Model cymdeithasol o anabledd: adroddiad interim y cam darganfod (crynodeb)
Adroddiad sy'n cyfuno arolygon presennol, gofynion defnyddwyr data, a barn pobl anabl ar gwestiynau sy'n casglu data am bobl anabl.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau a methodoleg yr ymchwil
Mae’r papur hwn yn adrodd am y canfyddiadau a gafwyd o gam cyntaf prosiect ymchwil i ddatblygu cwestiynau arolwg, opsiynau ymateb, ac arweiniad sy’n adlewyrchu’r model cymdeithasol o anabledd. Roedd y cam hwn (y cam darganfod) yn cynnwys 3 ymarfer casglu data, adolygiad systematig o gwestiynau arolwg cyfredol, gweithdai gyda defnyddwyr data am anabledd a gweithdai ymgynghori gyda phobl anabl.
Cafodd y model cymdeithasol o anabledd ei fabwysiadu gan Lywodraeth Cymru yn 2002 gan olygu mai Cymru oedd un o’r gwledydd cyntaf yn y byd i wneud hynny. Fodd bynnag, mae’r dull o gasglu data wedi’i ddylanwadu’n gryf o hyd gan Y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) (Deddfwriaeth y DU) ac, o’r herwydd, gan y model meddygol o anabledd. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bod angen cwestiynau newydd er mwyn sicrhau bod y model cymdeithasol wedi’i adlewyrchu yn ei gamau gweithredu ar gyfer casglu data a gwneud penderfyniadau, ac wrth ddarparu’r holl wasanaethau ledled Cymru.
Cafodd y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) ei chomisiynu felly i ddatblygu a phrofi cyfres newydd o gwestiynau arolwg demograffig, opsiynau ymateb, ac arweiniad i alinio â’r model cymdeithasol o anabledd. Bydd yr arweiniad a’r cwestiynau hyn wedi eu llunio i: gefnogi ystod amrywiol o anghenion hygyrchedd; gweithio ar draws gwahanol gyd-destunau ac ieithoedd, yn cynnwys y Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL); a bod yn addas ar draws amrywiol foddau casglu data, fel fformatau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Mae’r ymchwil wedi’i rannu’n 2 gam: y cam darganfod cychwynnol a cham ‘alffa’ dilynol, a fydd yn datblygu a phrofi cwestiynau arolwg newydd. Mae’r adroddiad hwn yn cyfuno canfyddiadau o’r cam (darganfod) cyntaf, a dyma oedd amcanion y cam hwnnw:
- deall y gwahanol fodelau anabledd a sut mae’r modelau hyn wedi’u hadlewyrchu yn y cwestiynau arolwg a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau’r llywodraeth
- deall y gwahanol ffyrdd y mae defnyddwyr data’n defnyddio data arolygon ar hyn o bryd i gynhyrchu ystadegau sy’n berthnasol i bobl anabl, neu bobl ag amhariad, a’r hyn sy’n brin ar hyn o bryd yn y dull presennol
- nodi’r ystod lawn o gwestiynau arolwg, opsiynau ymateb a’r arweiniad sy’n bodoli ar hyn o bryd i gasglu data am bobl anabl gan hefyd ystyried y model cymdeithasol o anabledd
- deall safbwyntiau pobl anabl am y ffordd y dylid casglu gwybodaeth am amhariadau a pha fath o gwestiynau y dylid eu gofyn mewn arolygon
Defnyddiwyd y 3 dull casglu data a ganlyn yn y cam darganfod:
Gweithdai gyda defnyddwyr data
Cynhaliwyd tri gweithdy gyda phobl sy’n defnyddio data ac ystadegau am bobl anabl. Trefnwyd fod pob gweithdy’n para 2 awr ac roedden nhw’n cynnwys rhwng 8 ac 16 o gyfranogwyr. Roedd y rhain yn cynnwys ymchwilwyr, swyddogion polisi ac ystadegwyr y llywodraeth; gweithwyr cyflogedig mewn cyrff sector cyhoeddus; a chynrychiolwyr o sefydliadau trydydd sector a chymunedol sy’n eirioli dros bobl anabl.
Adolygiad o fesurau sy’n bodoli’n barod
Gwnaethpwyd adolygiad systematig cynhwysfawr o’r mesurau arolwg cyfredol oedd yn cofnodi gwybodaeth am bobl anabl a’u hamhariadau. Adolygwyd cyfresi cwestiynau o 20 arolwg i gyd, o’r DU ac o wledydd eraill. Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar nodi a gwerthuso i ba raddau yr oedd y mesurau hyn yn ateb, neu y gellid eu haddasu i ateb, anghenion defnyddwyr data ac a ydyn nhw’n alinio ag iaith y model cymdeithasol o anabledd.
