedi gwella amserlennu ac adrodd clinigol yn sylweddol ar gyfer delweddau meddygol fel pelydr-x, sganiau CT, sganiau MRI, a sganiau uwchsain.
Llywodraethiant, arweinyddiaeth ac effeithiolrwydd y bwrdd
Mae'r bwrdd wedi cryfhau goruchwyliaeth drwy aelodau newydd, fframweithiau risg a pherfformiad cliriach, a mwy o dryloywder yn y prosesau adrodd. Mae bwrdd parhaol ar waith, mae'r newidiadau eleni yn cynnwys penodi Syr Paul Lambert fel yr aelod annibynnol i arwain ar gyllid, a Peter Lewis fel cadeirydd y grŵp cyfeirio rhanddeiliaid.
Bu penodiadau parhaol i'r tîm gweithredol, gan gynnwys prif swyddog gweithredu, cyfarwyddwr meddygol gweithredol a chyfarwyddwr y gweithlu a datblygu sefydliadol. O'r 12 o rolau cyfarwyddwyr gweithredol a chyfarwyddwyr ar y bwrdd, mae naw wedi'u penodi ers mis Chwefror 2023.
Roedd Asesiad Strwythuredig Archwilio Cymru 2024 yn cydnabod datblygiadau cadarnhaol o ran llywodraethiant corfforaethol a chynnydd o ran penodi i rolau sy'n hanfodol i fusnes, wrth dynnu sylw at yr angen i ymsefydlu tîm gweithredol sefydlog, cydlynol ac i gwblhau strategaeth a chynllun gwasanaethau clinigol tymor hwy. Mae goruchwyliaeth Llywodraeth Cymru yn parhau i fod ar waith, gan gynnwys fforymau mesurau arbennig, cyfarfodydd sicrwydd iechyd meddwl i bob oedran, a chyfarfodydd misol rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chadeirydd y bwrdd iechyd.
Mae'r bwrdd yn canolbwyntio ar newid diwylliant y sefydliad. Bydd hyn yn cymryd amser, ond mae'n mynd i'r afael â materion etifeddol yn fwy tryloyw. Cyhoeddwyd ymateb cyfunol o'r gwersi a ddysgwyd yn sgil materion cyfrifyddu hanesyddol ym mis Gorffennaf 2025.
Mae sefydlogi'r gweithlu yn ganolog i ymdrechion gwella, gan leihau swyddi gwag allweddol a gwella cydymffurfiaeth â hyfforddiant. Mae gweithredu'r Fframwaith Codi Llais Heb Ofn yn dechrau cryfhau diogelwch seicolegol, ac mae ymweliadau gan arweinwyr wedi gwella gwelededd ac wedi dilyn egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol. Fodd bynnag, mae morâl y gweithlu yn gymysg, gyda phwysau ar dimau rheng flaen yn effeithio ar gadw staff. Mae angen sicrhau bod y gwaith o gynllunio'r gweithlu yn cyd-fynd yn well â disgwyliadau o ran ailgynllunio gwasanaethau a pherfformiad.
Mae'r rhaglen newid sylweddol Sylfeini ar gyfer y Dyfodol, sydd ar y gweill ar gyfer 2026-27, wedi'i chynllunio i sicrhau bod strwythurau, pobl, systemau, prosesau, diwylliant a strategaeth yn cyd-fynd â'i gilydd. Ei nod yw ymateb i heriau gweithredol, ac adeiladu sefydliad cydlynol, ystwyth a chynaliadwy.
Mae'r bwrdd yn canolbwyntio ar wrando ar gleifion, staff a dinasyddion. Mae'r adborth yn parhau i fod yn gyson, mae pwyslais ar effaith yr amseroedd aros hir ac amrywiadau mewn mynediad ar draws y bwrdd iechyd; heriau wrth lywio a chyfathrebu â'r system, pwysigrwydd tosturi ac urddas, a'r angen i fynd i'r afael â'r heriau penodol sy'n wynebu menywod, pobl ifanc, pobl â dementia, a grwpiau eraill agored i niwed.
