Daeth yr ymgynghoriad i ben 5 Gorffennaf 2012.
Manylion am y canlyniad
Adroddiad cymryd rhan: crynodeb gweithredol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 43 KB
Adroddiad cymryd rhan: adroddiad llawn , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1011 KB
Adroddiad cymryd rhan: atodiadau , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynglŷn â'i hymagwedd at ddatrys problemau'n gysylltiedig â thrafnidiaeth sy'n effeithio ar ardal Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn Ne Ddwyrain Cymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae pobl sy’n defnyddio Coridor yr M4 a’r rhwydwaith priffyrdd yn y cylch yn ymwybodol o’r tagfeydd a’r peryglon posibl sy’n deillio o’r nifer fawr o gerbydau sy’n defnyddio’r M4. Ar adegau prysur mae mwy o draffig yn defnyddio’r ffordd nag y dyluniwyd y ffordd i ymdopi ag ef. Mae teithwyr hefyd yn sylwi ar y tarfu sy’n cael ei achosi gan ddigwyddiadau a phethau annisgwyl. Gall gymryd gryn amser ar ôl digwyddiad cyn y bydd y traffig yn gallu llifo fel arfer eto; mae hyn yn dweud wrthym fod angen gwella cadernid yr M4 a’r rhwydwaith priffyrdd yn y cylch.
Dechreuodd y trafod dros flwyddyn yn ôl gyda phobl sy’n defnyddio ac yn rheoli’r rhwydwaith trafnidiaeth a/neu sy’n defnyddio gwasanaethau yng Nghoridor yr M4 rhwng Magwyr a Chas-bach ac mae eisoes wedi dylanwadu ar yr hyn a gyflwynir fel rhan o’r Ymgynghoriad hwn. Os ydych chi wedi bod yn rhan o’r gwaith i’n helpu ni i lunio Raglen Mesurau Gwella Coridor yr M4 diolch i chi!
Mae trafnidiaeth a mynediad i wasanaethau cartrefi gwaith a hamdden yn faterion sy’n effeithio ar bawb ohonom a gobeithiwn y bydd unrhyw un sy’n byw yn gweithio ac yn teithio drwy ardal Casnewydd yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.
