Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae busnes o Gymru yn datblygu ffordd o reoli diabetes a allai fod yn chwyldroadol ar ôl derbyn cyllid gan raglen ymchwil gydweithredol fwyaf y byd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Afon Technology Ltd yn gweithio ar synhwyrydd glwcos gwaed anfewnwthiol cyntaf yn y byd y gellir ei wisgo, sy'n mesur lefelau mewn amser real – gan gael gwared ar yr angen poenus i bigo bys yn aml.

Cafodd y busnes o Gil-y-coed dros £2 miliwn o gyllid gan Horizon Ewrop – rhaglen ymchwil ac arloesi flaenllaw yr UE gwerth £80 biliwn – i gyflymu'r broses o ddatblygu ei waith arloesol.

Mae'r synhwyrydd o'r enw Glucowear yn cael ei wisgo ar yr arddwrn ac yn defnyddio signalau microdon pŵer isel iawn i fonitro lefelau glwcos.

Mae Afon Technology Ltd yn un o dros 20 o fusnesau yng Nghymru sydd wedi elwa ar gynllun Horizon Ewrop ar ôl i Lywodraeth Cymru lobïo dros barhau i gymryd rhan ar ôl Brexit.

Dywedodd Sabih Chaudhry, Prif Swyddog Gweithredol Afon Technology Ltd:

O'n swyddfa fach a'n labordy yng Nghymru, mae ein tîm medrus yn mynd ar drywydd y greal sanctaidd o ran gwaith monitro glwcos. Dyma ddatblygiad arloesol sydd â'r potensial i newid y byd.

Mae cynllun ariannu Horizon wedi bod yn allweddol wrth gyflymu datblygiad ein technoleg arloesol. Roeddem wrth ein bodd i dderbyn €2.4 miliwn gan y Cyngor Arloesi Ewropeaidd, gan ein galluogi i sbarduno ein datblygiad arloesol tuag at fasnacheiddio ac, yn y pen draw, at wella bywydau'r rhai sy'n byw gyda diabetes.

Mae rhaglen ariannu Horizon Ewrop 2025 bellach ar gael ar-lein ac mae Llywodraeth Cymru yn annog ymchwilwyr ac arloeswyr o Gymru i ddatblygu ceisiadau ar gyfer y rhaglen, sy'n cael ei rhedeg gan y Comisiwn Ewropeaidd tan 2027.

Mae cymorth grant ar gael i sefydliadau i'w hannog i gymryd rhan yn Horizon Ewrop drwy Cymru Ystwyth.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

Mae cyllid Horizon Ewrop yn hanfodol i ymchwilwyr, arloeswyr a busnesau sy'n gwthio ffiniau gwyddoniaeth ac yn mynd i'r afael â heriau hanfodol, megis newid hinsawdd, triniaeth feddygol a chystadleurwydd diwydiannol mewn technolegau newydd.

Rwy'n annog sefydliadau yng Nghymru i fanteisio ar statws Gwlad Gysylltiol y DU o dan y rhaglen yn 2025 er mwyn inni feithrin ein henw da fel magned ar gyfer cydweithredu, buddsoddi a rhagoriaeth ryngwladol.