Ym mis Medi 2025, y bwrdd iechyd oedd y cyntaf yng Nghymru i weithredu'r rhaglen Caffael y System Gwybodeg Radioleg (RISP) newydd, ac mae cynnydd wedi'i wneud ar y System Rheoli Gwybodaeth Labordy (LIMS), systemau mamolaeth digidol, a System Gwybodaeth Gofal Dwys Cymru (WICIS). Fodd bynnag, mae trawsnewid digidol yn parhau i fod yn faes o risg sylweddol ac mae'r llywodraethiant sydd ei angen i gyflawni'r rhaglenni hyn yn fregus.
O ran ansawdd y data, yn enwedig adroddiadau ar berfformiad, mae angen ffocws parhaus. Ym mis Tachwedd 2025, cafodd adrodd ar ystadegau'r rhestr aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT) ar gyfer y bwrdd iechyd ei atal dros dro gan Brif Ystadegydd Cymru. Roedd hyn yn dilyn pryderon ynghylch cywirdeb ac uniondeb y data RTT a gyflwynwyd gan y bwrdd iechyd ar gyfer sawl mis.
Cynhaliwyd adolygiad i brosesau casglu data, sicrhau ansawdd a llywodraethiant y bwrdd iechyd, gan archwilio llywodraethiant, prosesau technegol, materion codio a mecanweithiau sicrwydd o fewn y bwrdd iechyd ac ar draws y system genedlaethol. Canfu'r tîm adolygu fod hepgor dynodwr clinigydd penodol o adroddiadau diwedd mis y bwrdd iechyd wedi arwain at danadrodd mewn ystadegau swyddogol rhwng mis Ebrill a mis Medi 2025. Mae hyn bellach wedi'i gywiro ac ailddechreuwyd adrodd ar y data RTT ym mis Ionawr 2026.
Ansawdd y gofal
Er bod amrywiadau yn parhau, bellach, mae gan y bwrdd iechyd system rheoli ansawdd ar waith gyda llywodraethiant cliriach, strwythurau adrannol gwell a goruchwyliaeth glinigol fwy systematig.
Mae'r system yn seiliedig ar 4 piler:
- cynllunio ansawdd
- gwella ansawdd
- rheoli ansawdd
- sicrhau ansawdd
I 4 piler y'n cael eu hintegreiddio mewn fframweithiau a phrosesau craidd.
Mae diogelwch cleifion wedi'i gryfhau drwy ostyngiad yn nifer y digwyddiadau hwyr, prosesau dysgu carlam, ffordd well o ymdrin â digwyddiadau difrifol a chydymffurfiaeth well â'r ddyletswydd gonestrwydd. Mae prosesau adolygu marwolaethau yn fwy cadarn, gan helpu i nodi tueddiadau a meysydd ar gyfer camau gweithredu a gaiff flaenoriaeth.
Mae arwyddion o welliant mewn rhai gwasanaethau clinigol gan gynnwys mamolaeth, diabetes, a gofal arennol – er eu bod yn parhau i fod yn fregus. Bydd gwelliant parhaus mewn canlyniadau yn gofyn am fuddsoddiad parhaus, modelau cryfach ar gyfer y gweithlu, ac arweinyddiaeth glinigol fwy cyson.
Bu ffocws parhaus ar wella prosesau a systemau mewn ymateb i gwynion. Cefnogir hyn gan y polisi pryderon integredig ar gyfer digwyddiadau, cwynion ac adolygiadau marwolaethau, a gymeradwywyd gan y bwrdd ym mis Gorffennaf 2024, a'r hwb pryderon integredig, sy'n weithredol ers mis Medi 2024.
