Mesurau arbennig (lefel 5) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: adroddiad cynnydd Gorffennaf i Medi 2025.
Trosolwg o’r bwrdd iechyd a’r cynnydd a wnaed o dan fesurau arbennig (lefel 5) rhwng Gorffennaf a Medi 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair
Ar 27 Chwefror 2023, codwyd lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fesurau arbennig (lefel 5). Roedd hyn mewn ymateb i bryderon sylweddol am lywodraethu, arweinyddiaeth a pherfformiad.
Dyma'r wythfed adroddiad cynnydd i'w gyhoeddi ers uwchgyfeirio i fesurau arbennig. Mae'r adroddiadau hyn yn nodi'r cynnydd a wnaed gan y bwrdd iechyd a'r heriau sy'n parhau. Mae'r fframwaith mesurau arbennig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn nodi'r gwelliannau sydd eu hangen.
Mae'r sefydliad yn parhau i adeiladu ar y newidiadau a'r gwelliannau y mae wedi'u gwneud ers uwchgyfeirio i fesurau arbennig mewn perthynas â llywodraethu corfforaethol, y weithrediaeth, arweinyddiaeth glinigol a bwrdd, gwella ansawdd a diogelwch, gwell gafael a rheolaeth ariannol ac ymgysylltu o'r newydd â chleifion a rhanddeiliaid.
Fodd bynnag, nid yw'r gwelliannau disgwyliedig mewn cyflawni gweithredol yn cael eu gwireddu eto. Mae'r cynllun gwella mesurau arbennig yn gosod disgwyliad clir y byddai maint cyffredinol y rhestr aros a nifer yr arosiadau hir i gleifion am ofal a gynlluniwyd yn lleihau'n sylweddol – gan ddod â nhw yn ôl i'r lefelau cyn y pandemig. Disgwylir hefyd y bydd y bwrdd iechyd yn mynd i'r afael â'r nifer fawr o apwyntiadau cleifion allanol sydd i'w cynnal yn yr arbenigeddau mwyaf heriol ac yn cymryd camau i wella amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng. Mae hyn yn flaenoriaeth i'r bwrdd iechyd gan fod ganddo'r amseroedd aros hiraf o bell ffordd – a'r gyfran fwyaf o'r rhain – yng Nghymru.
Arloesi mewn gwasanaethau
Mae'r bwrdd iechyd yn arwain y ffordd mewn sawl maes ledled Cymru, gan gynnwys:
- Bydd cleifion arennol yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Alltwen yn elwa o beiriannau arbenigol newydd i helpu timau clinigol i fesur ac asesu lefelau hylif a chyfansoddiad corff cleifion yn fwy manwl gywir, gan eu gwneud yn fwy cyfforddus, a gwella diogelwch a chanlyniadau iechyd hirdymor.
- Y gwasanaeth rhyddhau twnnel y carpws dan arweiniad uwchsain yn Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r gwasanaeth cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae'n cynnig adferiad cyflymach, costau is, a chanlyniadau gwell i gleifion heb yr angen am theatr lawdriniaeth draddodiadol.
- Mae Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd wedi'i hailddynodi fel canolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil, triniaeth a gofal tiwmorau'r ymennydd gan y Tessa Jowell Brain Cancer Mission.
- Mae system radioleg newydd wedi gwella amserlennu ac adrodd clinigol yn sylweddol ar gyfer delweddau meddygol fel pelydr-x, sganiau CT, sganiau MRI, a sganiau uwchsain.
- Mae tri thîm o'r bwrdd iechyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau GIG Cymru, gan gynnwys tîm y Gymraeg am eu gwaith i hyrwyddo gwasanaethau dwyieithog ar wardiau ysbytai.
- Croesawodd diwrnod agored theatrau Ysbyty Gwynedd dros 70 o fynychwyr i gael profiad y tu ôl i'r llenni, gan arddangos gwaith timau llawfeddygol yr ysbyty a'r dechnoleg flaengar sy'n cefnogi gofal cleifion.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £9.49m mewn dau gyflymydd llinellol newydd yng Nghanolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd. Bydd y rhain yn darparu radiotherapi mwy manwl ac effeithlon, gan dargedu celloedd canser yn fanwl gywir a lleihau niwed i'r meinwe o'u hamgylch.
