Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi £40m o gyllid cyfalaf newydd i osod ysgolion wrth galon eu cymunedau lleol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyllid gwerth £40m yn cael ei ddefnyddio i fuddsoddi mewn isadeiledd ymarferol i greu Ysgolion Bro. Mae Ysgolion Bro yn adeiladu partneriaethau cadarn gyda theuluoedd, yn ymateb i anghenion eu cymunedau, ac yn cydweithio'n effeithiol â gwasanaethau eraill i sicrhau bod pob plentyn yn ffynnu. 

Bydd y cyllid a gyhoeddir yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ysgolion ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru i gyflwyno prosiectau cymunedol, gan gynnwys prosiectau bwyd a garddio, defnydd cymunedol o gyfleusterau chwaraeon a hybiau a cheginau cymunedol mewn adeiladau ysgolion. Hefyd, darperir rhaglenni allgymorth i rieni a’r gymuned fel dosbarthiadau maeth a sgiliau, a sesiynau darllen rhieni a phlant.

Bydd £6.5m yn ychwanegol yn ariannu rhagor o Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd a Swyddogion Lles Addysg, sy’n mynd i’r afael â materion absenoldeb ac anghydraddoldeb, gan ddarparu rhagor o gymorth i’r plant a’r teuluoedd sydd ei angen fwyaf.

Fe wnaeth y Gweinidog Addysg lansio'r cyllid newydd yn swyddogol yn ystod ymweliad ag Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.

Mae’r ysgol wedi elwa yn flaenorol ar bron i £37m ar gyfer adeilad newydd sbon yn lle’r hen safle. Mae hyn wedi galluogi’r ysgol i ddarparu’r cyfleusterau gorau i’w dysgwyr a’i chymuned leol. Ymysg y grwpiau cymunedol sy’n elwa ar y cyfleusterau newydd hyn mae grŵp Dechrau’n Deg lleol a nifer o dimau chwaraeon sy’n defnyddio’r caeau chwarae.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Rwyf wedi gweld fy hun y cynlluniau y mae ysgolion ar hyd a lled y wlad yn eu cynnal i helpu cymuned yr ysgol a’r ardal leol.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi ysgolion i ddefnyddio eu cyfleusterau a'u hadnoddau er budd y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, gan wella bywydau plant a theuluoedd, ac adeiladu cymunedau cryfach.”