Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwaith pwysig i leihau effaith sŵn o’r A55 ar gyfer trigolion Abergele i ddechrau ar 15 Ionawr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r ardal, i’r gorllewin o Sea Bridge Road, wedi ei nodi fel ardal o flaenoriaeth yng nghynllun Atal Sŵn Llywodraeth Cymru.  

Er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar y cyhoedd sy’n teithio, gan sicrhau diogelwch ar yr un pryd, bydd system rheoli traffig ar ffurf ffordd ddeuol gul yn cael ei threfnu yn ogystal â therfyn amser dros dro o 40 mya.  Mae hyn yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i beidio â gwneud unrhyw waith cynnal a chadw yn ystod y dydd sy’n golygu cau ffyrdd yr A55 rhwng Cyffordd 11 a’r ffin â Lloegr tan o leiaf  Medi 2018.  

Bydd gwaith yn cael ei wneud 7 niwrnod yr wythnos i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosib cyn cyfnod y Pasg.    

Meddai Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:

“Cyhoeddais y llynedd bod y gwaith pwysig hwn i fynd ymlaen, a bellach mae popeth yn barod er mwyn iddo ddechrau.  

“Mae’n cael ei gynnal yn ystod y gaeaf, sef y cyfnod tawelaf ar yr A55, er mwyn tarfu cyn lleied â phosib.  Mae system ffordd ddeuol gul yn dangos ein bod wedi ymrwymo i beidio â gwneud unrhyw waith cynnal a chadw yn ystod y dydd sy’n golygu cau ffyrdd ar yr A55 ar y rhan benodol hon, tan o leiaf Medi eleni.  

“Mae lefelau sŵn yn fater difrifol, ac rwy’n falch bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â hyn yn ardal Abergele.” 

Mae bwriad i gadw y system ffordd ddeuol gul tan Mawrth 12 rhwng Cyffordd 24 a 23 i’r gorllewin.  Mae’r manylion llawn, gan gynnwys manylion y gwaith dros dro ar wefan Traffig Cymru (dolen allanol).