- Yn dilyn buddsoddiad o £4.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru, bydd peiriannau pelydr-x hŷn yn cael eu disodli gan systemau radioleg ddigidol newydd yn Ysbyty Bae Colwyn ac Ysbyty Glan Clwyd. Bydd Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd yn cael systemau fflworosgopi newydd ac offer mamograffeg newydd yn lle'r hen rai.
Arweinyddiaeth a llywodraethu
Bu rhai newidiadau diweddar i'r bwrdd. Mae Syr Paul Lambert wedi'i benodi'n aelod annibynnol i arwain ar gyllid a bydd hefyd yn cadeirio pwyllgor archwilio'r bwrdd iechyd. Mae Peter Lewis wedi derbyn rôl cadeirydd y grŵp cyfeirio rhanddeiliaid ac mae'n cynrychioli'r grŵp fel aelod cyswllt ar y bwrdd.
Mae'r gwaith o recriwtio i rolau cyfarwyddwyr gweithredol parhaol yn parhau. Cynhelir y cyfweliadau ar gyfer cyfarwyddwr gweithredol pobl a datblygu sefydliadol ym mis Hydref 2025. Ymunodd Dr Clara Day â'r bwrdd iechyd fel cyfarwyddwr meddygol gweithredol ddiwedd mis Medi 2025. Dim ond un penodiad cyfarwyddwr gweithredol dros dro sydd ar ôl.
Cynhaliwyd sesiwn datblygu bwrdd ym mis Awst 2025, dwy flynedd a hanner ar ôl sefydlu'r bwrdd newydd. Roedd hwn yn gyfle i fyfyrio ar y cynnydd a wnaed o ran llywodraethu, diwylliant, rheolaeth ariannol ac ansawdd. Canolbwyntiodd y bwrdd ar y dull un bwrdd iechyd a chytunodd mai'r bwriad strategol tymor hwy yw hyrwyddo ymyrraeth gynnar ac iechyd a llesiant yn y gymuned, ochr yn ochr â datblygu gwasanaethau yn gynaliadwy i wasanaethu anghenion cymunedau lleol.
Mae'r rhaglen newid sylweddol Sylfeini ar gyfer y Dyfodol, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, wedi'i chynllunio i alinio strwythurau, pobl, systemau, prosesau, diwylliant a strategaeth. Ei nod yw ymateb i'r heriau gweithredol, ac adeiladu sefydliad cydlynol, ystwyth a chynaliadwy.
Mae'r bwrdd yn canolbwyntio ar wrando ar gleifion, staff a dinasyddion. Mae'r adborth yn parhau i fod yn gyson – mae pwyslais ar effaith yr amseroedd aros hir ac amrywiaeth mewn mynediad ar draws y bwrdd iechyd; heriau wrth lywio a chyfathrebu â'r system; pwysigrwydd tosturi ac urddas; a'r angen i fynd i'r afael â'r heriau penodol sy'n wynebu menywod, pobl ifanc, pobl â dementia, a grwpiau eraill agored i niwed.
Mewn ymateb i'r adborth, mae'r bwrdd wedi cyflwyno:
- Modelau gofal newydd mewn ymateb i gwynion am arosiadau hir am lawdriniaethau a radiotherapi. Mae hyn yn cynnwys llawdriniaethau ar y llaw a’r nerfau mewn ystafelloedd mân-lawdriniaethau; rhyddhau twnnel y carpws dan arweiniad uwchsain a gwasanaeth newydd i roi mynediad at driniaethau mewnwythiennol. Mae mwy na 300 o driniaethau wedi'u darparu y tu allan i theatrau; mae cost rhyddhau twnnel y carpws wedi gostwng o tua £2,100 i £760 yr achos ac mae'r aros am wasanaeth i roi mynediad at driniaethau mewnwythiennol wedi gostwng o wythnosau i'r un diwrnod.
- Gwasanaeth negeseuon testun rhagweithiol “tra byddwch yn aros”, rhaglen sgwrsio rithwir, a chanolfan “hunan-ofal wrth i chi baratoi” newydd i gefnogi pobl tra byddant ar restr aros. Mae hyn wedi helpu i leihau'r apwyntiadau a gollwyd.
- Mae dwy nyrs profedigaeth arbenigol wedi'u penodi i sicrhau bod teuluoedd yn cael mynediad at gymorth tosturiol, strwythuredig ar yr adegau anoddaf. Mae hyn mewn ymateb i bryderon am ofal ac urddas diwedd oes.
