Neidio i'r prif gynnwy

Dechreuodd cynllun peilot tair blynedd y Model Ysgolion Rhithwir ym mis Mawrth 2021. Mae'r ymchwil hon yn casglu tystiolaeth gychwynnol o ddulliau gweithredu awdurdodau lleol peilot i gefnogi plant â phrofiad o ofal.

Nod y prosiect hwn oedd casglu mewnwelediadau cynnar i wahanol strwythurau, prosesau gweithredu, ac effeithiau canfyddedig y cynllun peilot Model Ysgolion Rhithwir hyd yn hyn.

Daethpwyd o hyd i nifer o gyfyngiadau yn yr wybodaeth monitro. Roedd hyn yn golygu nad oedd modd cynnal dadansoddiad cymharol manwl o wariant, staffio, gweithredu ac effaith rhwng awdurdodau lleol. Fe wnaeth hyn gyfyngu'r dadansoddiad i drosolwg lefel uchel. 

Un canfyddiad allweddol o'r ymchwil yw bod 3 chategori eang o ddefnydd ar gyfer cyllid y cynllun peilot Model Ysgolion Rhithwir gan yr awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan:

  • mae pum awdurdod lleol wedi defnyddio'r cyllid i weithredu Model Ysgolion Rhithwir newydd neu wedi'i newid yn sylweddol
  • mae pedwar awdurdod lleol wedi defnyddio'r cyllid i wella capasiti ac effeithiolrwydd eu systemau presennol ar gyfer cefnogi plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal
  • mae tri awdurdod lleol yng nghamau cynnar y broses o ddatblygu eu Model Ysgolion Rhithwir

O'r deuddeg awdurdod lleol, mae pump wedi penodi Pennaeth yr Ysgol Rhithwir ac mae pedwar yn bwriadu gwneud hynny ar hyn o bryd. Ni wnaeth un awdurdod lleol ddarparu'r wybodaeth hon. 

Roedd y pedwar awdurdod lleol a gafodd eu cyfweld o blaid parhau â'r Model Ysgolion Rhithwir fel model statudol, parhaol, gyda chyllid wedi'i glustnodi. Dywedodd tri eu bod o blaid datblygu set gyfyngedig o ofynion statudol, gyda lle i addasu eu dull gweithredu i ddiwallu anghenion penodol plant yn eu rhanbarth sydd â phrofiad o fod mewn ofal. 

Mae'r ymchwil yn darparu argymhellion ynghylch pa waith gwerthuso pellach sydd ei angen i roi dealltwriaeth gyflawn o'r cymorth sydd ar gael i blant ar draws Cymru sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac i lywio datblygiad polisi a chanllawiau yn y dyfodol. 

Adroddiadau

Model Ysgolion Rhithwir ar gyfer Addysg Integredig i Blant â Phrofiad o Ofal: Casglu Tystiolaeth Gychwynnol o Gynlluniau Peilot Awdurdodau Lleol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 843 KB

PDF
843 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Y tîm ymchwil ysgolion

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.