Gweithdai ymgynghori gyda phobl anabl
Defnyddiwyd dulliau ymchwil ymgynghori i gynnal 2 weithdy gyda phobl anabl ledled Cymru. Cafodd y gweithdai eu rhannu’n 2 sesiwn hanner diwrnod ac roedden nhw’n cynnwys cyflwyniadau, trafodaethau grŵp cyfan a thrafodaethau grwpiau llai. Ar draws y 2 sesiwn, cymerodd 40 o bobl ran yn y gweithdai, gan gynrychioli ehangder y safbwyntiau a’r profiadau byw.
Prif ganfyddiadau
Gweithdai gyda defnyddwyr data
Pan ofynnwyd iddynt am y ffynonellau data cyfredol, yr hyn a nodwyd amlaf gan y cyfranogwyr oedd eu bod yn defnyddio arolygon sefydliadol mewnol ac arolygon y llywodraeth ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i gasglu data am amhariadau a phobl anabl. O ran defnyddio data, soniodd y cyfranogwyr i gyd eu bod yn defnyddio’r data yma i fonitro ac asesu tueddiadau neu i werthuso a gwella amgylchiadau i bobl anabl. Soniodd rhai defnyddwyr data hefyd am ddefnyddio’r wybodaeth hon i werthuso amrywiaeth y gweithlu, tra bo eraill (yn arbennig defnyddwyr data o’r sefydliadau trydydd sector a chymunedol) yn defnyddio data i ddeall yn well beth yw anghenion y cymunedau y maen nhw’n eu cynrychioli ac i eirioli drostyn nhw’n well.
Hefyd, gofynnwyd i ddefnyddwyr data fyfyrio ar fuddion a chyfyngiadau’r safonau anabledd wedi’u cysoni a gynhyrchwyd gan Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS). Y brif fantais a nodwyd gan gyfranogwyr oedd y safoni cwestiynau, oedd yn caniatáu i ddata gael ei gymharu dros amser ac ar draws gwahanol arolygon. O ran y cyfyngiadau, roedd y cyfranogwyr yn teimlo bod y cwestiynau oedd wedi’u cysoni wedi eu seilio ar “fodel diffyg”, yn cynnwys iaith “negyddol”, ac y gallent wahardd neu greu rhwystrau i ymgysylltiad ar gyfer grwpiau penodol; er enghraifft, pobl gyda chyflyrau sy’n mynd a dod, pobl niwrowahanol, a phobl sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel iaith gyntaf.
Roedd y defnyddwyr data’n ymgysylltu’n gadarnhaol â’r syniad o ddefnyddio mesurau wedi eu hysbysu gan y model cymdeithasol. Roedden nhw’n trafod y ffaith bod angen symud y ffocws i ffwrdd oddi wrth ystyried ‘anabledd’ yn broblem gyda’r unigolyn, tuag at ffocws ar rwystrau cymdeithasol ac amgylcheddol, a’r ffaith bod angen “newid ieithyddol”. Byddai defnyddio opsiynau ateb testun rhydd yn caniatáu i ymatebwyr ddiffinio eu hamhariadau eu hunain, cofnodi data mwy manwl, a rhoi mwy o le i ymatebwyr hunanddiffinio.
Fodd bynnag, dywedodd y defnyddwyr data hefyd y byddai angen cael arweiniad am unrhyw gwestiynau newydd oedd wedi eu seilio ar y model cymdeithasol ac y gallent gynyddu hyd yr arolygon, gan greu profiadau mwy beichus i’r defnyddiwr. Roedden nhw’n pwysleisio’r ffaith bod angen cael cydbwysedd rhwng defnyddioldeb yr arolwg a faint o ddata y gellid ei gofnodi. Nodwyd y gallai fformat a dull yr holiaduron fod yn waharddol o hyd, a bod yn rhaid ymdrin â hynny trwy ddefnyddio amrywiaeth o fformatau a dulliau i ofyn ac ateb y cwestiynau. Gallai’r rhain gynnwys arolygon wyneb yn wyneb gyda chymorth cyfwelydd ac arolygon ar-lein i’r ymatebwyr eu cwblhau eu hunain, gan hefyd gael fersiynau llafar a hawdd eu darllen, ac arolygon yn Iaith Arwyddion Prydain, er enghraifft.
