Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y mesurau fel y Profion Cyn Symud, fydd yn cael eu cyflwyno ar 1 Chwefror yn hanfodol i'n helpu i daclo TB gwartheg yng Nghymru, meddai'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae hyn yn dilyn yr ymgynghoriad ar adfywio'r rhaglen dileu TB yng Nghymru a'r cynllun cyflawni a gyhoeddwyd wedi hynny ym mis Mawrth 2023.

O 1 Chwefror 2024, bydd Profion Cyn Symud yn cael eu hailgyflwyno ar gyfer gwartheg yn yr Ardal TB Isel (LTBA) yng Nghymru. Mae'r newid hwn yn ymateb i gynnydd yn y TB yn rhannau o'r LTBA. Gwartheg heb eu profi sy'n cael eu symud yn gyfreithiol yn yr ardal sy'n gyfrifol am ran o'r cynnydd hwn.

Bydd canlyniadau Profion Cyn Symud clir yn ddilys am 60 diwrnod ar ôl chwistrellu’r prawf croen.

Hefyd, bydd angen Prawf Ar ôl Symud ar yr holl wartheg sy’n cael eu symud o Ardal TB Uchel yng Nghymru, Ardal Risg Uchel yn Lloegr ac o Ogledd Iwerddon i fuchesi yn yr Ardaloedd TB Canolradd (ITBA) yng Nghymru.

Rhaid cynnal y prawf ddim cynharach na 60 diwrnod a dim hwyrach na 120 diwrnod ar ôl i’r anifail gyrraedd y daliad.

Mae ceidwaid gwartheg yn LTBA ac ITBAs Cymru wedi cael llythyr i roi gwybod iddyn nhw am y newidiadau hyn.

Hefyd, yn ddiweddarach ym mis Chwefror, byddwn yn cyhoeddi ar dudalennau gwe ibTB faint o amser y mae buches wedi bod heb TB. Bydd yr wybodaeth yn bwysig i helpu ffermwyr sy'n prynu gwartheg i asesu'r risg o TB.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: 

"Mae ein ffermwyr yn hanfodol i Gymru, ac rydym yn deall yn hollol yr effaith y mae TB gwartheg yn ei chael ar eu hiechyd, eu lles a'u bywoliaeth.

"Rydym yn gweld bod ein gwaith i daclo'r clefyd yn gwella'r sefyllfa'n gyffredinol ledled Cymru, gydag achosion mewn buchesi newydd yn gostwng. Mae'n bwysig cydnabod hyn, a'r camau pwysig y mae ffermwyr a milfeddygon yn eu cymryd i gadw eu gwartheg yn rhydd o TB.

"Ond mae'n amlwg hefyd bod y sefyllfa TB yn amrywio o ranbarth i ranbarth ar draws y wlad. Cafodd y syniad i ailgyflwyno profion cyn symud ei groesawu hefyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Rydym felly am gyflwyno'r camau hyn ar 1 Chwefror, ac yn targedu rhai ardaloedd. 

"Bydd y wybodaeth ar dudalennau gwe ibTB yn ddefnyddiol i ffermwyr sy'n prynu gwartheg.

"Mae'r cydweithio clos rhwng ffermwyr a milfeddygon a chyda'r Llywodraeth, yn hollbwysig i ddiogelu buchesi a chadw TB allan, yn ogystal â mynd i'r afael â'r clefyd pan fydd yn taro. Bydd y cyfan yn ein helpu i wireddu'r nod o Gymru ddi-TB erbyn 2041."

Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Richard Irvine: 

"Mae'r ymgynghoriad ar raglen newydd i ddileu TB yng Nghymru wedi'n helpu i baratoi cynllun cyflawni ac i gyflwyno'r mesurau hyn, a hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd.

"Mae TB yn gallu cael effaith enfawr ar ffermydd, teuluoedd a bywoliaethau. Felly, mae'n bwysig bod ffermwyr yn parhau i weithio'n agos gyda'u milfeddygon i gynnal mesurau bioddiogelwch cryf a gwneud popeth yn eu gallu i amddiffyn eu buchesi.

"Bydd y camau sy'n dod i rym ar 1 Chwefror yn bwysig i barhau â'r gwaith i ddileu TB gwartheg yng Nghymru."

Cewch fwy o wybodaeth yn TB gwartheg | Is-bwnc a Mapio TB Gwartheg yng Nghymru a Lloegr.