Roedd allbynnau astudiaeth dechnegol yn canolbwyntio ar waith modelu i lywio adolygiad o'r trothwy o 50c yr uned ar gyfer y polisi Isafbris Alcohol (MPA) sydd ar waith yng Nghymru ers 2020.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ymchwil ar isafswm prisio ar gyfer alcohol
Mae'r adroddiadau'n cyflwyno canlyniadau astudiaeth dechnegol sy'n canolbwyntio ar waith modelu i lywio adolygiad o'r trothwy presennol o 50c yr uned ar gyfer y polisi Isafbris Alcohol (MPA) sydd ar waith yng Nghymru ers 2 Mawrth 2020.
Nod y gwaith hwn oedd darparu data modelu wedi'i ddiweddaru ar gyfer Cymru ar effeithiau tebygol parhau â deddfwriaeth Isafbris Alcohol y tu hwnt i'r cyfnod a gwmpesir gan y ddeddfwriaeth bresennol. Bydd yr ymchwil yn adeiladu ar waith modelu presennol ar gyfer Cymru a gwaith mwy diweddar yn yr Alban, i asesu effaith poblogaeth ystod o opsiynau amgen o ran isafbris uned 50c presennol, gan adeiladu data newydd.
Adroddiadau
Modelu newydd o bolisïau prisio alcohol, yfed alcohol a niwed yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Cyswllt
Dr Chris Roberts
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