Ansawdd gofal
Mae gwaith yn parhau i ymgorffori ansawdd yn holl weithgareddau'r bwrdd iechyd. Yn ganolog i hyn mae datblygu system rheoli ansawdd y bwrdd iechyd, a gafodd ei phrofi yn gynharach eleni. Mae'r system yn seiliedig ar bedwar piler allweddol, cynllunio ansawdd, gwella ansawdd, rheoli ansawdd a sicrhau ansawdd, sy'n cael eu hintegreiddio mewn fframweithiau a phrosesau craidd.
Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud gwelliannau i reoli llywodraethiant mewn perthynas â dysgu o adroddiadau digwyddiadau. Mae systemau cadarn bellach ar waith ar gyfer olrhain a goruchwylio dysgu o adroddiadau digwyddiadau, gan arwain at wella prosesau hawlio ac iawndal. Mae'r gwelliannau hyn yn cryfhau llywodraethu, tryloywder ac atebolrwydd ar draws y sefydliad.
Bu ffocws parhaus ar wella prosesau a systemau mewn ymateb i gwynion. Ategir hyn gan y polisi pryderon integredig ar gyfer digwyddiadau, cwynion ac adolygiadau marwolaethau, a gymeradwywyd gan y bwrdd ym mis Gorffennaf 2024 a'r hwb pryderon integredig a oedd yn weithredol o fis Medi 2024. Mae mwy na 79% o gwynion wedi'u cau o fewn 30 diwrnod, ac mae'r bwrdd iechyd wedi cyflawni'r gyfradd cau o 75% ar gyfer cwynion o fewn 30 diwrnod yn gyson ers mis Tachwedd 2024. Yr amser ar gyfartaledd ar gyfer darparu ymateb i gwynion yw 19 diwrnod gwaith, gwelliant o'i gymharu â 59 diwrnod gwaith ym mis Ebrill 2024. Mae'r cwynion sy'n weddill yn gymhleth ac yn aml yn cynnwys sawl agwedd neu asiantaeth sy'n cymryd mwy o amser i ymchwilio iddynt a'u datrys.
Mae'r bwrdd iechyd wedi cynnal adolygiad thematig sy'n canolbwyntio ar ‘ddigwyddiadau byth’, gan ddod â gweithwyr proffesiynol o bob disgyblaeth ynghyd i archwilio'r ffactorau sylfaenol a nodi gwelliannau ystyrlon. Mae hyn wedi cefnogi dadansoddiad cynhwysfawr o ymarferion ac wedi arwain at gamau gweithredu i wella diogelwch cleifion.
Lansiwyd arolwg profiad pobl GIG Cymru ym mis Ebrill 2025. Erbyn diwedd mis Medi 2025, roedd y bwrdd iechyd wedi cael 36,548 o ymatebion; o'r rhain, nododd 68% bod eu profiad cyffredinol yn “dda iawn” a dywedodd 86% eu bod bob amser yn cael eu trin ag urddas a pharch, a dywedodd 90% o'r ymatebwyr eu bod ‘bob amser’ yn gallu cyfathrebu yn eu dewis iaith.
Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) adroddiad yn dilyn arolygiad dirybudd o wasanaethau mamolaeth Ysbyty Gwynedd. Cyhoeddwyd adroddiad arall yn dilyn yr arolygiad dirybudd o adran achosion brys Ysbyty Gwynedd ym mis Gorffennaf 2025. Mae AGIC wedi cadarnhau bod y bwrdd iechyd wedi cymryd y camau priodol i fynd i'r afael â'r materion uniongyrchol a godwyd.
Gwasanaethau clinigol
Mae bregusrwydd, ansawdd a chysondeb o ran darparu gwasanaethau yn parhau i fod yn bryder gwirioneddol ar draws nifer o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau fasgwlaidd, wroleg, orthodonteg, offthalmoleg a dermatoleg. Mae cynnydd da wedi'i wneud mewn rhai gwasanaethau, gan gynnwys plastigau ac oncoleg.
Mae cynlluniau gwella ar waith ym mhob un o'r meysydd gwasanaeth bregus a nodwyd, a gefnogir gan gylch adolygu rheolaidd i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd mewn modd amserol ac effeithiol.
