Neidio i'r prif gynnwy

Data canlyniadau dysgwyr fesul lefel astudio, math yr amcan dysgu, ardal pwnc/sector a nodweddion y dysgwr ar gyfer Awst 2018 i Orffennaf 2019.

Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer dysgu seiliedig ar waith (DSW)

  • Roedd cyfradd llwyddo fframwaith prentisiaeth ar gyfer dysgu seiliedig ar waith yn 80.9%, gostyngiad o 0.6 o bwynt canran ers 2017/18.
  • Symudodd 75% o ddysgwyr a adawodd rhaglenni Hyfforddeiaeth yn 2018/19 ymlaen i gyflogaeth (gan gynnwys hunangyflogaeth neu waith gwirfoddol) neu ddysgu ar lefel uwch).

Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer dysgu oedolion

  • Roedd cyfradd llwyddo gyffredinol gweithgareddau dysgu oedolion yn 90%(r), i lawr 0.8 o bwynt canran ers 2017/18.
  • Yn 2018/19 roedd cyfraddau cwblhau a llwyddiant gweithgareddau yn 96% a 90%(r) yn y drefn honno.

(r) Diwygiedig ar 03 Ebrill 2020

Adroddiadau deilliannau dysgwyr

Mae adroddiadau deilliannau dysgwyr yn grynodebau o'r cyfraddau llwyddiant dysgwyr a gyflawnwyd gan bob darparwr yng Nghymru. Mae'r adroddiadau yn dangos gwybodaeth yn ôl lliw ynghylch cyfraddau llwyddiant (sef canran yr holl gymwysterau a gyflawnwyd gan ddysgwyr) a chynnydd dysgwyr i gyflogaeth neu ddysgu pellach (ar gyfer darparwyr dysgu seiliedig ar waith).

Rydym yn cyhoeddi’r adroddiadau hyn yn flynyddol i roi gwybod i ddysgwyr, cyflogwyr, rhieni a'r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch deilliannau darpariaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Nodyn adolygu

Roedd 115 o weithgareddau dysgu i oedolion a gwblhawyd, a ddarparwyd yn uniongyrchol gan Wrecsam, wedi’u hepgor o fersiwn gyntaf y cyhoeddiad hwn a oedd ar gael rhwng 27 Chwefror 2020 a 3 Ebrill 2020. Mae’r ffigurau, y siartiau a thablau StatsCymru wedi cael eu cywiro ers hynny a’u marcio â (r). Roedd y diwygiad yn effeithio ar gyfradd lwyddo gyfan y dysgu ymhlith oedolion. Bellach mae wedi’i thalgrynnu i fyny i 90% yn hytrach nag i lawr i 89%. Fodd bynnag, y gyfradd lwyddo wedi’i thalgrynnu i 1 lle degol yw 89.5% o hyd.

Mewn fersiynau cynharach o'r adroddiad hwn, disgrifiwyd y mesurau amddifadedd yn anghywir fel rhai a oedd yn seiliedig ar brif fynegai Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mae'r mesurau amddifadedd mewn gwirionedd yn dod o barth incwm MALlC.

Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod os hoffech gael ffigurau sy’n seiliedig ar brif fynegai MALlC.

Nodyn

Roedd fersiynau blaenorol o’r datganiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am ddeilliannau dysgwyr Addysg Bellach. Ni fydd hyn yn parhau, gan fod yr ystadegau wedi’u disodli gan y mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16.

Adroddiadau

Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion, Awst 2018 i Orffennaf 2019 (diwygiedig) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 881 KB

PDF
Saesneg yn unig
881 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Adroddiadau ar ddeilliannau dysgwyr ar gyfer dysgu seiliedig ar waith, Awst 2018 i Gorffennaf 2019 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 251 KB

XLSX
251 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adroddiadau canlyniadau dysgwyr ar gyfer partneriaethau dysgu oedolion, Awst 2018 i Gorffennaf 2019 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 220 KB

XLSX
220 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.