Sut i ddefnyddio cyfieithu ar y pryd yn Microsoft Teams.
Cynnwys
Mwy am gyfieithu ar y pryd
Mae cyfieithu ar y pryd yn caniatáu i gyfieithwyr dynol gyfieithu'r hyn y mae'r siaradwr yn ei ddweud i iaith arall heb amharu ar y siaradwr.
Bydd hyn yn caniatáu cyfarfodydd mwy cynhwysol, lle gall cyfranogwyr sydd ddim o reidrwydd yn siarad yr un iaith gydweithio. Yn ein hachos ni yn Llywodraeth Cymru, mae hyn yn golygu y gallwn ddefnyddio mwy o Gymraeg yn ein cyfarfodydd.
Sut i ddefnyddio cyfieithu ar y pryd
Mae'r fideo yn esbonio sut i:
- drefnu eich cyfieithydd dynol
- drefnu cyfieithu ar y pryd dynol ar Teams
- ddynodi cyfieithydd dynol yn ystod cyfarfod, os oes angen
- ddewis iaith wrth ymuno â chyfarfod
Canllawiau a thempledi ar gyfer mynychwyr
Help ychwanegol
Edrychwch yn adran cwestiynau cyffredin Microsoft Support. Neu, cysylltwch â ni Cymraeg2050@llyw.cymru.