Neidio i'r prif gynnwys

1. Mewngofnodi gan ddefnyddio eich GOV.UK One Login

Bydd angen i chi fewngofnodi neu greu cyfrif gyda GOV.UK One Login.

Os ydych yn creu cyfrif o’r newydd, gwnewch yn siŵr eich bod: 

  • yn defnyddio cyfeiriad e-bost rydych chi'n ei ddefnyddio’n aml
  • â rhif ffôn symudol neu ap dilysu

Cael trafferth gyda GOV.UK One Login

Os byddwch yn cael trafferthion gyda GOV.UK One Login:

2. Ychwanegu eich manylion personol

Pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf, byddwn yn gofyn am eich: 

  • enw llawn 
  • rhif ffôn
  • dewis iaith (Cymraeg, Saesneg, neu'r ddwy)

Os ydych yn cynrychioli cwmni neu sefydliad

Rhaid i chi roi eich enw llawn a'ch manylion eich hun.

Peidiwch ag ychwanegu gwybodaeth pobl eraill, fel:

  • eich Prif Weithredwr
  • aelod reolwyr
  • uwch staff