Cafodd mwy nag 80% o gwynion eu cau o fewn 30 diwrnod ym mis Tachwedd 2025, ac mae'r bwrdd iechyd wedi cyflawni'r gyfradd gau o 75% ar gyfer cwynion o fewn 30 diwrnod yn gyson ers mis Tachwedd 2024. Yr amser ar gyfartaledd ar gyfer darparu ymateb i gwynion yw 18 diwrnod gwaith, gwelliant mawr o'i gymharu â 59 diwrnod gwaith ym mis Ebrill 2024.
Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud gwelliannau i reoli llywodraethiant mewn perthynas â dysgu o adroddiadau digwyddiadau. Mae systemau ar waith ar gyfer olrhain a goruchwylio dysgu o'r adroddiadau hyn, gan arwain at wella prosesau hawlio ac iawndal.
Ym mis Ionawr 2026, cyhoeddodd AGIC ei hadroddiadyn dilyn arolygiad dirybudd o uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd. Tynnodd sylw at waith tîm cryf ar draws wardiau Aneurin, Cynan a Taliesin, gyda chleifion a theuluoedd yn disgrifio'r aelodau staff yno fel staff agos-atoch, sylwgar a chefnogol. Roedd yr arolygiad yn cydnabod ansawdd y gofal tosturiol sy'n cael ei ddarparu mewn amgylchiadau heriol, ochr yn ochr â chryfder trefniadau diogelu, mesurau atal a rheoli heintiau, a'r ymrwymiad clir i ddiogelwch cleifion. Tynnwyd sylw at bresenoldeb staff dwyieithog, sy'n galluogi pobl i gyfathrebu yn Gymraeg neu yn Saesneg, fel cryfder pwysig, gan adlewyrchu ymrwymiad y bwrdd iechyd i ofal sy'n canolbwyntio ar y person.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at heriau o ran darparu gweithgareddau therapiwtig ystyrlon, strwythuredig i gefnogi adferiad, cadw cofnodion, yr amgylchedd ffisegol; pwysau ar y gweithlu, gan gynnwys swyddi gwag ymhlith staff, dibyniaeth ar staff dros dro; a phryderon a godwyd gan staff ynghylch llesiant, adnoddau a gwelededd uwch-arweinwyr.
Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddodd AGIC adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o wasanaethau mamolaeth Ysbyty Gwynedd. Cyhoeddwyd adroddiad arall yn dilyn yr arolygiad dirybudd o adran achosion brys Ysbyty Gwynedd ym mis Gorffennaf 2025. Mae AGIC wedi cadarnhau bod y bwrdd iechyd wedi cymryd y camau priodol i fynd i'r afael â'r materion uniongyrchol a godwyd.
Gwasanaethau clinigol
Mae bregusrwydd, ansawdd a chysondeb o ran darparu gwasanaethau yn parhau i fod yn bryder gwirioneddol ar draws nifer o wasanaethau gan gynnwys gwasanaethau:
- gwasanaethau fasgwlaidd
- wroleg
- orthodonteg
- offthalmoleg
- dermatoleg
Mae cynlluniau gwella ar waith ym mhob un o'r meysydd gwasanaeth bregus a nodwyd, a gefnogir gan gylch adolygu rheolaidd i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd mewn modd amserol ac effeithiol. Mae pwyllgorau'r bwrdd wedi cynnal goruchwyliaeth a darparu cefnogaeth gan gynnwys:
Gwasanaethau fasgwlaidd
Ym mis Tachwedd 2024, ataliodd y bwrdd iechyd y ddarpariaeth uniongyrchol o lawdriniaethau agored a gynlluniwyd ac argyfwng ar gyfer anewrysm aortig yn yr abdomen (AAA) yn y Gogledd yn dilyn sawl risg glinigol. Rhoddwyd trefniadau ar waith i bobl gael eu trin yn Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke hyd at ddiwedd mis Mawrth 2026. Mae'r model gwasanaeth tymor hwy ar gyfer llawdriniaethau AAA bellach yn cael ei ystyried.