Ar draws pob un o’r 3 gweithdy, roedd y cyfranogwyr yn teimlo y dylai’r cwestiynau gael eu hailddylunio gyda chyfranogaeth gan y bobl y maent i fod i’w gwasanaethu, ac nid sefydliadau a phobl broffesiynol yn unig. Gwnaed awgrymiadau am gadw’r cwestiynau cyfredol a’u hategu gyda mesurau newydd.
Adolygiad systematig o’r mesurau arolwg cyfredol
Yn gyffredinol, mae’r adolygiad o’r 20 mesur cyfredol yn awgrymu hyn: er bod rhai ohonynt yn alinio’n rhannol â’r model cymdeithasol o anabledd, byddai angen gwneud addasiad sylweddol i’r rhan fwyaf er mwyn adlewyrchu eu hegwyddorion yn llawn ac ateb gofynion y defnyddwyr data. Y model bioseicogymdeithasol o anabledd oedd y fframwaith cysyniadol a ddefnyddiwyd ar gyfer y mwyafrif o’r arolygon cyfredol.
Rhoddwyd ystyriaeth gyfyngedig ar draws y mwyafrif o’r arolygon i’r ffordd y mae cyflyrau sy’n mynd a dod neu sy’n gwaethygu’n raddol yn effeithio ar fywydau dyddiol pobl, ac roedd y rhan fwyaf o’r arolygon a adolygwyd yn gyfyngedig yn eu gallu i gofnodi data am rwystrau amgylcheddol a chymdeithasol. Hyd yn oed mewn achosion lle casglwyd data am rwystrau, roedden nhw’n tueddu i gael eu trin fel pynciau ategol yn hytrach na chael eu hintegreiddio’n llawn i gysyniadu anabledd.
Roedd llawer o arolygon yn osgoi defnyddio’r gair ‘anabledd’ yn uniongyrchol ac, yn lle hynny, roeddent yn dewis gofyn am ‘gyflyrau iechyd tymor hir’ neu ‘gyfyngiadau ar weithrediadau’. Roedd rhai arolygon yn defnyddio iaith sydd yn awr yn cael ei hystyried yn hen ffasiwn neu’n ansensitif, ac roedd eraill yn defnyddio iaith oedd yn cyfuno amhariadau gyda symptomau meddygol, gan symud y ffocws ymhellach i ffwrdd oddi wrth y model cymdeithasol o anabledd.
Roedd llawer o’r arolygon wedi eu llunio’n wreiddiol ar gyfer eu gweinyddu wyneb yn wyneb gan y cyfwelydd a dim ond yn fwy diweddar y cawsent eu haddasu’n rhai y gellid eu hunan-gwblhau neu eu gweinyddu dros y ffôn neu ar-lein. Hefyd, er bod llawer o arolygon yn caniatáu ymatebion trwy ddirprwyaeth i blant neu unigolion sy’n methu cwblhau’r arolwg yn annibynnol, roedd arolygon oedd yn darparu fformatau hygyrch amgen yn brin. Gallai hyn greu rhwystr i gynhwysiant, yn arbennig i bobl anabl a allai wynebu amhariadau a/neu rwystrau cyfathrebu, synhwyraidd neu wybyddol.
Ymchwil ymgynghori gyda phobl anabl
Yn ystod y gweithdai ymgynghori, roedd y trafodaethau â’r cyfranogwyr yn cynnwys myfyrdodau cysyniadol a mwy ymarferol am syniadau fel cynhwysiant a chymharedd, defnyddio iaith, ac asesiadau o wahanol gwestiynau arolwg (cwestiynau oedd yn bodoli’n barod a chwestiynau newydd posibl).
Roedd iaith yn derbyn sylw mewn trafodaethau, mewn perthynas â’r ffordd yr oedd cyfranogwyr yn eu diffinio eu hunain, a sut yr oedden nhw’n gweld ac yn deall amrywiol gwestiynau’r arolwg. Ni chafwyd consensws am y dewis derminoleg, ond roedd llawer ohonyn nhw’n disgrifio gwahaniaeth rhwng bod yn anabl a bod ag amhariadau, gwahaniaeth sydd hefyd yn ganolog i’r model cymdeithasol. Roedd gan y mwyafrif o gyfranogwyr farn negyddol am y termau ‘anabledd’ a ‘bod yn anabl’, gan gysylltu’r rhain â chyfyngiadau a chysyniadau cymdeithasol negyddol. Roedd rhai hefyd yn awgrymu bod y gair ‘rhwystrau’ yn rhy haniaethol i gael ei ddeall yn llawn gan y cyhoedd ac y gallent ei gysylltu’n llwyr â rhwystrau ffisegol.
