Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £1.25m i ddarparu rhagor o gymorth ar gyfer iechyd meddwl plant a allai fod yn teimlo dan fwy o straen neu’n fwy pryderus oherwydd y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y cyhoeddiad ynglŷn â’r cyllid ei wneud gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg. Mae’r cyllid hwn yn cael ei ddarparu i wasanaethau cwnsela mewn ysgolion er mwyn iddynt allu ymateb i’r cynnydd yn y galw ers dechrau’r pandemig.

Mae cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i’r awdurdodau lleol ar gyfer cynnal gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn golygu bod modd cynyddu nifer y staff, ar ôl i ymarfer recriwtio cwnselwyr gael ei gynnal dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae canllawiau newydd ac adnoddau ar-lein ar gyfer iechyd meddwl hefyd yn cael eu datblygu i helpu i fynd i’r afael â materion eraill sy’n codi oherwydd y coronafeirws.

Bydd y cyllid ychwanegol hwn ar gael ym mlwyddyn ariannol 2020-21.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

Mae ysgolion yn gwneud llawer mwy nac addysgu plant – roedden ni’n gwybod hynny cyn hyn. Rhaid bod iechyd meddwl ac iechyd corfforol yn dda cyn sicrhau bod y dysgu yn dda.

Mae plant yn poeni am effaith y coronafeirws ar iechyd unigolion neu ar eu haddysg eu hunain. Rydyn ni’n disgwyl gweld cynnydd felly yn y galw am gymorth iechyd meddwl.

Gyda’r cyfyngiadau angenrheidiol ar yr amser y mae plant yn gallu ei dreulio allan yn yr awyr agored, er mwyn atal y feirws rhag lledaenu, rhaid inni hefyd baratoi ar gyfer yr effaith ar les emosiynol plant. 

Rydyn ni wedi bod yn buddsoddi mewn gwasanaethau cwnsela a chymorth iechyd meddwl dros y flwyddyn ddiwethaf. Rydyn ni wedi rhoi cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer darparu gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion ac rydyn ni wedi recriwtio rhagor o gwnselwyr.   

Mae angen inni ddechrau mynd i’r afael â materion nawr, a pheidio â gadael iddyn nhw bentyrru tan ar ôl i’r cyfyngiadau ddod i ben.

Dywedodd Sara Moseley, Cyfarwyddwr Mind Cymru:

Darparu cymorth gwell ar gyfer iechyd meddwl ein plant a’n pobl ifanc yw’r brif flaenoriaeth.

Rydyn ni’n gwybod bod llawer o blant a phobl ifanc yn teimlo’n ynysig ac yn bryderus oherwydd yr ansicrwydd a’r newidiadau y mae’r sefyllfa bresennol yn awgrymu sydd ar ddod. Mae’n hanfodol felly ein bod ni’n ymateb yn gyflym. 

Mae gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion yn elfen bwysig o’r hyn fydd ei angen ar ein plant.

Pan fyddan nhw’n mynd nôl i’r ysgol, mae angen inni wneud yn siŵr bod y gwasanaethau hyn yn cael eu cyflwyno ar y cyd â chwricwlwm sy’n darparu’r arfau sydd eu hangen arnyn nhw i wella eu hiechyd seicolegol a dull sy’n cyrraedd pob rhan o’r gymuned ysgol.