Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae byrddau cyfathrebu â symbolau wedi’u gosod mewn meysydd chwarae ledled Cymru i helpu plant sy’n wynebu rhwystrau o ran eu sgiliau lleferydd ac iaith i gyfathrebu’n hwylus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r byrddau cyfathrebu yn arddangos symbolau ar gyfer geiriau cyffredin, yn y Gymraeg a Saesneg, fel ‘hapus’, ‘eisiau’ a ‘gorffen’.

Gall plant ag amhariadau lleferydd bwyntio at y byrddau, sydd wedi’u dylunio gan therapyddion iaith a lleferydd arbenigol, i fynegi eu dymuniadau a’u hanghenion wrth eraill.

Mae’r byrddau dwyieithog hefyd yn helpu teuluoedd nad ydynt yn siarad Cymraeg i ddysgu geiriau Cymraeg sylfaenol.

Yn dilyn cynnal cynllun peilot llwyddiannus yn y Gorllewin, gwnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi cyllid gwerth £78,000 ar gyfer cyflwyno’r byrddau ledled Cymru i greu mannau chwarae cynhwysol i bob plentyn.

Siaradodd Nicole Jacob o Gaerfyrddin am sut y mae’r byrddau wedi helpu sgiliau cyfathrebu ei mab, Rhys. Dywedodd:  

Mae Rhys yn defnyddio dulliau cyfathrebu estynedig ac amgen ac mae gweld byrddau cyfathrebu yn ein parciau lleol yn gwneud inni fel teulu deimlo fel ein bod yn cael ein gweld a’n cefnogi. Mae Rhys yn cael trafferth cyfathrebu ar lafar mewn mannau prysur ac mae cario dyfeisiau cyfathrebu yn anodd felly mae’r byrddau hyn yn cynnig ffordd arall iddo fynegi ei hun.

Dw i wedi gweld sut y mae’r byrddau yn helpu plant i feithrin perthnasoedd. Mae ffrindiau Rhys wedi dysgu i’w defnyddio gydag e yn gyflym ac maen nhw’n cael hwyl yn rhyngweithio yn ôl ac ymlaen â’i gilydd.

Wrth dyfu fyny, mae’n bwysig bod pobl ifanc yn ymwybodol o bob math o ddulliau cyfathrebu ac yn eu gwerthfawrogi, ac mae’r byrddau wir yn normaleiddio dulliau cyfathrebu amgen yn ein cymunedau.

Mae ymchwil yn dangos y gall sgiliau lleferydd gwan effeithio’n negyddol ar ganlyniadau plant, gan gynnwys o ran eu hymddygiad, eu hiechyd meddwl yn ogystal â’u gwneud ddwywaith yn fwy tebygol o wynebu diweithdra pan fyddant yn oedolion.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

Ry’n ni eisiau i bob plentyn yng Nghymru ffynnu, ac ry’n ni’n gwybod bod cyfathrebu yn hanfodol i ddyfodol plant. Dylai plant gael eu clywed a’u helpu i ddod o hyd i’w llais, yn Gymraeg a Saesneg, dim ots beth yw eu gallu i gyfathrebu.

Rwy’n falch y bydd ein buddsoddiad yn y byrddau arloesol hyn yn helpu i bontio’r bylchau rhwng dulliau cyfathrebu ac maen nhw’n gam tuag at greu meysydd chwarae cyfeillgar a chynhwysol.

Mae’r adborth cadarnhaol gan deuluoedd yn dangos sut y mae newidiadau bach mewn mannau cyhoeddus yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau plant a’u datblygiad.

Dywedodd yr Arweinydd Clinigol ar gyfer Cyfathrebu Estynedig ac Amgen ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Libby Jeffries:

Fe wnaethon ni gyflwyno’r byrddau hyn am y tro cyntaf yn Hywel Dda yn 2021 ac rydyn ni’n falch iawn eu bod yn cael eu cyflwyno ledled Cymru.

Nod y prosiect hwn oedd helpu teuluoedd gyda chyfathrebu a chwarae yn y mannau cyhoeddus hyn.

Mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae teuluoedd yn defnyddio’r byrddau fel dull gweledol ar gyfer mynegi eu hunain. Maen nhw hefyd yn helpu teuluoedd i ddysgu a defnyddio geiriau Cymraeg a Saesneg ac yn helpu eraill i ddysgu am wahanol ddulliau cyfathrebu.