Ym mis Ebrill 2025, rhoddodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wybod i'r bwrdd iechyd na fydd yn lleoli meddygon sylfaen blwyddyn un (F1) yn yr adran llawfeddygaeth fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd o fis Awst 2025 ymlaen. Mae hyn yn dilyn pryderon am drefniadau gweithio, diwylliant a goruchwylio yn yr adran.
Gwasanaethau iechyd meddwl
Mae achos busnes yn cael ei ddatblygu i ddisodli Uned Ablett, yn unol â'r gost ddiwygiedig a gytunwyd gyda Llywodraeth Cymru. Bydd yn cael ei gyflwyno ar ddechrau 2026.
Atgyfnerthwyd y broses o arwain a rheoli gwasanaethau iechyd meddwl dros y ddwy flynedd ddiwethaf drwy benodi cyfarwyddwr a chyfarwyddwr meddygol ar gyfer iechyd meddwl ac anableddau dysgu, cyfarwyddwr gweithredol sy'n gyfrifol am iechyd meddwl a nyrs ymgynghorol ar gyfer dementia.
Mae cynnydd wedi'i wneud yn erbyn canfyddiadau adolygiad a gynhaliwyd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion. Cyflwynwyd adroddiad cynnydd manwl i'r bwrdd ym mis Ionawr, ochr yn ochr ag adroddiad cryno gan gadeirydd y grŵp cynghori arbenigol.
Gwasanaethau wroleg
Mae cleifion o'r Gogledd yn cael cystectomïau yn Ysbyty Arrowe Park, sy'n darparu mwy o sefydlogrwydd a phrofiad gwell i gleifion.
Gwasanaethau oncoleg
Mae dau oncolegydd meddygol parhaol ac un oncolegydd clinigol cyfnod penodol wedi'u recriwtio, gan gryfhau'r gwasanaeth. Mae ymdrechion recriwtio rhyngwladol parhaus ar gyfer meddygon arbenigol. Mae arloesi mewn gwasanaethau yn cynnwys trosglwyddo rhai triniaethau o gyflenwi mewnwythiennol i gyflenwi isgroenol, sy'n rhyddhau capasiti ac yn gwella'r profiad i gleifion.
Gwasanaethau strôc
Mae perfformiad yn erbyn safonau Rhaglen Archwilio Genedlaethol ar gyfer Strôc Sentinel (SSNAP) y DU yn parhau i fod yn is na'r disgwyl. Mae camau ar gyfer gwella yn canolbwyntio ar dderbyn cleifion yn amserol i unedau strôc, llwybrau thrombolysis a mynediad at therapi. Mae pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad y bwrdd iechyd yn cael diweddariadau wedi'u targedu ar gyfer y gwasanaethau strôc ac yn olrhain cydymffurfiaeth ar draws y tri safle acíwt.
Perfformiad a chanlyniadau
Perfformiad yw'r maes mwyaf heriol. Er gwaethaf mentrau wedi'u targedu a phocedi o welliannau, nid yw'r raddfa a'r cysondeb sydd eu hangen ar gyfer isgyfeirio wedi'u cyflawni eto.
Mae buddsoddiad parhaus a chontractau mewnoli ym meysydd CT, endosgopi, ecocardiograffeg ac offthalmoleg wedi lleihau rhestrau aros a chryfhau gwydnwch llwybrau. Mae'r gwelliannau hyn, er nad ydynt eto yn ddigonol i newid y perfformiad ar draws y system gyfan, yn darparu'r sylfeini ar gyfer adferiad.
Gofal brys ac argyfwng
Mae perfformiad gofal brys ac argyfwng yn parhau i fod yn fregus, gydag oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys a chyfyngiadau ar lif yn effeithio ar berfformiad. Mae gwaith o dan y rhaglen Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng wedi cryfhau pa mor gydgysylltiedig yw'r system, ond mae gwelliant parhaus yn gofyn am newidiadau strwythurol i lwybrau.
