Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £5.45 miliwn ychwanegol i Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru yn Wrecsam.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r arian yn rhan o gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Gwnaeth Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden y cyhoeddiad ar ymweliad â'r ddinas ac fe ddaw ar adeg pan fo diddordeb mewn pêl-droed yng Nghymru yn uwch nag erioed.

Bydd yr amgueddfa, a fydd yn Amgueddfa Wrecsam ar ôl ailddatblygiad sylweddol o'r adeilad, yn dathlu treftadaeth bêl-droed Cymru ac yn helpu i adeiladu etifeddiaeth yn sgil cyfraniad y genedl yng Nghwpan y Byd FIFA y dynion 2022. Bydd hyn yn sicrhau bod ei hanes yn cael ei werthfawrogi a bod straeon yn cael eu cofnodi ar gyfer cenedlaethau o chwaraewyr a chefnogwyr y dyfodol.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

Wrecsam yw man geni pêl-droed Cymru, felly dyma'r lleoliad delfrydol i ddathlu treftadaeth y gamp.

"Rydym wedi gweld nifer o lwyddiannau, yn enwedig yn y blynyddoedd diwethaf, ym mhêl-droed dynion a merched. Mae sicrhau bod y digwyddiadau dramatig ac emosiynol ar y llwyfan rhyngwladol, hanes a datblygiad pêl-droed clybiau yng Nghymru ac ysbryd ac amrywiaeth cymuned bêl-droed Cymru yn cael eu harddangos mewn un lle yn hanfodol ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

"Bydd yr amgueddfa newydd yn dod yn lleoliad allweddol yn y ddinas ac yn ychwanegu at yr hyn y mae’r Gogledd yn ei gynnig i dwristiaid ac ymwelwyr. Mae hefyd yn dod ar adeg gyffrous i Glwb Pêl-droed Wrecsam wrth iddyn nhw anelu at fynd yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed.

"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn enghraifft wych o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Wrecsam a’r Gogledd, yn enwedig yn dilyn y newyddion siomedig diweddar gan Lywodraeth y DU am y cais aflwyddiannus am y gronfa ffyniant bro."

Bydd llawer o themâu yn cael eu dangos yn Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn Wrecsam gan gynnwys cymunedau Cymraeg, diwylliant cefnogwyr, cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a phrofiadau LHDTC+.

Ers 2020, mae mwy nag £800,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru eisoes wedi helpu i benodi Curadur Pêl-droed ymroddedig a Swyddogion Ymgysylltu, i ddatblygu dyluniadau, ac ymgynghoriad ymgysylltu â'r cyhoedd ac ymgynghori cymunedol ledled Cymru i ddatblygu cynlluniau a chynnwys arfaethedig.

Mae gwarchod a hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Cymru yn rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Siân Gwenllian:

Roedd cynnwrf Yma o Hyd wedi lledaenu ar draws Cymru ac ar draws y byd y llynedd gyda’n tîm cenedlaethol yn cyrraedd cwpan y byd. Dangosodd hyn y balchder a’r mwynhad y mae pêl-droed wedi’u rhoi i ni yn ddiweddar a pha mor bwysig ydyw i Gymru.

"Bydd yr amgueddfa hon ar ei newydd wedd yn dathlu cyfraniad ein cenedl i'r gêm a'r dreftadaeth a'r etifeddiaeth y mae'n eu darparu ar ein cyfer i gyd. Mae Wrecsam, dinas sy'n llawn hanes pêl-droed, yn gartref addas ar gyfer y prosiect cyffrous hwn ac rwy'n falch iawn ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i wneud i hynny ddigwydd."

Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog:

Rwy'n ddiolchgar i'n partneriaid i gyd ein bod yn parhau i weithio'n agos gyda nhw ar y prosiect hwn gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

"Rydym nawr mewn cyfnod cyffrous iawn a bydd yr arian a gyhoeddwyd heddiw, yn amodol ar amodau a chymeradwyaeth Achos Busnes Llawn maes o law, yn golygu y gallwn barhau i ymgysylltu â chymunedau ac ar draws Cymru gyfan ar y prosiect, yn ogystal â datblygu'r cynnwys, y casgliadau a’r arddangosfeydd hyd at adeg adeiladu ac agor Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru."

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau a Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:

Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus i Wrecsam, cartref ysbrydol pêl-droed, i barhau i ddatblygu Amgueddfa Bêl-droed Cymru.

"Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn gan fod pêl-droed yn chwarae rhan mor fawr yn ein diwylliant a'n hunaniaeth a gall pobl Wrecsam a ledled Cymru nawr fod yn sicr y bydd Casgliad Pêl Droed Cymru yn cael ei gadw ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru.

"Bydd hyn yn cael ei ddatblygu ochr yn ochr ag amgueddfa newydd i Wrecsam sydd ar hyn o bryd yn gartref i gasgliad mawr a diddorol o wrthrychau hanesyddol sy'n dangos treftadaeth ddiwylliannol unigryw Wrecsam."