Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd newidiadau i’r ffordd y caiff arian ei ddefnyddio i gefnogi’r disgyblion hynny yng Nghymru sydd o dan yr anfantais fwyaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

 Y nod yw sicrhau y bydd y disgyblion hynny sydd mewn dosbarthiadau meithrin a derbyn a phlant sydd yng ngofal awdurdodau lleol yn elwa ar y newidiadau hynny.

Mae’r Ysgrifennydd Cabinet hefyd wedi cyhoeddi y bydd y Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ailenwi’n Grant Datblygu Disgyblion.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw buddsoddi dros £90 miliwn drwy’r Grant Datblygu Disgyblion dros y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn helpu disgyblion yng Nghymru sydd o dan yr anfantais fwyaf.

Roedd ymestyn y Grant Datblygu Disgyblion yn rhan allweddol o’r cytundeb blaengar rhwng y Prif Weinidog a Kirsty Williams.

Mae’r Ysgrifennydd Addysg wedi datgelu y bydd y rhaglen yn cael ei hymestyn yn helaeth, o’r swm sy’n cael ei neilltuo i’r disgyblion ieuengaf i ymestyn yr arian i ddisgyblion nad ydynt yn derbyn eu haddysg mewn ysgol, ac i ddarparu mwy o gymorth i blant sy’n derbyn gofal gan eu hawdurdod lleol.

Mae’r newidiadau a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill yn cynnwys:

  • Dyblu’r grant i £600 am bob disgybl sy’n gymwys mewn dosbarthiadau meithrin a derbyn.
  • Ymestyn y cymorth i bob plentyn tair oed sy’n derbyn gofal. Gall yr arian gael ei ddefnyddio hefyd i gefnogi plant a oedd gynt yn derbyn gofal ond sydd bellach wedi’u mabwysiadu.
  • Ymestyn y cymorth i ddisgyblion sy’n derbyn eu haddysg y tu allan i leoliadau ysgolion. Ar hyn o bryd, dim ond disgyblion sydd mewn unedau cyfeirio disgyblion sy’n gymwys i dderbyn cymorth.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Ein nod cenedlaethol o hyd yw bod pob plentyn yn cael y cyfle i lwyddo.

“Mae’n dda gen i weld bod y grant hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran torri’r cyswllt rhwng tlodi a chyrhaeddiad sydd wedi bod â’i afael yn dynn o fewn ein system addysg. Mae mwy o lawer i’w wneud fodd bynnag a dyna’r rheswm rydyn ni am ymestyn y grant i sicrhau bod pob plentyn yn cael dechrau da mewn bywyd.

“Rydw i hefyd yn cyhoeddi newid bychan ond arwyddocaol yn enw’r grant. Mae nid yn unig yn adlewyrchu’r arferion gwych sydd eisoes yn bodoli ar draws Cymru ond hefyd, oherwydd yr enw mwy positif, yn pwysleisio’n well gynnydd y disgyblion ochr yn ochr â’r bwriad i leihau’r blwch mewn cyrhaeddiad.”