Neidio i'r prif gynnwy

Data misol ar gleifion allanol offthalmoleg a oedd yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i'w dyddiad targed ar ddiwedd mis Tachwedd 2022.

Mae’n dangos y nifer sy’n aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed ar ddiwedd pob mis. Pe bai eu dyddiad targed yn cael ei fethu, byddai risg iddynt gael niwed na ellir ei ddad-wneud neu ganlyniad andwyol sylweddol (Ffactor Risg Iechyd R1).

Ar ddiwedd Tachwedd 2022

  • 135,308 o lwybrau cleifion, a oedd wedi eu hasesu’n Ffactor Risg Iechyd R1, sy’n aros am apwyntiad claf allanol; o’r rheini, roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 135,103 ohonynt.
  • Roedd 49.2% o lwybrau cleifion, a aseswyd yn R1, yn aros o fewn eu dyddiad targed neu o fewn 25% y tu hwnt i’w dyddiad targed.

Yn ystod mis Tachwedd 2022

  • Cafodd 23,102 o apwyntiadau eu mynychu gan gleifion a oedd wedi eu hasesu’n Ffactor Risg Iechyd R1; o’r rheini, roedd dyddiad targed wedi ei bennu ar gyfer 19,661 ohonynt.
  • Roedd 63.4% o apwyntiadau a fynychwyd, a aseswyd fel R1, wedi aros am gyfnod o fewn y dyddiad targed neu am gyfnod o fewn 25% y tu hwnt i’r dyddiad targed.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Helen Roberts

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.