Neidio i'r prif gynnwy

Chyrchfannau dysgwyr ar gyfer sefydliadau addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion ay gyfer Awst 2017 i Orffennaf 2019.

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar gyrchfannau dysgwyr ôl-16 (hynny yw, yr hyn y mae dysgwyr yn ei wneud ar ôl iddynt gwblhau eu rhaglen ddysgu), gan gynnwys y dysgwyr hynny sy'n ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith.

Image
Mae'r siart bar hwn yn dangos cyrchfannau dysgwyr ôl-16 am y blynyddoedd academaidd 2014/15 i 2018/19. Mae'n dangos bod gan 83% o'r holl ddysgwyr a oedd yn gadael addysg ôl-16 yn 2018/19 gyrchfan barhaol yn 2019/20, gyda 85% yn 2017/18, 84% yn 2016/17 , 82% yn 2015/16 , a 82% yn 2014/15.

Prif bwyntiau

O’r 117,635 o ddysgwyr a gwblhaodd raglen ddysgu yn 2018/19:

  • roedd gan 83% gyrchfan barhaus yn 2019/20 i naill ai cyflogaeth neu ddysgu, sydd 1 pwynt canran yn is na dysgwyr 2017/18
  • roedd 59% mewn cyflogaeth barhaus, a 46% yn dysgu’n barhaus

O'r 115,800  o ddysgwyr a gwblhaodd raglen ddysgu yn 2017/18:

  • roedd gan 85% gyrchfan barhaus yn 2018/19 i naill ai cyflogaeth neu ddysgu, sydd yn uwch na’r tair blynedd flaenorol
  • roedd 61% mewn cyflogaeth barhaus, ac roedd 48% yn dysgu’n barhaus

Gwybodaeth bellach

Mae'n rhan o gyfres o dri mesur perfformiad cyson a ddatblygwyd ar gyfer addysg ôl-16. Mae adroddiad ar wahân yn rhoi gwybodaeth am gyflawniad dysgwyr, ond mae’r cyhoeddiad hwnnw wedi'i ohirio dros dro oherwydd materion sy'n gysylltiedig â threfniadau arholi ac asesu yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).  Data arbrofol yw’r rhain ac fe fyddwn yn ymgynghori ymhellach gyda darparwyr dysgu ynghylch y fethodoleg.

Adroddiadau

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 cyrchfannau dysgwyr, Awst 2017 i Orffennaf 2019 (ystadegau arbrofol) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 701 KB

PDF
Saesneg yn unig
701 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 cyrchfannau dysgwyr, Awst 2017 i Orffennaf 2019 (ystadegau arbrofol) , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 33 KB

ODS
Saesneg yn unig
33 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.