Mae pwyllgorau'r bwrdd wedi cynnal goruchwyliaeth a darparu cefnogaeth gan gynnwys:
- Fasgwlaidd: Cytunodd y bwrdd i gomisiynu'n ffurfiol bob llawdriniaeth dewisol ar gyfer trwsio anewrysm aortig yn yr abdomen agored o Ysbyty Athrofaol Gogledd Canolbarth Lloegr (UHNM) o fis Tachwedd 2024 ymlaen. Mae UHNM wedi cynnig contractau anrhydeddus i lawfeddygon fasgwlaidd sy'n dymuno cymryd rhan mewn llawdriniaethau o'r fath. Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu a thrawsnewid llwybrau gofal lleol. Ym mis Ebrill 2025, rhoddodd AaGIC wybod i'r bwrdd iechyd na fydd yn lleoli meddygon sylfaen blwyddyn un (FY1) yn yr adran llawfeddygaeth fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd o fis Awst 2025 ymlaen. Mae hyn yn dilyn pryderon am drefniadau gweithio, diwylliant a goruchwylio yn yr adran. Mae rhaglen wella fanwl yn cael ei rhoi ar waith i gryfhau ansawdd y cymorth a'r hyfforddiant. Mae holiadur boddhad wedi'i anfon at y fyfyrwyr FY1 sy'n gadael i ddeall eu profiadau yn yr adran fasgwlaidd a nodi unrhyw feysydd pellach i'w gwella.
- Iechyd meddwl: Mae achos busnes yn cael ei ddatblygu i ddisodli Uned Ablett, yn unol â'r gost ddiwygiedig a gytunwyd gyda Llywodraeth Cymru. Bydd yn cael ei gyflwyno ar ddechrau 2026. Atgyfnerthwyd y broses o arwain a rheoli gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gogledd dros y ddwy flynedd ddiwethaf drwy benodi cyfarwyddwr iechyd meddwl ac anableddau dysgu parhaol, cyfarwyddwr meddygol ar gyfer iechyd meddwl ac anableddau dysgu, cyfarwyddwr gweithredol sy'n gyfrifol am iechyd meddwl a nyrs ymgynghorol ar gyfer dementia.
- Offthalmoleg: Mae cynnydd yn cael ei wneud i wella amseroedd aros ar gyfer llawdriniaeth cataract, ond mae cyfanswm nifer y bobl sydd wedi aros yn hirach na'r disgwyl am eu hapwyntiad clinigol dilynol ar gyfer cyflyrau gofal llygaid yn parhau i gynyddu, yn yr un modd â'r risg o niwed yn y grŵp hwn. Mae'r bwrdd iechyd wedi dechrau rhaglen adolygu rhestrau dilynol i nodi'r bobl sydd â'r angen mwyaf ac wedi cyflwyno llwybrau glawcoma a retina meddygol newydd trwy ddarparwyr gofal sylfaenol. Mae gweld yn ôl symptomau (SOS) ac apwyntiad dilynol ar gais y claf (PIFU) hefyd yn cael eu cyflwyno. Mae'r gwaith llwybr gydag optometryddion cymunedol wedi gwella a gwaith mireinio atgyfeiriadau ar gyfer cataractau wedi'i roi ar waith yn llwyddiannus i alluogi ffrydio’n effeithiol i lwybrau niferoedd uchel, cymhlethdod isel.
- Wroleg: Mae contract bellach ar waith i gleifion o ogledd Cymru dderbyn cystectomïau yn Ysbyty Arrowe Park, gan ddod â gwasanaethau yn ôl yn agosach at adref, darparu mwy o sefydlogrwydd a gwell profiad i gleifion.
- Mae gwasanaethau oncoleg wedi cryfhau trwy recriwtio dau oncolegydd meddygol parhaol ychwanegol ac un oncolegydd clinigol cyfnod penodol, a recriwtio meddygon arbenigol yn rhyngwladol yn barhaus. Mae arloesi mewn gwasanaethau yn cynnwys trosglwyddo rhai triniaethau o gyflenwi mewnwythiennol i gyflenwi isgroenol sy'n rhyddhau capasiti ac yn gwella profiad cleifion. Ym mis Medi agorwyd Canolfan Maggie's newydd yn Ysbyty Glan Clwyd, y ganolfan gyntaf o'i math yng ngogledd Cymru.
- Mae gwasanaethau orthodontig yn parhau i fod o dan bwysau sylweddol oherwydd heriau recriwtio. Fel rhan o waith lliniaru, mae arallgyfeirio'r gweithlu ar y gweill gyda nyrsys deintyddol yn cael eu hyfforddi fel therapyddion orthodontig a mwy o opsiynau ar gyfer Deintyddion â Diddordebau Arbennig.
