Neidio i'r prif gynnwy

Data misol ar gleifion allanol offthalmoleg a oedd yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i'w dyddiad targed ar ddiwedd mis Hydref 2022.

Mae’n dangos y nifer sy’n aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed ar ddiwedd pob mis. Pe bai eu dyddiad targed yn cael ei fethu, byddai risg iddynt gael niwed na ellir ei ddad-wneud neu ganlyniad andwyol sylweddol (Ffactor Risg Iechyd R1).

Ar ddiwedd Hydref 2022

  • 134,604 o lwybrau cleifion, a oedd wedi eu hasesu’n Ffactor Risg Iechyd R1, sy’n aros am apwyntiad claf allanol. O’r rheini, roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 134,375 ohonynt.
  • Roedd 47.9% o lwybrau cleifion, a aseswyd yn R1, yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’w dyddiad targed.

Yn ystod mis Hydref 2022

  • Cafodd 20,875 o apwyntiadau eu mynychu gan gleifion a oedd wedi eu hasesu’n Ffactor Risg Iechyd R1. O’r rheini, roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 17,785 ohonynt.
  • Roedd 63.7% o apwyntiadau a fynychwyd, a aseswyd fel R1, wedi aros am gyfnod o fewn y dyddiad targed neu am gyfnod o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Helen Roberts

Rhif ffôn: hss.performance@llyw.cymru

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.