Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu'r mesurau a fydd ar waith ar gyfer cyfnod trosglwyddo'r Tafod Glas.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gan fod y risg o drosglwyddo'r Tafod Glas wedi cynyddu oherwydd, ymhlith pethau eraill, dymheredd sy'n gyson â'i gyfnod trosglwyddo, mae rhai mesurau yn cael eu cyflwyno o 20 Mehefin mewn perthynas â'r Parth dan Gyfyngiadau presennol yn Lloegr. Fodd bynnag:  

  • Nid oes gwaharddiad ar symud da byw o Loegr ac nid oes ffin galed. (Gellir symud pob da byw ar yr amod bod ganddynt drwydded, bod y gwartheg wedi'u brechu rhagddo a bod profion cyn symud wedi'u cynnal fel y bo'n briodol)
  • Nid oes cyfyngiadau ar symud da byw yng Nghymru oherwydd y Tafod Glas.
  • Nid oes cyfyngiadau ar symud da byw oherwydd y Tafod Glas o Gymru i'r Parth dan Gyfyngiadau yn Lloegr. 

O 20 Mehefin, bydd angen trwydded symud, a roddwyd gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, ar bob anifail sydd angen symud o'r Parth dan Gyfyngiadau presennol yn Lloegr i fyw yng Nghymru, sy'n cadarnhau bod gan yr anifeiliaid: 

  • brawf cyn symud dilys
  • wedi’u brechu gyda brechlyn Boehringer Bultavo-3 (ar gyfer gwartheg yn unig)
  • heb unrhyw arwyddion clinigol o salwch 

Bydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i wartheg sydd wedi'u brechu'n llawn gyda brechlyn Bultavo-3 Boehringer Ingelheim, symud o dan drwydded, o Barth dan Gyfyngiadau i Gymru heb brawf cyn symud.

Mae hyn yn berthnasol o 20 Mehefin ac mae'n seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf gan wneuthurwyr brechlynnau ynghylch atal firemia drwy'r cynnyrch brechlyn sydd ar gael. 

Rhaid i bob dafad gael ei brofi cyn symud a thrwydded i symud i Gymru i fyw o'r Parth dan Gyfyngiadau yn Lloegr, gan nad oes unrhyw gynnyrch brechlyn yn bodloni'r gofynion ar gyfer diogelu defaid rhag BTV-3 ar hyn o bryd er mwyn caniatáu iddynt symud allan o'r Parth.     

Bydd trefniadau hefyd yn cael eu rhoi ar waith i ganiatáu i dda byw symud i ac o sioeau a gwerthiannau yn yr Parth dan Gyfyngiadau o 20 Mehefin, yn amodol ar fodloni’r amodau trwyddedu a nodir ar-lein yn Firws y Tafod Glas (BTV) | LLYW. CYM. Bydd y polisïau hyn yn parhau i fod yn berthnasol ar ôl 1 Gorffennaf pan fydd y Parth dan Gyfyngiadau yn dod i rym ledled Lloegr. 

Gall symudiadau uniongyrchol i'w lladd barhau o 20 Mehefin ac nid oes angen prawf cyn-symud ar gyfer symud y da byw hyn. Bydd gofyniad ychwanegol o 1 Gorffennaf ymlaen, pan fydd yn rhaid i ladd-dai derbyn yng Nghymru gael eu dynodi a bodloni amodau trwyddedu priodol i drin anifeiliaid sy'n agored i'r Tafod Glas.   

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: 

Fy nod ar hyn o bryd yw cadw’r Tafod Glas allan o Gymru er budd ein hanifeiliaid a’r rhai sy’n eu cadw.

Y pryderon economaidd a lles ffermwyr a achosir gan ddelio â’r Tafod Glas difrifol sydd yn gyntaf ac yn bennaf yn fy meddwl.

Rwyf hefyd eisiau caniatáu mwy o amser i arsylwi difrifoldeb y clefyd yn Lloegr, ac i geidwaid frechu eu buchesi a’u diadelloedd. 

Rwyf wedi egluro’r syniad y tu ôl i’m penderfyniad yn y Senedd yr wythnos hon, ond rwyf am ei gadw dan adolygiad. Os bydd y dystiolaeth yn newid, a bod angen i ni newid y polisi, byddwn yn ailedrych ar hyn ac yn ei adolygu mewn ffordd ddeinamig.

Ein blaenoriaeth gyffredin dros yr wythnosau nesaf yw hyrwyddo'r brechlyn. Roedd yr holl gynrychiolwyr yn y cyfarfod bord gron a gynhaliwyd yn ddiweddar yn unfrydol o blaid brechu fel y dull gorau i ddiogelu da byw ac i leihau effeithiau'r Tafod Glas.

Ni allaf yn fy holl gydwybod wahodd y Tafod Glas i Gymru, ond rydym yn barod i addasu i’r sefyllfa esblygol o ran y clefyd.