Neidio i'r prif gynnwy

Mae rheoliadau pwysig sy'n sicrhau ymrwymiadau hinsawdd Cymru ac yn galluogi cyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi'u pasio yn y Senedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, cymeradwyodd yr Aelodau reoliadau newydd mentrus sy'n atgyfnerthu gweithredu ar yr hinsawdd ac yn trawsnewid cymorth amaethyddol.

Gyda'i gilydd, maent yn gam mawr ymlaen i ymateb Cymru i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur ac yn hyrwyddo rheoli tir a chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

Disgrifiodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, y foment fel un "hanesyddol i'r amgylchedd yng Nghymru".

Mae Cymru eisoes wedi lleihau ei hallyriadau o fwy na thraean ers 1990. Mae'r rheoliadau hinsawdd newydd yn gosod pedwaredd cyllideb garbon Cymru ar ostyngiad o 73% mewn allyriadau ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r drydedd gyllideb garbon gael ei chyflawni'n gyfan gwbl trwy weithredu domestig.

Ar ôl saith mlynedd o ddatblygu, y rheoliadau amaethyddiaeth yw'r cam olaf i sicrhau y gall Llywodraeth Cymru lansio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ym mis Ionawr. Mae hyn yn rhoi'r sefydlogrwydd a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar ffermwyr i fod yn fwy gwydn, cynhyrchiol a chynaliadwy.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:

"Tra bod eraill yn cilio o ymrwymiadau hinsawdd, mae Cymru'n parhau i weithredu.

"Rydym yn cryfhau y gweithredu ar yr hinsawdd ac yn meithrin partneriaeth newydd gyda ffermwyr Cymru a fydd yn diogelu eu busnesau a'n hamgylchedd am genedlaethau i ddod.

"Mae effeithiau newid hinsawdd yn berygl gwirioneddol a phresennol. Mae’r llifogydd diweddar yn Nhrefynwy a ledled Cymru yn ein hatgoffa bod diffyg gweithredu yn golygu biliau ynni uwch, tywydd mwy eithafol, a dyfodol ansicr i'n plant.

"Mae'r rheoliadau hyn yn cyflawni'r gwrthwyneb: biliau rhatach, aer glanach, swyddi gwyrdd newydd, a Chymru fwy diogel, gyda mwy o sicrwydd.

"Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cefnogi cynhyrchu bwyd cynaliadwy ac yn ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur.

"Ein huchelgais yw diwydiant amaethyddol ffyniannus, hyderus sy’n cynnwys arloesedd a thwf.

"Rydym wedi gorffen cyfres o sioeau teithiol yn ddiweddar, yn siarad â ffermwyr am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, ac mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda llawer ohonynt yn paratoi ar gyfer dechrau'r Cynllun.

"Byddwn yn annog y rhai sydd eto i edrych ar y cynllun i wneud hynny cyn gynted â phosibl.

"Mae canlyniad pleidleisiau heddiw yn amddiffyn ein cymunedau, yn cefnogi ein ffermwyr, ac yn rhoi gobaith i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol."