Neidio i'r prif gynnwy

Ar ôl ymweld â Mona Lifting, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones fod y cwmni yn esiampl o ragoriaeth mewn peirianneg ac mewn lle da i fanteisio i'r eithaf ar ddatblygiadau fel yr Wylfa Newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Mona Lifting yn dylunio, cynhyrchu, gosod a chomisiynu bob math o gyfarpar codi a dyfeisiadau peirianyddol cyffredinol. Mae'n gweithredu mewn nifer o sectorau peirianyddol, gan gynnwys y sector niwclear.

Ar ddiwedd 2017, enillodd y cwmni gontract gwerthfawr i osod system godi yn CERN (y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear) yn y Swistir.

Mae Mona Lifting yn rhan o raglen cadwyn gyflenwi Fit 4 Nuclear, sy'n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a'i rhedeg gan y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Niwclear. Mae'r rhaglen yn wasanaeth unigryw i helpu cwmnïau gweithgynhyrchu'r DU i baratoi i ymgeisio am waith yng nghadwyn gyflenwi'r sector niwclear sifil.

Derbyniodd y cwmni gymorth gan Lywodraeth Cymru hefyd er mwyn symud i'w safle presennol, mwy o ran maint, a dyma'r cyfleusterau mwyaf o'u bath yn yr ardal.

Dywedodd y Prif Weinidog:

"Mae'n dda gweld cynnydd cyson ardderchog Mona Lifting yn cynyddu ei weithlu medrus a datblygu marchnadoedd newydd, yn arbennig yn y byd niwclear.  

"Roedd ennill contract gan CERN yn llwyddiant anhygoel, ac mae'n wych gweld cwmni o Ynys Môn yn medru cystadlu'n llwyddiannus iawn gyda'r gorau yn y byd.

"Wylfa Newydd fydd y buddsoddiad sector preifat mwyaf yng Nghymru gyfan yn ôl pob tebyg, ac rydyn ni am weld cyflenwyr Cymru'n manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn.  Mae Mona Lifting yn esiampl o sut i wneud hyn, ac rwy'n falch iawn eu bod yn rhannu eu harbenigedd gydag eraill drwy'r rhaglen Fit 4 Nuclear."

Dywedodd Steve Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Mona Lifting:

"Rydyn ni'n gwerthfawrogi'r ffaith bod Carwyn Jones wedi rhoi ei amser i ymweld â ni ym Mona Lifting. Roedd yn ymdrech aruthrol gan bob un ohonom yn y cwmni i gyrraedd lle'r ydyn ni heddiw. Mae'r cymorth rydyn ni wedi'i gael gan Lywodraeth Cymru, yn arbennig ar lefel leol, wedi bod yn amhrisiadwy i'n helpu i ddatblygu.

"Bydd yr ychydig flynyddoedd nesaf yn heriol, gyda datgomisiynu safle presennol yr Wylfa ac aros i adeiladu Wylfa Newydd. Ond gyda'r heriau hynny daw cyfleoedd yn y sectorau niwclear a chynhyrchu ynni, nid yn unig yn yr Wylfa ond ledled y DU. Rydym ni wedi gweithio ar sawl safle niwclear dros y blynyddoedd, Sellafield, Berkeley, Oldbury, Wylfa a Thrawsfynydd ac wrth wneud hynny rydyn ni wedi casglu cryn dipyn o wybodaeth a phrofiad sydd, gobeithio, yn mynd i fod yn fanteisiol iawn i ni pan fydd y prosiectau mwyaf yn dechrau ymddangos.

"Rydyn ni hefyd yn aelodau o Fforwm Niwclear Cymru. Rhai o'r manteision yw bod y grŵp yn cael trafod eu profiadau, rhannu gwybodaeth a chydweithio. Byddwn yn annog eraill i ymuno fel aelodau."