Perfformiad a chanlyniadau
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau i sefyll ar wahân i fyrddau iechyd eraill yng Nghymru o ran gofal a gynlluniwyd a gofal mewn argyfwng. Er y bu rhywfaint o gynnydd, mae angen mwy o ffocws a gweithredu i sicrhau bod pobl yn y Gogledd yn cael mynediad amserol at wasanaethau.
Mae'r bwrdd iechyd wedi cael £15.7 miliwn i gefnogi gwelliannau mewn gofal a gynlluniwyd yn 2025 i 2026. Mae hyn yn cynnwys cyllid i gefnogi gostyngiadau yng nghyfanswm amseroedd aros, amseroedd aros cleifion allanol, amseroedd aros ar gyfer cataractau ac amseroedd aros diagnostig. Bu rhai arwyddion o gynnydd o ran lleihau'r aros hiraf, a welodd ostyngiad o 44% rhwng Rhagfyr 2024 a Mawrth 2025, ond nid yw'r gyfradd gwelliant honno wedi'i chynnal. Ar ddiwedd mis Gorffennaf 2025, roedd 5,399 o lwybrau yn aros mwy na 104 wythnos ar draws 15 arbenigedd.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd â'r amseroedd aros hiraf yng Nghymru, a rhaid iddo wella ei berfformiad ym maes gofal a gynlluniwyd a hynny ar frys.
Er mwyn cyflymu gwelliannau, mae'r bwrdd iechyd yn defnyddio ei adnoddau ychwanegol ym maes amseroedd aros i gomisiynu capasiti allanol mewn cleifion allanol, cataractau, dermatoleg, wroleg, niwroddatblygiad a diagnosteg. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnal parhad gofal tra bo modelau cynaliadwy yn cael eu datblygu. Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi defnyddio rhaglen newid sylweddol i wneud gwelliannau cynaliadwy, systematig ar draws y sefydliad, gan gymhwyso'r egwyddorion dylunio sefydliadol i symleiddio, ystwytho a safoni arferion gorau. Mae dull newydd ar gyfer asesu cyn llawdriniaeth wedi cyrraedd y cam peilot a bydd yn cael ei ymestyn ar draws y sefydliad cyn bo hir. Bydd hyn yn symleiddio prosesau, yn gwella profiad cleifion ac yn hwyluso gwell effeithlonrwydd a chynhyrchiant mewn theatrau.
Mae'r bwrdd iechyd wedi adrodd perfformiad canser cryf yn hanesyddol, ond dros y 18 mis diwethaf nid yw hyn wedi'i gynnal - mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos perfformiad o 55% yn erbyn y targed o 62 diwrnod ar gyfer y llwybr lle'r amheuir canser. Mae'n cymryd ystod o gamau i wella perfformiad ym maes canser, gan gynnwys capasiti ychwanegol ar gyfer endosgopi, contract mewnoli ar gyfer dermatoleg, mentrau rhestrau aros a recriwtio i rolau allweddol i wella gallu a gwydnwch safleoedd tiwmor heriol. Rhaid i'r bwrdd iechyd gymryd camau brys i wella perfformiad canser.
Mae perfformiad mewn adrannau achosion brys mewn safleoedd ysbytai yn y Gogledd yn dal yn her sylweddol. Rydym wedi bod yn glir ynghylch ein disgwyliadau ar gyfer gwella.
Gostyngodd perfformiad y bwrdd iechyd yn erbyn targed amser aros o bedair awr yn yr adran achosion brys i 57.6% ym mis Awst 2025 roedd hyn 7.7 pwynt canran yn waeth na'r perfformiad ym mis Awst 2024 ac arhosodd 3,985 o bobl fwy na 12 awr yn yr adran achosion brys 835 (27%) yn fwy nag ym mis Awst 2024.
Ym mis Awst 2025, nododd Ysbyty Glan Clwyd y perfformiad amser aros pedair awr gwaethaf o unrhyw adran achosion brys yng Nghymru, gyda dim ond 34.2% o bobl yn cael eu derbyn neu eu rhyddhau o fewn pedair awr. Adroddodd hefyd ei nifer uchaf ond ail a gofnodwyd o amseroedd aros 12 awr mewn adran achosion brys y mis hwnnw.
