Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd system drafnidiaeth Cymru hwb blwyddyn newydd cynnar heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r arian sylweddol hwn yn rhan o’r £83 miliwn o arian cyfalaf ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i dalu am gynlluniau ffyrdd a thrafnidiaeth yng Nghymru. 

Dywedodd Ken Skates: 

“Mae’n glir ers fy mhenodi’n Ysgrifennydd yr Economi fy mod yn credu mai seilwaith a hygyrchedd yw’r allweddi i sicrhau bod economi Cymru yn gwireddu ei gwir botensial.  Roedd fy nghyhoeddiad yn gynharach yn y mis ynghylch neilltuo’r arian sylweddol hwn yn dyst o hynny. 

“Mae’n bleser gen i felly gyhoeddi mwy eto o arian i Gymru fel rhan o’r gyllideb derfynol, gan gynnwys £15 miliwn trwy’n cronfa rhwydwaith trafnidiaeth leol sy’n gweithio i wneud y rhwydwaith yn fwy diogel a chydnerth ac i hwyluso llif y traffig ar ei hyd. 

“Mae’n amlwg bod rhai gwasanaethau trafnidiaeth o dan bwysau a chaiff yr arian hwn ei glustnodi i helpu i ysgafnhau’r pwysau hwnnw.  Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a’n partneriaid – boed hynny i wella’r rheilffyrdd, y bysys, y ffyrdd neu gynlluniau teithio llesol – i wneud yn siŵr bod yr arian hwn yn mynd at y gwasanaethau lleol sydd ei angen fwyaf. 

“Mae’r buddsoddiad diweddaraf yn ychwanegol at y £24m a gyhoeddais yn ddiweddar ar gyfer y mannau cyfyng ar ein ffyrdd.  Bydd yn rhoi cyfle inni wneud mwy i wella cyffyrdd sy’n creu tagfeydd ac i ystyried gwella’r cyfleoedd goddiweddyd ar y ffyrdd allweddol rhwng y De a’r Gogledd. 

“Rwy’n hyderus y gwellith brofiadau ar bob dull teithio yng Nghymru a dod â newidiadau go iawn i rwydweithiau lleol sydd o dan bwysau.  Rwy’n arbennig o awyddus i weld yr arian yn cael ei ddefnyddio i gynnal atebion arloesol a chynaliadwy i’r problemau a achosir gan fannau cyfyng ar ein ffyrdd a helpu i gynnal rhwydwaith mwy effeithiol ar draws y wlad." 

Mae’r £83 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru’n cynnwys £50 miliwn i brysuro ffordd osgoi Llandeilo ar yr A483.  Bydd y cynllun hwn yn gwireddu addewid Llywodraeth Cymru i wella amserau a diogelwch ar y coridor hwn rhwng y de a’r gogledd gan ddod â bendithion mawr eu hangen i gymunedau Llandeilo a Ffairfach.  

Wrth siarad am y ffordd osgoi, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi:

“Rydym wedi bod yn edrych ar y cynllun hwn ers tro bellach, ac rwy’n falch iawn o gael cyhoeddi’r arian hwn ar ei gyfer.  Bydd y rhofiau yn y pridd, gobeithio, cyn diwedd 2019 ac rwy’n rhagweld agor y ffordd ddwy flynedd wedi hynny. 

“Yn ogystal â’n hymrwymiad i gynnal gwelliannau mawr ar yr M4, A55, A40 a’r A494, rwy’n benderfynol o sicrhau nad oes neb yn cael bod heb welliannau i’w seilwaith.  Bydd y prosiectau hyn yn gwneud byd o wahaniaeth ar lefel genedlaethol yn ogystal ag i’r ardal, ac rwy’n disgwyl ymlaen yn fawr at dorchi llewys a dechrau gweithio ar y prosiectau hyn.”  

Dywedodd yr aelod dros yr amgylchedd ar fwrdd gweithredol Cyngor Sir Gâr, y Cyng Hazel Evans: 

“Roeddwn yn hynod falch clywed cyhoeddiad ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd osgoi Llandeilo.  Bydd yn gaffaeliad mawr i’r dref a’r cyffiniau.

“Mae Llandeilo ar ffordd drwodd bwysig ac mae angen y cynllun hwn i liniaru’r traffig trwm sy’n teithio trwy’r dref.  Bydd y trigolion a busnesau fel ei gilydd yn croesawu’r cyhoeddiad hwn.”