Bydd mwy na £19.6 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru yn adfywio canol trefi ledled Cymru, gan gyflawni prosiectau adfywio trawsnewidiol a fydd yn creu mannau ffyniannus i gymunedau fyw, gweithio a mwynhau.
Bydd awdurdodau lleol ledled Cymru yn derbyn cyllid grant drwy raglenni Trawsnewid Trefi a Gwneud Lleoedd Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag eiddo gwag, gwella mannau cyhoeddus a sbarduno twf economaidd yn y cymunedau sydd ei angen fwyaf.
Ymhlith y prosiectau sy'n derbyn cymorth bydd Cyngor Sir Ceredigion yn elwa ar hyd at £2.3 miliwn i greu parth Diwylliant a Chymuned yn adeilad hanesyddol Hen Goleg Aberystwyth, dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth
Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau bron i £1 miliwn ar gyfer Menter Eiddo Gwag Bangor, ac mae Cyngor Abertawe wedi derbyn mwy na £650,000 o gyllid grant a benthyciad ar gyfer elfennau masnachol a manwerthu'r datblygiad Biophilic Living.
Mae'r cynllun Biophilic Living yn cynrychioli buddsoddiad pwysig yng nghanol dinas Abertawe, gan ddarparu 50 o gartrefi rhent fforddiadwy ochr yn ochr â gofod manwerthu a masnachol. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £15 miliwn i'r prosiect arloesol hwn, sy'n integreiddio dylunio wedi'i ysbrydoli gan natur â bywyd trefol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:
Canol trefi yw calon ac enaid cymunedau Cymru, mannau lle mae pobl yn dod at ei gilydd, lle mae busnesau lleol yn ffynnu, a lle mae ein hymdeimlad o gymuned ar ei gryfaf.
Mae'n wych gweld £19.6 miliwn arall o gyllid yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau ledled Cymru a fydd yn rhoi bywyd newydd i'n strydoedd mawr, yn cefnogi masnachwyr lleol, ac yn creu'r mannau bywiog a chroesawgar y mae ein cymunedau yn eu haeddu.
