Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Data ar gleifion allanol offthalmoleg newydd a dilynol. Mae’n dangos y nifer sy’n aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed ar ddiwedd pob mis. Dyddiad targed yw'r amser aros mwyaf a bennir yn glinigol yn dilyn atgyfeiriad am apwyntiad. Mae cleifion mewn perygl o gael niwed na ellir ei ddad-wneud neu ganlyniad andwyol sylweddol os na chânt eu gweld o fewn eu dyddiad targed. Gelwir hyn yn Ffactor Risg Iechyd R1 (R1).

Prif bwyntiau

Ar ddiwedd Gorffennaf 2026

  • 158,300 o lwybrau cleifion, a oedd wedi eu hasesu’n R1, sy’n aros am apwyntiad claf allanol; roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 158,229 o’r rheini.
  • Roedd 49.7% o lwybrau cleifion, a aseswyd yn R1, yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’w dyddiad targed.

Yn ystod Gorffennaf 2026

  • Cafodd 24,384 o apwyntiadau eu mynychu gan gleifion a oedd wedi eu hasesu’n R1
  • Roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 22,209 o'r rheini.
  • Roedd 60.7% o apwyntiadau a fynychwyd, a aseswyd fel R1, wedi aros am gyfnod o fewn y dyddiad targed neu am gyfnod o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed.

Manylion cyswllt

Ystadegau Perfformiad GIG Cymru
E-bost: hss.performance@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099