Roedd gan gyfranogwyr farn gymysg am bwysigrwydd cymharedd. Roedd rhai’n dweud ei fod yn ystyriaeth bwysig wrth ddatblygu cwestiynau arolwg, ond roedd eraill yn gweld y syniad o gymharedd data yn ddryslyd ac yn ei gymysgu’n aml â defnyddio iaith syml, glir a hygyrch mewn cwestiynau arolwg.
Roedd y mwyafrif o gyfranogwyr yn ystyried bod cynhwysiant yn bwysicach na chymharedd wrth lunio cwestiynau arolwg. Fodd bynnag, cyfeiriwyd at gynhwysiant mewn gwahanol ffyrdd: naill ai o ran sicrhau bod amhariadau gwahanol neu brofiadau gwahanol o fod yn anabl wedi eu nodi mewn cwestiynau arolwg, neu fel llaw-fer am iaith gynhwysol. Dywedodd rhai cyfranogwyr bod geiriad sarhaus neu hen ffasiwn (er enghraifft, defnyddio’r term ‘anhwylder’) yn gwneud pobl yn amharod i ymateb i gwestiynau. Roedd lleiafswm o gyfranogwyr yn teimlo bod y syniad o iaith gynhwysol yn mynd yn rhy gymhleth, a bod pobl yn teimlo wedi eu tramgwyddo’n llawer rhy hawdd.
Wrth ystyried y safonau ’craidd’ wedi’u cysoni sy’n mesur salwch a chyflyrau iechyd sy’n para’n hir (GSS), a chyfyngiadau ar weithrediadau (GSS), dywedodd llawer o’r cyfranogwyr i ddechrau y bydden nhw’n cael y cwestiynau hyn yn hawdd eu hateb. Fodd bynnag, pan fyfyriodd y cyfranogwyr hyn ar y cwestiynau a’u trafod nhw gyda phobl eraill, dechreuodd nifer ohonyn nhw enwi nifer o anfanteision, gan ddod i’r casgliad eu bod nhw’n anodd eu hateb ac yn waharddol. Dywedodd rhai cyfranogwyr eu bod yn waharddol am nad oedden nhw’n cofnodi profiadau rhai pobl anabl, bod ganddynt iaith waharddol a negyddol, a bod yr ymatebion ‘ychydig bach’ neu ‘llawer’ yn oddrychol.
O’i chymharu â’r cwestiynau ‘craidd’ wedi’u cysoni, roedd y safon wedi’i chysoni ar gyfer amhariadau (GSS) yn cael ei hystyried mewn ffordd fwy cadarnhaol oherwydd ystyriwyd ei bod yn arddangos dealltwriaeth well o amhariadau ac yn teimlo’n “ysgafnach” na’r safonau ‘craidd’. Awgrymodd y cyfranogwyr bod cynnwys yr ymateb ‘Arall’ a’r opsiwn i ddewis ‘yr holl atebion sy’n berthnasol’ yn fuddiol oherwydd roedd yn galluogi i ddata manylach a mwy cywir gael ei gasglu sy’n adlewyrchu profiadau cymhleth pobl anabl. Fodd bynnag, wrth ystyried y cwestiwn ar ei ben ei hun, roedd cyfranogwyr yn teimlo’n gryf iawn bod y cwestiynau am amhariadau’n welliant ar y safonau ‘craidd’ ond bod angen eu gwella ymhellach.
Ymatebodd y mwyafrif o’r cyfranogwyr yn gadarnhaol i’r syniad o gwestiwn arolwg wedi ei ysbrydoli gan y model cymdeithasol. Dywedodd rhai cyfranogwyr bod y cwestiwn sampl a ofynnwyd iddynt gan hyrwyddwyr yn “grymuso” ac y byddai’n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn “bwysig” i’r llywodraeth. Fodd bynnag, dywedodd nifer o gyfranogwyr hefyd ei fod yn rhy hir, cymhleth a geiriog. Roedd y mwyafrif o’r cyfranogwyr yn hoffi’r syniad o ofyn y cwestiwn wedi’i gysoni am amhariadau a chwestiwn ar sail y model cymdeithasol gyda’i gilydd, oherwydd gallai hyn helpu i gysylltu data am amhariadau gyda data am rwystrau a chynhyrchu mwy o ddata y gellir gweithredu arno.
