Neidio i'r prif gynnwy

Data misol ar gleifion allanol offthalmoleg a oedd yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i'w dyddiad targed ar ddiwedd mis Ionawr 2021.

Pe bai eu dyddiad targed yn cael ei fethu, byddai risg iddynt gael niwed na ellir ei ddad-wneud neu ganlyniad andwyol sylweddol (Ffactor Risg Iechyd R1).

Ar ddiwedd Ionawr 2021

  • 117,930 o lwybrau cleifion, a oedd wedi eu hasesu’n Ffactor Risg Iechyd R1, sy’n aros am apwyntiad claf allanol. O’r rheini, roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 117,755 ohonynt.
  • Roedd 42.7% o lwybrau cleifion, a aseswyd yn R1, yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’w dyddiad targed.

Yn ystod mis Ionawr 2021

  • Cafodd 14,160 o apwyntiadau eu mynychu gan gleifion a oedd wedi eu hasesu’n Ffactor Risg Iechyd R1. O’r rheini, roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 12,196 ohonynt.
  • Roedd 59.6% o apwyntiadau a fynychwyd, a aseswyd fel R1, wedi aros am gyfnod o fewn y dyddiad targed neu am gyfnod o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.