Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy’n ymwneud â chyflawniad dysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion ar gyfer Awst 2016 i Gorffennaf 2017.

Mae’r adroddiad hwn yn darparu’r set gyntaf o ystadegau arbrofol, tra byddwn yn cwblhau’r mesurau ac yn mynd i’r afael ag unrhyw faterion o ran methodoleg ac ansawdd data sydd heb eu datrys.

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar fesurau cyflawniad dysgwyr (hynny yw, y rhaglenni dysgu a gwblhawyd a’r cymwysterau a gafwyd), a cheir hefyd ddiweddariad ar werth ychwanegol. Mae rhifyn ar wahân yn rhoi gwybodaeth am gyrchfannau disgyblion.

Addysg Gyffredinol (rhaglenni sy’n canolbwyntio ar lefel Uwch Gyfrannol/Safon Uwch a chymwysterau cyfatebol)

  • Fe wnaeth 83% o ddysgwyr a gofrestrodd yn 2015/16 gwblhau’r flwyddyn. Fe wnaeth tua thri chwarter o’r rhain barhau i ail flwyddyn y rhaglen.
  • O’r rhai wnaeth gofrestru yn 2015/16, fe wnaeth 60% gwblhau’r rhaglen ddwy flynedd (yn 2016/17) ac fe wnaeth 52% gael yr hyn oedd yn gyfatebol i 3 Safon Uwch ar radd A* to E.

Rhaglenni galwedigaethol (rhaglenni sy’n canolbwyntio ar astudiaethau galwedigaethol)

  • Y gyfradd wnaeth lwyddo mewn gweithgareddau dysgu ar gyfer y dysgwyr hynny a ddilynodd raglenni galwedigaethol mewn colegau yn 2016/17 oedd 82%.

Adroddiadau

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16: cyflawniad a gwerth ychwanegol, blwyddyn academaidd 2016 i 2017 (ystadegau arbrofol) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 911 KB

PDF
Saesneg yn unig
911 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.