Casgliadau ac argymhellion
Ni chanfuwyd un gyfres o gwestiynau cyfredol oedd yn ateb anghenion pob grŵp, yn ystod y cam darganfod. Roedd barn y cyfranogwyr am ddatblygu cwestiynau yn y dyfodol yn gymysg hefyd, gyda rhai’n dewis adeiladu ar eiriad y cwestiwn wedi’i gysoni ar gyfer dadansoddiad cyfres amser (ac ar gyfer aliniad â diffiniadau Deddf Cydraddoldeb 2010), ond roedd eraill eisiau blaenoriaethu datblygiad cwestiynau cwbl newydd, sy’n ymwreiddio dull model cymdeithasol gydag iaith fwy priodol a chynhwysol.
Ar sail y canfyddiadau o’r cam darganfod, argymhellir blaenoriaethu’r opsiynau a ganlyn ar gyfer datblygu holiadur yn ystod cam nesaf y prosiect. Ni fydd yr opsiynau hyn yn annibynnol ar ei gilydd.
- Cwestiwn wedi’i ddiweddaru am amhariadau, ar sail safon wedi’i chysoni ar gyfer amhariadau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
- Cwestiwn newydd am rwystrau cymdeithasol y mae pobl gydag amhariadau’n eu hwynebu.
Ar gyfer opsiwn 1, argymhellir y dylai’r gwaith dylunio ganolbwyntio ar fireinio’r cwestiwn wedi’i gysoni cyfredol am amhariadau i ymdrin â rhai o’r rhwystrau a chyfyngiadau a nodwyd yn y cam darganfod. Roedd y rhain yn cynnwys defnyddio terminoleg hen ffasiwn a gwaharddol; disgrifio cyflyrau sy’n effeithio ar bobl yn ‘gymdeithasol’ neu’n ‘ymddygiadol’, eglurder ynghylch cyflyrau sy’n mynd a dod; a pha mor addas ydyn nhw i’w defnyddio gan rieni sy’n ateb am eu plant.
Ar gyfer opsiwn 2, argymhellir y dylid cynhyrchu un cwestiwn dilynol unigol ar gyfer y bobl hynny sy’n rhoi gwybod am un neu fwy o amhariadau mewn ymateb i’r cwestiwn blaenorol. Dylai’r cwestiwn dilynol ganolbwyntio ar rwystrau, gan ofyn i ymatebwyr adnabod unrhyw rwystrau y maent wedi eu hwynebu mewn perthynas â’u hamhariadau o restr ‘ticio pob un sy’n berthnasol’ o opsiynau posibl.
Dylai gwaith datblygu cwestiynau ar gyfer opsiwn 2 ganolbwyntio ar ddatblygu rhestr lefel uchel o rwystrau a fydd yn berthnasol i wneuthurwyr polisi ac i amrediad eang o bobl anabl. Nodir y bydd un cwestiwn unigol yn cyfyngu ar natur ronynnog y wybodaeth a geir am bob math o rwystrau a wynebir.
Ar gyfer y ddau opsiwn, dylid llunio cwestiynau a’u profi ar gyfer eu defnyddio mewn gwahanol foddau cwblhau. Bydd hyn yn caniatáu i wahanol fformatau gael eu defnyddio wrth i arolygon barhau i drosglwyddo o fod yn rhai a weinyddir gan gyfwelwyr i arolygon a gwblheir ar y we yn gyntaf neu a gwblheir gan yr atebwr.
Blaenoriaeth y gwaith o ddatblygu holiaduron fyddai sicrhau eu bod yn ateb anghenion defnyddwyr data a gweithio gyda phobl anabl i ddatblygu rhestr glir o’r rhwystrau sydd, yn eu barn hwy, yn gofyn sylw fwyaf ac sydd fwyaf perthnasol i wahanol fathau o amhariadau.
Manylion cyswllt
Awdur yr adroddiad: Lisa Rutherford, Harry Pearse, Nathan Hudson, Jo d’Ardenne, Aditi Das, Alessandra Radicati, Yasmin Begum
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Laura Tolland
Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd
Yr Is-adran Tystiolaeth a Chefnogaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Tlodi a Phlant
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: ymchwilhinsawddacamgylchedd@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 78/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-157-4