Ym mis Ionawr 2026, adroddodd y bwrdd iechyd ddirywiad pellach mewn perfformiad yn erbyn y targed amser aros o bedair awr ar gyfer adrannau achosion brys, gan gofnodi perfformiad isaf erioed y bwrdd iechyd. Mae'r sefydliad hefyd yn parhau i adrodd am y nifer uchaf o gleifion sy'n aros mwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys yng Nghymru.
Mae rhaglen newid sylweddol ar gyfer gofal brys ac argyfwng ar waith; cynhaliwyd adolygiad cyflym o adrannau achosion brys ym mis Ionawr 2026 ac mae mabwysiadu egwyddorion gweithredol gofal brys ac argyfwng wedi egluro'r sbardunau ar gyfer uwchgyfeirio, y mesurau ar gyfer rheoli llif cleifion, a sut y caiff diogelwch ei fesur mewn llwybrau gofal argyfwng.
Rhoddodd Llywodraeth Cymru bron i £100,000 i'r bwrdd iechyd ym mis Rhagfyr 2025 i ariannu hyfforddiant rheoli cwympiadau ac offer codi ar gyfer 40 o gartrefi gofal ledled y Gogledd. Mae cyllid hefyd wedi'i ddyrannu i gefnogi hyrwyddwyr llif a chyflawni'r fframwaith optimeiddio llif cleifion mewn ysbytai.
Mae'r ymyriadau'n cynnwys:
- gweithredu Gwasanaeth Ymateb Cymunedol i Gwympiadau ar gyfer y Gogledd, er mwyn sicrhau tegwch o ran canlyniadau ar draws y rhanbarth
- integreiddio unedau mân anafiadau, canolfannau triniaeth frys, a chanolfannau gofal sylfaenol brys o fewn y model ar gyfer darparu gofal brys yr un diwrnod yn y gymuned er mwyn helpu mwy o bobl i gael mynediad at ofal a thriniaeth yn agosach at y cartref, gan leihau'r pwysau ar y tair adran achosion brys
- datblygu darpariaeth fwy effeithlon a weithredir yn llawn ar gyfer gwasanaethau gofal (model cam i fyny a cham i lawr) i helpu i wella prosesau rhyddhau cleifion a byrhau'r amseroedd y mae cleifion mewnol yn aros yn yr ysbyty
Canser
Mae'r bwrdd iechyd wedi adrodd perfformiad canser cryf yn hanesyddol, ond dros y ddwy flynedd ddiwethaf nid yw hyn wedi'i gynnal. Cysondeb llwybrau ac amseroedd aros ar gyfer mynediad at ddiagnosteg yw'r prif feysydd pryder. Mae perfformiad canser wedi amrywio ar draws lleoliadau tiwmor ac mae'r perfformiad cyffredinol yn erbyn y targed 62 diwrnod wedi gostwng drwy gydol y flwyddyn, mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer mis Rhagfyr 2025 yn dangos perfformiad o 51.2%, sef y perfformiad isaf a adroddwyd erioed yn erbyn y targed llwybr canser a amheuir.
Mae'r bwrdd iechyd yn cymryd ystod o gamau i wella perfformiad ym maes canser, gan gynnwys capasiti ychwanegol ar gyfer endosgopi, contract mewnoli ar gyfer dermatoleg, mentrau rhestrau aros a recriwtio i rolau allweddol i wella capasiti a gwydnwch lleoliadau tiwmor heriol.
Rhaid i'r bwrdd iechyd gymryd camau brys i wella perfformiad canser.
Gofal wedi'i gynllunio
Bu gwelliant o ran lleihau amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol cyntaf dros y deuddeg mis diwethaf. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae'r bwrdd iechyd wedi ehangu nifer y clinigau a ddarperir gyda'r nos ac ar y penwythnos ar draws sawl arbenigedd.
Ers mis Medi 2025, mae mwy na 45,000 o apwyntiadau ychwanegol wedi'u cynnig ar y penwythnos, gyda 36,578 yn fwy o bobl wedi'u gweld. Mae gwasanaeth cymorth pwrpasol sy'n helpu pobl i gadw'n iach a pharatoi ar gyfer triniaeth wrth iddynt aros wedi'i gyflwyno.
