Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth yn seiliedig ar 17 o ddangosyddion allbwn yn y hir-dymor o Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ar gyfer 2012.

Prif bwyntiau

  • Mae 8 allan o 10 taith i'r gwaith yn cael eu gwneud gan ddefnyddio car neu fan. Mae’r ffigwr hwn wedi aros yn gyson am y 10 mlynedd diwethaf.
  • Gwnaed ychydig llai na 49 miliwn o deithiau gan ddefnyddio Tocynnau Teithio Bws Rhatach yng Nghymru yn 2012-13.
  • Cyflawnwyd pob targed diogelwch ffyrdd a osodwyd yn 2000 erbyn 2010; gyda’r lefel isaf ar gofnod ar gyfer y nifer a gafodd eu lladd neu anafu’n ddifrifol, sef 1,034, yn cael ei adrodd yn 2012.
  • Mae nifer y teithwyr ar fysiau yng Nghymru wedi aros yn gyson ar tua 116 miliwn rhwng 2009-10 a 2011-12.
  • Mae nifer y teithwyr ar y rheilffyrdd yng Nghymru wedi cynyddu o tua 26 miliwn yn 2009-10 i 27 miliwn yn 2010-11.
  • Gostyngodd traffig ar y ffyrdd yng Nghymru o 26.93 biliwn cilomedr cerbyd yn 2011 i 26.76 biliwn cilomedr cerbyd yn 2012, y lefel isaf ers 2003.
  • Gostyngodd nifer y teithwyr ar y môr o 2.8 miliwn yn 2011 i 2.6 miliwn yn 2012.
  • Gostyngodd nifer y teithwyr awyr ym Maes Awyr Caerdydd o 1.2 miliwn yn 2011 i 1.0 miliwn yn 2012.
  • Gostyngodd allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n ymwneud â chludiant fesul 2% rhwng 2010 a 2011.

Adroddiadau

Monitro'r Cynllun Trafnidaeth Cenedlaethol, 2012 diweddaru , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.