Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Data am gleifion allanol offthalmoleg newydd a chleifion sy'n cael apwyntiadau dilynol. 

Maent yn dangos nifer y llwybrau cleifion a oedd, ar ddiwedd pob mis, yn aros o fewn eu dyddiad targed neu hyd at 25% y tu hwnt i'w dyddiad targed.

Dyddiad targed yw'r amser aros hwyaf, a bennir yn glinigol, ar ôl atgyfeirio claf am apwyntiad. Mae cleifion mewn perygl o ddioddef niwed na ellir ei wrthdroi neu ganlyniad andwyol sylweddol os na chânt eu gweld erbyn eu dyddiad targed. Gelwir hyn yn Ffactor Risg Iechyd R1 (R1).

Prif bwyntiau

Ar ddiwedd mis Medi 2026

  • Roedd 157,885 o lwybrau cleifion, lle'r oedd y claf wedi'i asesu yn Ffactor Risg Iechyd R1, yn aros am apwyntiad claf allanol. Roedd dyddiad targed wedi'i bennu ar gyfer 157,816 ohonynt.
  • Roedd 50.0% o'r llwybrau cleifion, lle'r oedd y claf wedi'i asesu yn R1, yn aros o fewn eu dyddiad targed neu hyd at 25% y tu hwnt i'w dyddiad targed.

Yn ystod mis Medi 2026

  • Mynychwyd 25,325 o apwyntiadau lle'r oedd y claf wedi'i asesu yn Ffactor Risg Iechyd R1. Roedd dyddiad targed wedi'i bennu ar gyfer 23,134 ohonynt.
  • O'r apwyntiadau a fynychwyd lle'r oedd y claf wedi'i asesu yn R1, roedd 58.3% wedi aros o fewn eu dyddiad targed neu hyd at 25% y tu hwnt i'w dyddiad targed.

Manylion cyswllt

Perfformiad GIG Cymru 
E-bost: hss.performance@gov.wales 

Y cyfryngau: 0300 025 8099