Neidio i'r prif gynnwy

Mae ysgolion cynradd Cymru yn cael eu hannog i gymryd rhan yng nghynllun Milltir y Dydd, sef ffordd hawdd a hwyliog o wella iechyd a llesiant plant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o'r fenter, bydd plant mewn ysgolion cynradd yn rhedeg, cerdded neu loncian am 15 munud bob dydd. Mae'n gynhwysol ac yn syml. Nid oes rhaid talu i gymryd rhan, ac nid oes angen offer na gwaith paratoi. 

Mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, a'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at benaethiaid ysgolion i'w hannog i ystyried ffyrdd syml ac arloesol o wella iechyd a llesiant plant yn ystod y diwrnod ysgol. 

Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:

"Rydyn ni eisiau sicrhau bod gan blant ym mhob rhan o Gymru iechyd a llesiant corfforol, emosiynol a chymdeithasol da. Dyna pam rydyn ni'n annog ysgolion i gymryd rhan mewn cynlluniau arloesol, fel Milltir y Dydd, i helpu plant i wneud mwy o ymarfer corff. 

"Mae'r fenter yn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru, fel Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru." 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:

"Mae creu cyfleoedd sy'n caniatáu i bobl ifanc gael hwyl wrth symud o gwmpas yn hynod bwysig er mwyn sicrhau eu bod yn  cael 60 munud y dydd o ymarfer corff, fel sy'n cael ei argymell.  

"Bydd cymryd rhan yng nghynllun Milltir y Dydd yn helpu ysgolion cynradd i weithredu'r cwricwlwm newydd, sy'n rhoi pwyslais ar sicrhau bod ymarfer corff yn rhan arferol o bob diwrnod ysgol."