Bydd cynorthwywyr addysgu lefel 1 yng Nghymru yn cael eu symud i rolau lefel 2 o fis Medi 2026 ymlaen.
Bydd hyn o fudd i hyd at 3,350 o gynorthwywyr addysgu sydd ar lefel 1 ar hyn o bryd, a fydd yn cael codiad cyflog o hyd at £1,350.
Mae cynorthwywyr addysgu yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi addysgu a dysgu yn ein hysgolion a'n lleoliadau. Gan gydweithio ag awdurdodau lleol ac undebau, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, wedi cadarnhau heddiw (18 Mawrth) y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r codiad cyflog i gynorthwywyr addysgu lefel 1 i symud i lefel 2, yn amodol ar ymgynghoriad yn lleol. Bydd rolau cynorthwyydd addysgu yn y dyfodol hefyd yn cael eu recriwtio ar lefel 2 o'r cychwyn.
Ochr yn ochr â'r codiad cyflog, bydd hyn yn sicrhau bod disgrifiadau rôl cynorthwywyr addysgu yn gyson, a fydd yn cefnogi gwell recriwtio a chadw staff.
Daw'r cyhoeddiad ar yr un diwrnod ag y cyhoeddir y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg mewn Ysgolion. Mae'r Cynllun yn amlinellu gweledigaeth a rennir o ddatblygu proffesiwn addysg hyderus, gwydn sy'n cael ei gefnogi yn dda, gan ymateb yn uniongyrchol i adborth gan ymarferwyr, undebau, awdurdodau lleol, Estyn, Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a phartneriaid allweddol eraill.
Er mwyn cefnogi'r gweithlu presennol a'r gweithlu yn y dyfodol, mae'r cynllun yn nodi ystod o gamau gweithredu i Lywodraeth Cymru a phartneriaid o dan bum thema, sef:
- Sicrhau addysgu a dysgu o ansawdd.
- Mynd i'r afael â materion llwyth gwaith.
- Ymateb i heriau newydd i weithlu'r ysgol a sicrhau mynediad at gymorth drwy weithlu arbenigol a bugeiliol.
- Sicrhau bod addysgu, cefnogi addysgu ac arweinyddiaeth addysgol yn llwybrau gyrfa deniadol.
- Sicrhau defnydd effeithiol o ddata a thystiolaeth i lywio'r gwaith o gynllunio'r gweithlu.
Ymdrinnir â lles staff o dan bob thema ac mae'n ganolog o fewn y cynllun.
Mae'r camau gweithredu a amlinellir yn y cynllun yn cynnwys ymrwymiad i sefydlu llwybrau dysgu proffesiynol cenedlaethol ar gyfer athrawon, arweinwyr a chynorthwywyr addysgu gan weithio'n agos gyda Dysgu. Bydd y cymhellion addysg gychwynnol athrawon a'r llwybrau i addysgu hefyd yn cael eu hadolygu i gefnogi recriwtio athrawon y dyfodol.
Ceir ymrwymiad hefyd i ddeall modelau amgen ar gyfer cefnogi athrawon gydag amser i ffwrdd o'r ystafell ddosbarth, ac i gefnogi'r defnydd priodol o ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mewn dysgu ac i leihau llwyth gwaith.
Mae'r cynllun hefyd yn cydnabod heriau newydd y mae gweithlu'r ysgolion yn eu hwynebu wrth gefnogi dysgwyr y tu allan i'w dyletswyddau addysgu o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys cryfhau cydweithredu aml-asiantaeth i gefnogi'r gweithlu ysgolion i ymateb i newidiadau cymdeithasol ehangach. Yn ogystal, mae'n ymrwymo i fuddsoddi a chefnogi rolau bugeiliol nad ydynt yn rolau addysgu, gan gynnwys Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd a gwaith Rheolwyr Ysgolion Bro.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Mae heddiw yn garreg filltir i addysg gyda'r cynllun hwn yn amlinellu ymrwymiadau allweddol a fydd o fudd i'r sector mewn sawl ffordd yn y tymor byr a'r tymor hir.
Mae'r cynllun wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad â'r sector a bydd yn cefnogi ein harweinwyr, athrawon a staff cymorth nawr ac yn y dyfodol. Bydd yn rhoi iddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddiwallu anghenion dysgwyr, gyda chymorth lles i'r staff wrth wraidd y cynllun.
Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi'r cynnydd ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel 1 heddiw. Dyma'r cam cyntaf tuag at y nod hirdymor o fynd ar drywydd cyflog ac amodau tecach i bob cynorthwyydd addysgu.
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, llefarydd CLlLC dros addysg:
Cynorthwywyr addysgu yw calon ein hysgolion, yn meithrin perthynas ddibynadwy gyda disgyblion ac yn darparu'r gefnogaeth o ddydd i ddydd sy'n helpu plant i deimlo'n hyderus ac yn barod i ddysgu. Rydym yn croesawu'r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o symud o rolau Lefel 1 i rolau Lefel 2, mewn cydnabyddiaeth o'r cyfraniad pwysig y maent yn ei wneud.
Mae'n hanfodol bod hyn yn cyd-fynd â'r gwaith parhaus i sicrhau amodau teg a chyson ar draws y gweithlu cyfan, fel bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn cael y gefnogaeth briodol yn y rôl sydd ganddynt ym mywydau plant.