Adroddwyd am y gwelliannau canlynol mewn gofal wedi'i gynllunio ddiwedd mis Rhagfyr 2025:
- Mae nifer y llwybrau sy'n aros mwy na dwy flynedd am apwyntiad claf allanol cyntaf wedi gostwng 95% o'i gymharu â mis Rhagfyr 2024, ac mae nifer y bobl sy'n aros mwy na blwyddyn wedi gostwng 68% yn ystod yr un cyfnod.
- Mae ychydig dros 6,400 yn llai o lwybrau yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, sef gostyngiad o 64% o'i gymharu â mis Rhagfyr 2024, gyda'r gostyngiadau mwyaf yn cael eu gweld ym meysydd dermatoleg (gostyngiad o 99.6%) ac offthalmoleg (gostyngiad o 83.2%).
Er gwaethaf y gwelliannau hyn, mae pobl yn dal i aros yn rhy hir i gael eu gweld a'u trin. Rhaid i'r bwrdd iechyd barhau i leihau amseroedd aros.
Gofal sylfaenol, gofal canolraddol, ac iechyd y boblogaeth
Mae ehangu'r gwasanaeth fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol ac argaeledd contractau deintyddol newydd wedi gwella mynediad mewn ardaloedd lle mae'r angen mwyaf. Mae gwaith ar y llwybr eiddilwch a datblygiadau o ran gofal canolraddol yn dangos newid cadarnhaol tuag at symud mwy o ofal yn agosach at gartrefi pobl a lleddfu'r pwysau ar wasanaethau ysbyty acíwt.
Mae trefniadau contractio gofal sylfaenol wedi cryfhau'n sylweddol, gan ddarparu mecanweithiau cliriach ar gyfer sicrwydd, rheoli ansawdd, a sefydlogrwydd gwasanaethau.
Y Gogledd sydd wedi gweld y nifer mwyaf o gontractau deintyddol y GIG yn dod i ben o'i gymharu â byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Mae 17 o gontractau wedi dod i ben ers mis Ebrill 2022, (ers dechrau diwygio'r contract). Mae 5 practis arall wedi cadarnhau y byddant yn dod â'u contractau i ben erbyn diwedd mis Mawrth 2026.
Bydd gofal brys i gleifion yr effeithir arnynt yn cael ei ddarparu drwy wasanaeth GIG 111 Cymru, ac mae disgwyl i'r bwrdd iechyd ailgaffael y contractau hyn yn fuan. Arweiniodd dau ymarfer tendro yn 2024-25 at ddyfarnu contractau gwerth tua £6.5m dros sawl practis a lleoliad, gan gynnwys sefydlu practis deintyddol newydd yng Nghei Connah ddiwedd mis Chwefror 2026.
Mae datblygiadau o ran llwybrau eiddilwch a gofal canolraddol yn cynrychioli newid cadarnhaol tuag at leihau'r galw ar ysbytai a chryfhau gwydnwch cymunedol.
Iechyd y boblogaeth
Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i flaenoriaethu atal a lleihau anghydraddoldebau iechyd drwy ddull system gyfan gydag awdurdodau lleol a phartneriaid.
Cyhoeddodd cyfarwyddwr gweithredol iechyd y cyhoedd y bwrdd iechyd yr adroddiad blynyddol ym mis Rhagfyr 2025, gan nodi pedair uchelgais ar gyfer adeiladu Gogledd Cymru iachach a thecach:
- adeiladu sylfeini cryf
- adeiladu cymunedau tecach
- adeiladu lleoedd iach
- adeiladu iechyd ar draws y system
Mae gwasanaethau rheoli pwysau yn cael eu hailgynllunio i ffurfio model ehangach, dwysedd is er mwyn cynyddu cyrhaeddiad, gan adlewyrchu lefelau uchel o orbwysau a gordewdra yn y boblogaeth oedran gweithio, gyda chamau wedi'u targedu i wella mynediad ar gyfer grwpiau eithriedig.
