Neidio i'r prif gynnwy

Data misol ar gleifion allanol offthalmoleg a oedd yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i'w dyddiad targed ar ddiwedd mis Hydref 2020.

Pe bai eu dyddiad targed yn cael ei fethu, byddai risg iddynt gael niwed na ellir ei ddad-wneud neu ganlyniad andwyol sylweddol (Ffactor Risg Iechyd R1).

Prif bwyntiau

Ar ddiwedd Hydref 2020

  • Roedd 116,739 o lwybrau cleifion, lle’r oedd y claf wedi’i asesu’n Ffactor Risg Iechyd R1, yn aros am apwyntiad claf allanol (heb gynnwys y rhai nad oes ganddynt ddyddiad targed wedi'i ddyrannu).
  • Roedd 44.3% o lwybrau cleifion, a aseswyd yn R1, yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’w dyddiad targed.

Yn ystod mis Hydref 2020

  • Mynychwyd 13,684 o apwyntiadau lle’r oedd y claf wedi cael ei asesu fel Ffactor Risg R1 (heb gynnwys y rhai nad oedd ganddynt ddyddiad targed wedi'i ddyrannu).
  • Roedd 61.5% o apwyntiadau a fynychwyd, a aseswyd fel R1, wedi aros am gyfnod o fewn y dyddiad targed neu am gyfnod o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.