Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw [dydd Gwener] bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cyhoeddi y bydd mesurau diogelu lefel rhybudd sero yn cael eu cryfhau er mwyn diogelu pobl a helpu i ostwng lefelau uchel o achosion o’r coronafeirws yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyfraddau coronafeirws Cymru yw’r uchaf yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.

Bydd y Prif Weinidog yn dweud bod Cymru’n wynebu sefyllfa ddifrifol, ac oni bai bod y cyfraddau'n dechrau gostwng dros y tair wythnos nesaf, y bydd yn rhaid i Weinidogion ystyried ailgyflwyno rhai cyfyngiadau yn yr adolygiad nesaf o’r rheoliadau er mwyn dod â lledaeniad y feirws o dan reolaeth.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

"Dros y tair wythnos diwethaf, mae nifer yr achosion o’r coronafeirws wedi codi'n sydyn i’r cyfraddau uchaf i ni eu gweld ers i'r pandemig ddechrau, ac mae mwy o bobl yn mynd mor ddifrifol wael nes bod angen triniaeth ysbyty arnyn nhw.  

"Mae hynny’n golygu bod y pandemig ymhell o fod ar ben. Mae angen i ni gymryd camau nawr i gryfhau'r mesurau sydd yn eu lle ar lefel rhybudd sero er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu hyd yn oed ymhellach, a gweld mwy o bobl yn mynd yn ddifrifol wael.

“Gobeithio y bydd y camau hyn yn helpu i atal y llanw o ran yr amrywiolyn delta. Does dim un ohonom ni am weld y cyfyngiadau yn dychwelyd, ond os bydd y cyfraddau yn parhau i godi, ni fydd gan fy Nghabinet ddewis ond ystyried codi'r lefel rhybudd yn yr adolygiad nesaf.

"Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd fel tîm i atal lledaeniad y coronafeirws, a diogelu Cymru a’i chadw ar agor."

Wrth gyhoeddi canlyniad yr adolygiad tair wythnos diwethaf o’r cyfyngiadau coronafeirws, bydd y Prif Weinidog yn cadarnhau y bydd Cymru yn aros ar lefel rhybudd sero, ond y bydd rhai mesurau ychwanegol yn cael eu cymryd i ddiogelu iechyd pobl.

Mae'r canllawiau ynghylch hunanynysu yn newid. Bydd gofyn i oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn a phlant a phobl ifanc rhwng 5 a 17 oed hunanynysu nes eu bod wedi cael prawf PCR negatif os bydd rhywun ar eu haelwyd yn arddangos symptomau neu’n cael prawf positif ar gyfer Covid-19.

Bydd rhaid i bobl sydd heb gael eu brechu barhau i hunanynysu am 10 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif, gan gynnwys cysylltiadau agos y tu allan i'w haelwydydd.

Bydd cymorth pellach yn cael ei roi i benaethiaid er mwyn iddynt fedru gosod mesurau yn eu hysgolion yn gyflym os bydd cyfraddau yr achosion yn uchel yn lleol.

Bydd staff a myfyrwyr ysgolion uwchradd hefyd yn cael eu hannog i gymryd profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos i helpu i gadw’r coronafeirws allan o’r ysgolion.

A thra bod nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau'n uchel iawn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymestyn y defnydd o’r Pàs COVID i theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd o 15 Tachwedd. Mae'r rhain yn lleoliadau lle mae nifer fawr o bobl yn ymgynnull o dan do, yn agos at ei gilydd, am gyfnodau hir ar y tro.

Brechlynnau yw'r amddiffyniad gorau yn erbyn y feirws o hyd – mae bron i 400,000 o bobl wedi cael eu pigiad atgyfnerthu ar gyfer yr hydref ers i’r rhaglen gael ei lansio, ac mae dros 40% o bobl ifanc 12 i 15 oed wedi cael eu brechu.

Cynhaliwyd trafodaethau gyda'r JCVI ar y bwlch gorau rhwng ail ddos y brechlyn a'r pigiad atgyfnerthu.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i annog pawb i weithio gartref lle bynnag y bo modd ac yn atgoffa pawb o'r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do.

Ddoe fe wnaeth Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, gwrdd â manwerthwyr i'w hannog i wneud popeth o fewn eu gallu i godi ymwybyddiaeth o’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb mewn siopau.