Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd dros Gyllid, yn mynd i'r cyfarfod diweddaraf o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau Ewropeaidd) a fydd yn cael ei gadeirio gan David Lidington.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yn gyfle i drafod hynt y negodiadau â'r 27 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE). Ond bydd ffocws pendant yn y cyfarfod hefyd ar faterion mudo yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog y DU yn ddiweddar am y cynlluniau i leihau mewnfudo ymhlith gweithwyr o’r UE sy’n meddu ar lefel sgiliau sy’n is. Bydd Caroline Nokes, Gweinidog y Swyddfa Gartref, hefyd yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â Dominic Raab, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r UE, a Gweinidogion o Lywodraeth yr Alban.

Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd yr Athro Drakeford:

“Yn syml, dyw hi ddim yn iawn inni esgus, fel y gwnaeth Prif Weinidog y DU yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol, fod modd trafod y polisi mewnfudo mewn gwagle. Nid yw hyn yn bosibl pan fydd hawliau dinasyddion Prydain i fyw a gweithio mewn ardaloedd eraill yn Ewrop, ac i'r gwrthwyneb, yn rhan hanfodol o'r negodiadau ar y berthynas â'r UE yn y dyfodol. Mae adroddiad diweddar y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo wedi dangos y bydd dal angen mudwyr arnom yn y dyfodol, a byddwn yn parhau i gael budd ohonynt. Byddem yn ffôl iawn i roi ein mynediad at y farchnad sengl mewn perygl drwy fynnu rhoi terfyn ar hawl pobl i symud yn rhydd ac wedyn gorfod cynyddu'r niferoedd sy'n mewnfudo o rannau eraill o'r byd.

"Yn fwy cyffredinol, mae angen polisi mudo arnom sy'n caniatáu inni ddenu gweithwyr i'r meysydd cywir – o ran y math o waith a gynigir a lleoliad y gwaith. Mae angen polisi mudo arnom sy'n gweithio ar gyfer y DU yn gyfan, nid De-ddwyrain Lloegr yn unig.

“Mae'n gwbl hanfodol i Gymru fod gennym fynediad at weithwyr sydd â lefel sgiliau sy'n is, ac ni ddylai trothwy cyflog mympwyol fod yn rhwystr i hyn.

“O ystyried pa mor bwysig yw hyn i'n ffyniant economaidd, a bod rhyngysylltiad rhwng mudo a'n cyfrifoldebau datganoledig dros wasanaethau cyhoeddus fel addysg, iechyd a llywodraeth leol, rydyn ni'n gofyn i Lywodraeth y DU am sicrwydd y byddwn ni'n cael y cyfle i rannu ein barn â nhw. Rydyn ni hefyd am sicrwydd y bydd ein barn ni'n cael ei hystyried, cyn i Lywodraeth y DU gyflwyno ei pholisi ar fewnfudo yn y dyfodol yn hwyrach yn ystod y flwyddyn.”

Mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal wythnos cyn cyfarfod tyngedfennol o'r Cyngor Ewropeaidd ar 17 Hydref a 6 mis cyn i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth 2019.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid hefyd:

“Mae cytundeb synhwyrol o fewn cyrraedd ond rydyn ni am i Lywodraeth Cymru gael ei chynnwys yn llawn wrth bennu manylion y datganiad gwleidyddol ar y berthynas yn y dyfodol cyn cytuno arni â'r UE. Roedd cytundeb Chequers yn gam yn y cyfeiriad cywir ond, er mwyn sicrhau canlyniad boddhaol i'r negodiadau, bydd rhaid i'r Llywodraeth symud yn fwy pendant i'r cyfeiriad a gyflwynwyd yn ein Papur Gwyn Diogelu Dyfodol Cymru."