Roedd cyfarfod y bwrdd ym mis Medi yn cynnwys archwiliad dwfn o ofal brys a gofal argyfwng gan ddod i'r casgliad bod y sefyllfa bresennol mewn argyfwng. Tynnodd sylw at yr angen i ddod o hyd i atebion ar unwaith i roi terfyn ar oedi hir wrth drosglwyddo cleifion ambiwlans, gofal mewn coridor, adrannau achosion brys gorlawn ac oedi wrth ryddhau cleifion.
Mae “cynllun tymor byr” i haneru nifer y bobl yn ei ysbytai sy'n dioddef rhyddhau gohiriedig ac sy'n aros i gael caniatâd i adael a dychwelyd adref yn cael ei ddatblygu. Yn y tymor hwy, y nod yw creu un model gweithredu ar gyfer adrannau achosion brys ar draws y rhanbarth, gan ddisodli'r model tri safle presennol gyda phob un yn gwneud pethau'n wahanol.
Mae'r lolfa ryddhau yn Ysbyty Glan Clwyd wedi cael ei gwella ac mae bellach yn gweithio fel canolfan ryddhau lle gall pobl aros am hyd at 24 awr, gan helpu i reoli llif cleifion drwy'r ysbyty a lleihau unrhyw oedi diangen i'r rhai sy'n barod i fynd adref. Mae uned ddydd feddygol yr ysbyty wedi'i symud i ward mwy, gan helpu i leihau derbyniadau i'r ysbyty a lleddfu'r pwysau ar yr adran achosion brys.
Ym mhob un o'r pedair blynedd ddiwethaf, mae £3m mewn cyllid chwe nod wedi'i ddarparu i'r bwrdd iechyd i wella gofal brys a gofal argyfwng. Mae hyn wedi cael ei ddefnyddio i gyflawni gwelliannau mewn gofal brys a gofal argyfwng, gan gynnwys:
- gwasanaethau gofal argyfwng yr un diwrnod sy'n gweld mwy na 1,500 o gleifion y mis gyda mwy na 80% yn cael eu rhyddhau heb orfod aros yn yr ysbyty
- cyflwyno canolfan uwchgyfeirio systemau i wella'r ffocws ar ryddhau o'r ysbyty yn gynnar
Bydd yn cael swm pellach o £2.7 miliwn eleni i gyflawni ei chynllun gwella lleol sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol gan gynnwys:
- gwasanaethau effeithiol ar gyfer ymateb i gwympiadau yn y gymuned
- un pwynt mynediad cadarn i bob claf gofal brys a gofal argyfwng i gefnogi mwy o bobl yn y gymuned
- camau gweithredu a ddisgrifir yn y fframwaith optimeiddio llif cleifion mewn ysbytai i sicrhau bod pobl yn cael eu rhyddhau i fynd adref pan fyddant yn barod yn glinigol, gyda'r cymorth cywir a heb oedi
Mae perfformiad yn erbyn y mesurau iechyd meddwl oedolion yn dal yn gymharol sefydlog. Ym mis Mawrth 2025, cwblhawyd 72.7% o asesiadau o fewn 28 diwrnod a dechreuodd 84.1% o ymyriadau o fewn 28 diwrnod o'r asesiad, yn erbyn y targed o 80%.
Mae perfformiad yn erbyn y mesurau iechyd meddwl ar gyfer pobl o dan 18 oed hefyd wedi gwella, ac ym mis Mawrth 2025 cwblhawyd 96% o'r asesiadau o fewn 28 diwrnod. Mae canran yr ymyriadau a ddechreuwyd o fewn 28 diwrnod i'r asesiad wedi cynyddu i 43.4% ym mis Mawrth 2025, mae hyn yn is na'r targed o 80% a rhaid iddo wella.
Bu cynnydd yn nifer y bobl sy'n agored i wasanaethau anableddau dysgu oedolion sydd ag archwiliad iechyd blynyddol dilys. Mae'r rhain wedi cynyddu o 281 ym mis Ionawr 2025 i 324 ym mis Gorffennaf 2025. Mae'r bwrdd iechyd yn parhau i weithio tuag at wella'r sefyllfa hon.
Mae'r model argyfwng gwell ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) yn adrodd canlyniadau gwell i blant a phobl ifanc, gyda gostyngiad o 30% mewn derbyniadau pediatrig i'r ysbyty a gostyngiad o 70% mewn cyflwyniadau adran 136 gyda gwell cyswllt y tu allan i oriau yn 2024-25 o'i gymharu â'r ddwy flynedd flaenorol a gostyngiad o 31% mewn derbyniadau heb eu trefnu i wardiau pediatrig mewn ysbytai acíwt.
