Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfyngiadau llymach ar fewnforio coed derw wedi cael eu cyflwyno heddiw i amddiffyn coed brodorol rhag y pla coed Gwyfyn Ymdeithiwr y Derw (OPM).

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y mesurau gwell yn caniatáu mewnforio rhai mathau o goed derw yn unig, gan gynnwys: 

  • coed o wledydd sy'n rhydd rhag OPM 
  • coed o ardaloedd rhydd rhag plâu dynodedig, gan gynnwys Ardaloedd Gwarchod – ardal o'r Undeb Ewropeaidd yr ardystiwyd ei bod yn rhydd rhag OPM
  • coed sydd wedi cael eu tyfu o dan warchodaeth ffisegol lwyr am gydol eu hoes

Mae rheolwyr coetir, tirfeddianwyr, y diwydiant coedwigaeth a meithrinfeydd coed yn cael eu hannog i fod ar eu gwyliadwriaeth ac archwilio unrhyw goed derw mawr sydd wedi cael eu plannu'n ddiweddar am OPM, ar ôl i ddau achos o OPM gael eu cadarnhau yng Nghymru ar goed a oedd wedi cael eu mewnforio o Ewrop yn ddiweddar. 

Os credir bod achos o OPM wedi cael ei ddarganfod, ni ddylai'r cyhoedd geisio dinistrio neu symud y deunydd sydd wedi cael heintio, gan fod y nythod a'r lindys yn gallu peri rhai risgiau i iechyd pobl.

Mae rhagor o wybodaeth am sut i adnabod OPM ar wefan Forest Research.  I adrodd am achosion o blâu a chlefydau, defnyddiwch Borth Ar-lein TreeAlert.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: 

"Coed derw yw'r coed mwyaf pwysig ym Mhrydain Fawr ar gyfer bioamrywiaeth rhywogaethau – maent yn cynnal dros 2,000 rhywogaeth o adar, mamaliaid, ffyngau, infertebratau, bryoffytau a chennau.  Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod y goeden eiconig hon a'r manteision rydyn ni'n eu cael o'r ased naturiol hwn.

"Yn dilyn yr achosion diweddar o OPM yng Nghymru, mae'n hanfodol ein bod yn cryfhau ein rheolaethau ar gyfer mewnforio coed derw ymhellach. Bydd y cyfyngiadau newydd hyn yn ein helpu i leihau effaith Gwyfyn Ymdeithiwr y Derw a gwarchod ein coed derw mewn modd cadarn."