Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy na 3000 o swyddi newydd wedi'u creu yng Nghymru'r llynedd diolch i fuddsoddiadau gan gwmnïau o dramor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ystadegau diweddaraf Sioe Adran Fasnach Ryngwladol y DU yn dangos bod cwmnïau o dramor wedi creu 3107 o swyddi newydd yng Nghymru yn ystod blwyddyn ariannol 2017-18. Mae hynny’n  gynnydd o fwy na 20% o gymharu â ffigurau'r flwyddyn flaenorol.

Ar ben hynny, roedd nifer y swyddi tramor a ddiogelwyd yn 1515 sy'n golygu bod cyfanswm o 4622 o swyddi yn cael eu cynnal dramor. 

Roedd y swyddi newydd yn deillio o 57 o brosiectau buddsoddi uniongyrchol o dramor sy'n cael eu cynnal yng Nghymru, gyda 53 o'r rhain yn cael cymorth gan Lywodraeth Cymru. O'r 57 o brosiectau hyn, roedd 30 ohonynt yn deillio o gwmnïau o Ewrop, 15 yn deillio o gwmnïau yng Ngogledd America, naw o Asia a'r Môr Tawel a thri o'r Dwyrain Canol. 

Yn ogystal â hynny, denodd Cymru 80 o brosiectau o rannau eraill o'r DU ac elwodd ar 14 o brosiectau aml-safle a oedd yn rhan o fuddsoddiadau ehangach y DU. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

"Mae'r ffigurau diweddaraf hyn, a'r cynnydd o 20% yn nifer y swyddi sy'n cael eu creu yng Nghymru gan gwmnïau o dramor, yn dangos bod Cymru yn parhau i ddenu mewnfuddsoddiadau. Mae'r llwyddiant hwn yn rhoi hwb go iawn i'n heconomi ac yn golygu bod miloedd o swyddi yn cael eu creu neu eu diogelu mewn cymunedau ledled Cymru. 

"Mae mewnfuddsoddiadau ynghyd â thwf busnesau cynhenid yn parhau i fod yr elfennau allweddol sy'n sbarduno ein heconomi ac mae ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn nodi sut y byddwn yn parhau i sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl i ysgogi mwy o fuddsoddiadau a swyddi yma yng Nghymru. 

"Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym yn falch o groesawu’r cwmni CAF o Sbaen i Gymru. Y cwmni hwn fydd yn gyfrifol am adeiladu ein cyfleuster cyntaf ar gyfer gweithgynhyrchu trenau modern, gan greu 300 o swyddi newydd yn hynny o beth. Yn y cyfamser, yn sgil cymorth gan Lywodraeth Cymru, mae cwmnïau megis Hotpack Packaging o Dubai, KK Fine Foods a'r cwmni gwyddorau bywyd Ipsen yn creu cannoedd o swyddi yng Ngogledd Cymru. 

"Mae llwyddiannau fel hyn yn gallu cael effaith fawr ar ein heconomi a byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau mwy ohonynt".

Mae'r ystadegau hefyd yn dangos bod nifer y swyddi sy'n cael cymorth gan y Llywodraeth wedi gostwng yn sylweddol o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Esboniodd Ysgrifennydd yr Economi fod y ffigur ar gyfer 2016-17 yn anarferol o uchel am ei fod yn cynnwys bron 7000 o'r swyddi a ddiogelwyd yn Tata diolch i becyn cymorth gan y Llywodraeth.