Mae niwroamrywiaeth yn parhau i achosi heriau gwasanaeth sylweddol, gyda galw uchel yn uwch na'r capasiti. Er hynny, mae'r bwrdd iechyd wedi dileu amseroedd aros o fwy na phedair blynedd i blant ac wedi cael cyllid pellach o £2,8 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru i ddileu amseroedd aros tair blynedd ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol plant erbyn mis Mawrth 2026.
Mae'r bwrdd iechyd yn rheoli 12 practis cyffredinol ac mae ganddo nifer mawr o bractisau lle ceir un meddyg teulu. Un o'r blaenoriaethau ar gyfer eleni yw datblygu'r cynnig gofal sylfaenol ar yr un diwrnod i ddarparu mynediad mwy teg at ofal sylfaenol fel dewis arall i bobl sy'n ceisio gofal mewn adrannau achosion brys. Rhaid i'r bwrdd iechyd fwrw ymlaen hefyd â'r dull strategol o fodel cymysg o ofal sylfaenol; rhoi fframwaith sicrwydd y contract GMS newydd ar waith a gwella gwelededd data perfformiad gofal sylfaenol gan y bwrdd.
Cyllid, strategaeth a chynllunio
Adroddodd y bwrdd iechyd ddiffyg o £13.6 miliwn yn y flwyddyn hyd yn hyn ar ddiwedd Awst 2025, sy'n cynnwys £2.8 miliwn mewn arbedion heb eu cyflawni a £1.8 miliwn ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.
Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud gwelliannau i'w strategaeth integredig a'i ddull cynllunio, gan gynnwys dechrau ei strategaeth 10 mlynedd a'i gynllun gwasanaethau clinigol a chreu fframwaith cynllunio gwasanaethau clinigol.
Ym mis Mai 2025, cymeradwyodd y bwrdd y broses a'r amserlen ar gyfer adolygiad ffurfiol o'r gwasanaeth ac arfarniad opsiynau i ddatblygu modelau gwasanaeth cynaliadwy hirdymor yn dilyn cau ysbytai cymunedol Llannerch Banna a Thywyn dros dro. Mae wedi mynd ati i ymgysylltu â chleifion, staff, cynrychiolwyr cymunedol, a rhanddeiliaid lleol i lywio penderfyniadau am fodelau gwasanaeth yn y dyfodol ar gyfer y safleoedd hyn. Mae adborth wedi tynnu sylw at bwysigrwydd mynediad lleol, darpariaeth gymunedol, a chyfathrebu clir am newid.
Yn ei gyfarfod ym mis Medi, cymeradwyodd y bwrdd gam un o'r cynllun ar gyfer trawsnewid Ysbyty Brenhinol Alexandra i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Cyflwynwyd cais cynllunio newydd i Gyngor Sir Ddinbych ar 26 Medi a rhagwelir y rhoddir caniatâd cynllunio llawn ar gyfer Tachwedd 2025. Os rhoddir yr holl gymeradwyaethau, byddai'r gwaith adeiladu yn dechrau yn chwarter cyntaf 2026-27. Bwriedir i raglen o waith ailwampio a gwella i brif adeilad presennol Ysbyty Brenhinol Alexandra rhestredig Gradd II fynd rhagddi ar wahân i'r cynigion adeiladu newydd hyn fel rhan o ail gam y cynllun.
Casgliad
Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu'r gwelliannau sylweddol sydd wedi'u gwneud ar draws y bwrdd iechyd gan gynnwys arweinyddiaeth, llywodraethiant, ansawdd clinigol, a rheolaeth ariannol ers iddo gael ei uwchgyfeirio i fesurau arbennig. Bydd Sylfeini ar gyfer y Dyfodol yn sicrhau bod y bwrdd iechyd yn mynd ati i roi model gweithredu newydd ar waith a fydd yn gwella perfformiad ac yn adeiladu'r sylfeini angenrheidiol ar gyfer gwelliant cynaliadwy, system gyfan.
Fodd bynnag, mae angen gwneud gwelliannau sylweddol ar frys i sicrhau bod gan bobl y Gogledd fynediad amserol at ofal a gynlluniwyd a gwasanaethau gofal mewn argyfwng.
