Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi y bydd myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn gymwys i gael mwy o gymorth ariannol o fis Medi ymlaen, fel rhan o becyn cymorth ychwanegol gwerth £3.5 miliwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cymorth ariannol ychwanegol ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yng Nghymru drwy’r Fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol, a fydd yn darparu bron i £10 miliwn dros y tair blynedd nesaf i helpu gweithwyr cymdeithasol y dyfodol.

Bydd israddedigion cymwys sy’n astudio am radd mewn gwaith cymdeithasol yn gallu cael hyd at £3,750 y flwyddyn dros gyfnod y cwrs tair blynedd, yn ogystal â’r cyllid sydd ar gael iddynt drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Bydd myfyrwyr ôl-raddedig yn gallu cael £12,715 y flwyddyn dros gyfnod eu cwrs dwy flynedd. Bydd hyn y lleihau’r benthyciad y bydd angen i fyfyrwyr ei ad-dalu ar ôl gorffen astudio.

Mae hwn yn gynnydd o fwy na 50% o gymharu â’r fwrsariaeth bresennol ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion.

Mae gwaith cymdeithasol yn newid; mae anghenion pobl yn newid, ac mae achosion yn dod yn fwy cymhleth. Mae’r pandemig wedi rhoi pwysau ychwanegol ar waith cymdeithasol ac mae heriau recriwtio a chadw staff yn cynyddu.

Mae’r Fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol yn ysgogi pobl i ddilyn hyfforddiant gwaith cymdeithasol, gyda’r nod o feithrin gweithlu gwaith cymdeithasol cynaliadwy yng Nghymru. Y cynnydd yn y fwrsariaeth yw’r cam cyntaf mewn cynlluniau i gynyddu’r nifer sy’n cael eu recriwtio i’r sector gwaith cymdeithasol, ac mae disgwyl i Gofal Cymdeithasol Cymru gyhoeddi cynllun ar gyfer y gweithlu gwaith cymdeithasol yr haf hwn.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

Bydd yr hyn rydym yn ei gyhoeddi yn darparu’r cymorth ariannol ychwanegol y mae mawr ei angen ar fyfyrwyr gwaith cymdeithasol. Bydd yn helpu mwy o bobl i hyfforddi fel gweithwyr cymdeithasol, eu helpu i aros ac i gwblhau eu cwrs ac yn meithrin capasiti o fewn y system. Drwy gefnogi gweithwyr cymdeithasol y dyfodol wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf i mewn i’r sector, gallwn recriwtio a chadw mwy o staff yn y sector.

Ein prif nod ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yw bod y proffesiynau i gyd yn cael yr un parch. Mae gweithwyr cymdeithasol yn chwarae rôl hollbwysig yn ei cymunedau, yn cefnogi pobl i gael rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. Maen nhw’n ganolog i’n system gofal cymdeithasol ac yn allweddol i ddarparu gofal effeithiol, sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion ac i’r cymunedau lle maen nhw’n byw.

Dywedodd Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, Albert Heaney:

Rwy’n falch ein bod wedi cael Gweinidogion Cymru i gytuno ar becyn o gymorth ariannol ychwanegol gwerth £3.5 miliwn ar gyfer myfyrwyr gwaith cymdeithasol newydd, tuag at eu cyrsiau ym mis Medi. Mae’r arian hwn yn cael ei ddarparu drwy’r Fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol, a bydd yn rhoi hwb ychwanegol i helpu myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yng Nghymru i ddilyn a chwblhau eu cyrsiau a chynyddu niferoedd ein gweithwyr cymdeithasol gwerthfawr.

Dywedodd Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, Sue Evans:

Rwy’n hynod o falch gweld bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth pellach i’r sector gofal cymdeithasol ac yn benodol, i weithwyr cymdeithasol yng Nghymru. Cyflwynodd Gofal Cymdeithasol Cymru’r dystiolaeth i alluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu’r fwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr gwaith cymdeithasol. Rydyn ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r gwaith gwerthfawr y mae gweithwyr cymdeithasol yn ei wneud ar draws Cymru, ac yn edrych ymlaen at weld mwy o fyfyrwyr yn ymuno â’r proffesiwn. Byddwn yn cyhoeddi cynllun gweithlu ar gyfer gwaith cymdeithasol yn fuan sy’n nodi’r ystod o gamau y mae angen inni eu cymryd gyda phartneriaid i ddatblygu a chefnogi gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru sy’n gweithio ym mhob cymuned yn ein gwlad. Mae gwella’r fwrsariaeth yn elfen allweddol o’r cynllun hwn.

Bydd rhagor o fanylion ar y cyllid newydd hwn ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.