Mae'r gwasanaeth bwydo ar y fron (Bronfwydo Môn) wedi dangos manteision diriaethol, gan gynnwys lleihau cyfraddau gadael ar gyfer mamau sy'n bwydo ar y fron drwy gymorth wedi'i deilwra. Mae prosiectau cymunedol, fel My Life yng Ngorllewin Conwy, yn darparu canllawiau ar iechyd a ffyrdd o fyw wedi'u llywio gan anghenion ac adborth y gymuned. Yn 2024, nododd y bwrdd iechyd gyfraddau babanod sy'n bwydo ar y fron yn unig pan fyddant yn 10 diwrnod oed o 37.8%, yn unol â chyfartaledd Cymru gyfan o 38.7%.
Mae perfformiad rhoi'r gorau i ysmygu yn parhau'n gryf, gyda 7% o boblogaeth y Gogledd yn cael eu cefnogi gan wasanaethau Helpa Fi i Stopio yn 2024-25, a 4.2% yn y flwyddyn ariannol bresennol hyd yn hyn (chwarteri 1 a 2 o 2025-26). Cefnogir hyn gan gynlluniau cymhelliant effeithiol a ffocws ar grwpiau risg uchel, gan gynnwys pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig a menywod beichiog.
O ran y nifer sy'n manteisio ar gyfleoedd brechu, mae'r darlun yn gymysg. Er bod y nifer sy'n manteisio ar y brechlyn RSV yn uwch na chyfartaledd Cymru a bod y gwaith o frechu yn ystod y gaeaf yn cael ei gydgysylltu ar draws gofal sylfaenol a fferylliaeth gymunedol, mae'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn HPV yn parhau i fod yn is na'r cyfartaledd cenedlaethol ac mae'r niferoedd ar gyfer y brechlyn MMR yn amrywio rhwng ardaloedd. Mae ymyriadau wedi'u targedu gyda meddygfeydd ac ysgolion ar y gweill i fynd i'r afael â bylchau. Mae'r sefyllfa o ran nifer y staff sy'n cael eu brechu yn parhau i fod yn heriol, gyda dulliau arloesol yn cael eu gweithredu i wella'r niferoedd.
Mae cynnydd pellach wedi'i wneud i fynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd, gan gynnwys datblygu fframwaith atal a llesiant rhanbarthol, gweithio tuag at fodel presgripsiynu cymdeithasol unedig, a sefydlu cynnig iechyd cynhwysol sy'n canolbwyntio ar grwpiau sy'n wynebu'r anghydraddoldebau mwyaf.
Cyllid, strategaeth a chynllunio
Mae llywodraethiant ariannol wedi gwella, gan adlewyrchu rheolaethau mewnol cryfach, a phrosesau archwilio gwell. Mae cyflawni barn archwilio 'wir a theg' ddiamod ar gyfer cyfrifon blynyddol y bwrdd iechyd am ddwy flynedd ariannol yn olynol yn arwydd o wyro oddi wrth wendidau hanesyddol.
Mae Asesiad Strwythuredig diweddaraf Archwilio Cymru, a gyhoeddwyd y llynedd, yn cydnabod y gwelliannau a wnaed o dan arweinyddiaeth y cadeirydd, gan gynnwys systemau sicrwydd corfforaethol cryfach, fframweithiau risg a pherfformiad cliriach a chraffu mwy cydlynol gan y bwrdd drwy strwythur ei bwyllgorau.
Roedd cyflwyno cynllun tair blynedd integredig ar gyfer 2025 i 2028 yn garreg filltir i'r bwrdd iechyd, gan adlewyrchu cam ymlaen ac aeddfedrwydd cynyddol yn ei brosesau cynllunio. Fodd bynnag, nid oedd y cynllun hwn yn un y gellid ei gefnogi a'i gymeradwyo. Y dasg gynllunio barhaus yw sicrhau bod llwybrau gweithredol yn cyd-fynd â modelau galw a chapasiti realistig a chyflwyno cerrig milltir misol wedi'u dilysu, o fewn yr adnoddau sydd ar gael. Mae'r bwrdd iechyd wedi dechrau gweithio ar ei gynllun gwasanaethau clinigol.
