Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rhyddhau data misol ar gleifion allanol offthalmoleg newydd a dilynol. Mae’n dangos y nifer sy’n aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed ar ddiwedd pob mis. Pe bai eu dyddiad targed yn cael ei fethu, byddai risg iddynt gael niwed na ellir ei ddad-wneud neu ganlyniad andwyol sylweddol (Ffactor Risg Iechyd R1).

Ar ddiwedd Hydref 2025

160,950 o lwybrau cleifion, a oedd wedi eu hasesu’n Ffactor Risg Iechyd R1, sy’n aros am apwyntiad claf allanol; o’r rheini, roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 160,891 ohonynt.

Roedd 51.3% o lwybrau cleifion, a aseswyd yn R1, yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’w dyddiad targed.

Yn ystod mis Hydref 2025

Cafodd 26,406 o apwyntiadau eu mynychu gan gleifion a oedd wedi eu hasesu’n Ffactor Risg Iechyd R1; o’r rheini, roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 23,929 ohonynt.

Roedd 58.1% o apwyntiadau a fynychwyd, a aseswyd fel R1, wedi aros am gyfnod o fewn y dyddiad targed neu am gyfnod o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed.

Manylion cyswllt

Ystadegau Perfformiad GIG Cymru
E-bost: hss.performance@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099