Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, heddiw (dydd Mawrth 3 Chwefror) yn cyhoeddi £60 miliwn o gyllid i hybu'r gwaith o ddarparu tai ledled Cymru.
Mae'r buddsoddiad yn cynnwys £50 miliwn dangosol ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol sy'n galluogi'r cynllun i ailagor ar gyfer 2026–27. Mae'r cyllid yn cael ei gyhoeddi'n gynnar i roi amser i'r sector baratoi, er mwyn darparu cartrefi'n gyflym.
Daw'r cyllid ochr yn ochr ag £11 miliwn ychwanegol mewn cyllid mae angen ei ad-dalu sydd ar gael ar gyfer y cynllun Benthyciadau Tir ar gyfer Tai y flwyddyn ariannol hon.
Mae'r cyllid yn rhan o ddatganiad i'r Senedd lle bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi'r cynnydd sylweddol a wnaed o ran darparu tai yn ystod y tymor llywodraeth hwn.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud:
Mae cartref sefydlog yn hanfodol er mwyn i bobl deimlo'n ddiogel, er mwyn eu lles ac ar gyfer eu rhagolygon yn y dyfodol, a dyna pam rydyn ni'n gwneud adeiladu tai yn ganolog i'r hyn rydyn ni'n benderfynol o'i gyflawni.
Er gwaethaf rhai o'r amgylchiadau mwyaf heriol y mae'r sector adeiladu tai wedi'u hwynebu mewn cenhedlaeth, gan gynnwys canlyniadau'r pandemig, tarfu ar gadwyni cyflenwi, costau deunyddiau a llafur cynyddol, a chyfnod hir o gyfraddau llog uchel, mae'r gwaith o ddarparu tai yng Nghymru wedi parhau i fod yn llwyddiannus.
Gwnaethon ni addo darparu rhagor o gartrefi - ac rydyn ni'n llwyddo i wneud hynny.
Bydd y £50 miliwn ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol yn galluogi darparu cartrefi o ansawdd da'n gyflym drwy brynu, addasu ac ailwampio eiddo gwag.
Mae'r rhaglen eisoes wedi cefnogi dros 2,700 o gartrefi, a disgwylir darparu 1,000 o gartrefi ychwanegol eraill drwy'r rhaglen eleni, wrth greu asedau sy'n aros o fewn y system tai cymdeithasol yn y tymor hir.
Bydd yr £11 miliwn ychwanegol o gyllid mae angen ei ad-dalu sydd ar gael ar gyfer y cynllun Benthyciadau Tir ar gyfer Tai, ynghyd â chyllid benthyciadau wedi'i ailgylchu, yn darparu cyfanswm o £23 miliwn y flwyddyn ariannol hon. Nod y cynllun yw cefnogi'r gwaith o ddarparu hyd at 850 o gartrefi ychwanegol drwy sicrhau safleoedd tir ar gyfer datblygu tai.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi ailagor y Cynllun Benthyciadau Cost Isel ar gyfer Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, gan roi £36 miliwn tuag at gynllun sydd eisoes ar y trywydd iawn i ddarparu dros 270 o gartrefi fforddiadwy newydd a gwelliannau i dros 4,000 o gartrefi presennol.
Cafodd dros £2 biliwn ei fuddsoddi mewn tai cymdeithasol yn ystod tymor presennol y Senedd, gan gynnwys £466 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon yn unig.
