Neidio i'r prif gynnwy

Yn dilyn ymgynghoriad eang, mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi mesurau rheoli newydd ar gyfer pysgota cregyn bylchog ym Mae Ceredigion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad wedi i Brifysgol Bangor gynnal ar y cyd â’r diwydiant pysgota raglen dwy flynedd i wneud gwaith ymchwil pellgyrhaeddol yn seiliedig ar Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Aberteifi. 

Dyma’r astudiaeth gyntaf o’i bath a daeth i’r casgliad ei bod yn bosibl pysgota rhywfaint yno heb i hynny gael unrhyw effaith andwyol ar yr Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae’r ymchwil hwn yn cynnig cyfle unigryw i weithredu dull ecosystem o reoli’r bysgodfa

Hefyd, cynhaliwyd dau adolygiad gwyddonol annibynnol gan gymheiriaid i adolygu’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan Brifysgol Bangor, a daethant i’r casgliad ei bod yn gadarn ac o werth gwyddonol uchel. 

Yn seiliedig ar y gwaith ymchwil hwnnw ac wedi iddi ystyried pob un o’r 5,500 o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi penderfynu bwrw ymlaen â chynllun trwyddedu hyblyg newydd ym Mae Aberteifi.

Mae hyn yn cynnwys rheoli’r bysgodfa yn ofalus gan sicrhau bod amodau priodol ar waith er mwyn gwneud y mwyaf o’r bysgodfa ac i ddiogelu nodweddion y safle ar bob adeg. Bydd bwrdd cynghori’r rheolwyr, a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr y byd gwyddonol, y diwydiant a maes yrr amgylchedd, yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar amodau’r trwyddedau, a chynhelir ymgynghoriad blynyddol i geisio barn ar yr amodau a fydd yn cael eu gosod. Bydd hynny’n sicrhau bod y rhanddeiliaid yn parhau i fod yn rhan o ddatblygiadau’r bysgodfa.  

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet:

“Mae’n amlwg bod llawer o bobl yn poeni’n arw am ein hamgylchedd morol a’r rhywogaethau sy’n byw yno. Wrth wneud y penderfyniad hwn, rydw i wedi ystyried hynny. Hefyd, rydw i wedi ystyried yn ofalus y dystiolaeth a gafwyd ym mhob un o’r 5,500 o ymatebion, ynghyd â thystiolaeth wyddonol bellach, i helpu sicrhau cydbwysedd ym Mae Aberteifi.  

“Yn seiliedig ar hyn ac ar y ffaith nad oedd unrhyw dystiolaeth newydd wedi dod i law sy’n awgrymu y byddai’r bysgodfa hon yn cael effaith ar nodweddion gwarchodedig yn y Bae, rydw i wedi penderfynu na ddylwn rwystro gweithgarwch economaidd. O’r herwydd, byddaf yn bwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth newydd i gyflwyno cynllun trwyddedu newydd hyblyg ym Mae Aberteifi. 

“Hoffwn sicrhau pawb y bydd hon yn bysgodfa a fydd yn cael ei rheoli’n ofalus ac mewn ffordd  ragweithiol, ac y bydd nifer y cychod pysgota yn cael ei fonitro. Rydw i’n sicr y bydd y ffordd hyblyg arfaethedig newydd hon o weithredu yn un gymesur ac y bydd yn ein galluogi ni i ystyried meysydd a dulliau rheoli priodol ar gyfer dyfodol y bysgodfa hon.  

“Bydd y drefn rheoli newydd hon yn rhoi Cymru ar flaen y gad o safbwynt ymdrechion rhyngwladol i gynnal ei hadnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy drwy fynd ati i weithredu ar y cyd ac mewn modd arloesol.”

Gellir gweld copi o’r adolygiad gan gymheiriaid o waith ymchwil Prifysgol Bangor yma