Cyrhaeddodd y sefydliad ei gyfanswm rheoli targed yn 2024 i 2025. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cefnogaeth ariannol reolaidd ac afreolaidd sylweddol iddo gyda disgwyliadau clir o ran sicrhau cydbwysedd ariannol ochr yn ochr ag ymrwymiadau cyflawni clir. Yn siomedig, nid yw'r bwrdd wedi gallu cyflawni'r cynllun hwnnw ac mae ei sefyllfa ariannol wedi dirywio i ddiffyg diwedd blwyddyn a ragwelir o £17.4 milliwn ar gyfer 2025 i 2026. Mae'n amlwg bod angen myfyrio os yw'r methiant i gyflawni'r cynllun yn ymwneud â heriau cynllunio neu heriau cyflawni.
Mae cyflawni cynllun arbedion y bwrdd iechyd yn parhau i fod yn heriol, yn enwedig mewn perthynas â sicrhau arbedion rheolaidd. Er bod arbedion afreolaidd wedi gwella gwydnwch yn ystod y flwyddyn, mae cynaliadwyedd tymor hir yn dibynnu ar newidiadau mwy trawsnewidiol i wasanaethau a'r gweithlu ar draws y bwrdd iechyd. Mae angen gwneud mwy o waith ar fyrder er mwyn i'r bwrdd sicrhau bod ganddo sylfaen gadarn ar gyfer datblygu a chyflawni ei gynlluniau o fewn yr adnoddau sydd ar gael.
Casgliad
Mae diwylliant mwy agored ar draws y sefydliad wedi bod yn nodwedd nodedig dros y tair blynedd diwethaf. Mae gweithredu'r ddyletswydd gonestrwydd, cyhoeddi'r diweddaraf o ran y mesurau arbennig, ac adroddiadau cliriach am ddigwyddiadau a chwynion i gyd wedi cyfrannu at ddiwylliant mwy tryloyw. Mae mwy o ymgysylltu â staff drwy ymweliadau gan arweinwyr a sianeli cyfathrebu gwell, tra bod angen parhau i ganolbwyntio ar aeddfedrwydd diwylliannol. Mae'r newidiadau hyn yn nodi newid tuag at sefydliad mwy atebol ac ymatebol.
Er bod gwella llwybrau perfformiad yn unol â'r disgwyliadau wedi bod yn anodd, mae gwaith sylfaenol wedi digwydd ar draws gofal wedi'i gynllunio, gwasanaethau diagnosteg, gwasanaethau mamolaeth, gofal brys ac argyfwng, a gofal sylfaenol a chymunedol. Mae hyn yn gosod y sylfaen ar gyfer gwelliannau tymor hwy. Yn bwysig, mae'r bwrdd wedi datblygu dealltwriaeth fwy aeddfed o risg, atebolrwydd a sicrwydd, gan ei alluogi i symud o ymateb i argyfyngau i wneud penderfyniadau strategol tymor hwy.
Mae'r sefydliad yn parhau i wynebu heriau perfformiad sylweddol, yn enwedig ym meysydd gofal wedi'i gynllunio, canser a gofal brys ac argyfwng. Mae'r sylfeini ar gyfer gwella yn gliriach ac yn fwy tryloyw, ac wedi'u hymgorffori'n fwy cyson ar draws y bwrdd iechyd. Rhaid i'r bwrdd iechyd nawr adeiladu ar y sylfeini hyn, a hynny ar frys. Rhaid iddo hefyd gyflawni gwelliannau cyflym a pharhaus, gan ddarparu mynediad diogel ac amserol at ofal wedi'i gynllunio, gofal argyfwng a gofal canser o ansawdd uchel i bobl ledled y Gogledd.
